Ein Gweledigaeth
Rydym yn credu bod chwaraeon yng Nghymru yn wynebu newid na
welwyd mo'i debyg erioed o'r blaen mewn diwylliant.
Nodweddir y diwylliant hwn gan weledigaeth glir a heriol i
ysbrydoli'r gwaith o gyflwyno canlyniadau mwy a gwell ar gyfer
chwaraeon.
Gweledigaeth i'r sector cyfan
Bydd gweledigaeth y sector yn ein galluogi i gyflwyno agenda
chwaraeon a gweithgarwch corfforol Llywodraeth Cymru yn well; gan
ysbrydoli, datblygu a chyflwyno profiadau cadarnhaol i
bawb.
Nid yw'r weledigaeth yn newydd o angenrheidrwydd. Rydym yn dal i
ganolbwyntio ar gael mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn amlach ac ar
Gymru'n sicrhau llwyddiant chwaraeon rhagorol ar lwyfan y
byd.
Ond mae'n amlwg yn wahanol - yn uchelgeisiol ei sgôp, yn fentrus
ei chanlyniadau ac yn hynod heriol i bawb ohonom sy'n gweithio yn y
byd chwaraeon. Mae'n gofyn i bob un ohonom ymroi i fod yn
sefydliadau sy'n perfformio'n
dda.
Hyrwyddo chwaraeon
Rydym yn gweld manteision chwaraeon yn yr ystyr ehangaf, nid yn
unig yn cael effaith ar wella iechyd corfforol y genedl ond hefyd
yn dwyn cymunedau at ei gilydd, yn meithrin hyder yn yr hen a'r
ifanc, yn darparu sgiliau a hyfforddiant newydd ac yn denu
buddsoddiad i Gymru.
Byddwn yn rhoi hwb i'n hymdrechion i hyrwyddo effaith gadarnhaol
chwaraeon ar bob agwedd ar fywyd Cymru ac yn annog partneriaid i
fynegi manteision chwaraeon i
bawb.
Uno cenedl sy'n caru'r campau

Gweledigaeth y sector yw Uno cenedl sy'n caru'r
campau, lle mae pob plentyn
wedi gwirioni ar chwaraeon am oes a Chymru'n Genedl o
Bencampwyr.
Cefnogir y weledigaeth gan flaenoriaethau sydd wedi'u diffinio'n
bendant, a gellir darllen mwy am y rhain yma.
Hynod feiddgar
Bydd y weledigaeth hon yn helpu i sbarduno ein cymhelliant a'n
hymroddiad i gyflawni'r gorau un er budd chwaraeon Cymru.
Nid dilyn proses newydd mae'n ei olygu, ond mabwysiadu agwedd
feddyliol newydd a gweithio'n wahanol. Nid beth rydym yn ei wneud
sydd angen bod yn wahanol, ond sut rydym yn ei wneud.
Eisiau rhagor o wybodaeth?
Gallwch lawrlwytho copi o'n gweledigaeth ni
yma ac mae croeso i chi roi gwybod i ni beth yw eich barn am y
weledigaeth drwy gysylltu support@sportwales.org.uk
Ydych chi, eich clwb, eich ysgol neu eich grŵp chwaraeon yn
chwarae eu rhan mewn cyflawni ein gweledigaeth ni ar gyfer
chwaraeon yng Nghymru. Rydym eisiau clywed gennych felly cofiwch
gysylltu support@sportwales.org.uk