Beth rydym yn ei wneud
Ni yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu a hybu
chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru.
Ni yw'r prif gynghorwr ynghylch yr holl faterion yn ymwneud â
chwaraeon i Lywodraeth Cynulliad Cymru ac rydym yn gyfrifol am
ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol i chwaraeon elitaidd a
chwaraeon ar lefel gyffredin yng Nghymru.
Rydym yn llwyr gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer
cenedl egnïol yn gorfforol, fel a amlinellir yn strategaethau
Dringo'n Uwch a Chreu Cymru Egnïol.
Ein nod yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon
ar lefel gyffredin ond hefyd darparu i'n hathletwyr addawol y
gefnogaeth maent ei hangen er mwyn cystadlu'n llwyddiannus ar
lwyfan y byd.
Gwaith partneriaeth
Mae ein gweledigaeth o uno cenedl chwaraeon falch yn golygu ein
bod yn gweithio'n agos â'n partneriaid allweddol
er mwyn sicrhau bod y chwaraeon a gyflwynir ac a ddatblygir yn
genedlaethol ac yn lleol yn cynnig cyfle i bawb yng Nghymru ragori
yn y gamp o'u dewis hwy.
Staff ymroddedig ac angerddol
Mae ein tîm ymroddedig ac angerddol o staff, a arweinir gan y
Cadeirydd, yr Athro Laura McAllister, yn rhannu eu gwybodaeth a'u
harbenigedd gyda'r sector chwaraeon ac maent wedi datblygu enw
rhagorol ymhlith ein partneriaid allweddol.
Ein rôl yw cynghori ac ychwanegu gwerth, ac mae hyn yn ganolog
i'n dibenion craidd fel y sefydliad chwaraeon yng
Nghymru.
Siarter Brenhinol
Sefydlwyd Chwaraeon Cymru gan Siarter Brenhinol ar 4 Chwefror
1972, gyda'r nodau o "feithrin gwybodaeth am chwaraeon a hamdden
gorfforol, a'r arfer o gymryd rhan ynddynt, ymhlith y cyhoedd yng
Nghymru'n gyffredinol, a darparu cyfleusterau ar gyfer hynny". Fe'i
cyllidir gan gymorth grant blynyddol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru
a chan incwm a gynhyrchir o'i weithgareddau.
I weld copi o'r Siarter Brenhinol, cliciwch yma.