Blaenoriaethau
Mae'r blaenoriaethau yn y diagram isod yn frics adeiladu ar
gyfer cyflwyno Cymru lle mae chwaraeon wrth galon bob cymuned, yn
cael effaith gadarnhaol ar fywydau
pawb.
Dim ond drwy gydweithio y gellir cyflawni hyn ond, i ni ein
hunain, mae hefyd yn golygu gweithio ar draws adrannau; unioni ein
gwaith i gyflwyno themâu penodol, ar draws y llwybr chwaraeon:

Blaengaredd Mewn Chwaraeon
Mae gan Gymru sector chwaraeon sy'n croesawu cydweithio, yn
annog ffyrdd newydd o gyflwyno cyfleoedd i sicrhau cynnydd mewn
cyfranogiad ac yn gwella perfformiadau elitaidd.
Sgiliau ar gyfer Oes mewn Chwaraeon
Dysgir i bob plentyn a pherson ifanc sgiliau a hyder o oedran
ifanc i fod yn llythrennog yn gorfforol drwy gyfrwng profiadau
chwaraeon o safon uchel sy'n atyniadol iddyn nhw.
Cymunedau Chwaraeon
Mae gennym gymunedau gyda chwaraeon yn rhan greiddiol ohonynt,
cymunedau sy'n cynnig cyfleoedd cydlynol i bob plentyn a pherson
ifanc ymgymryd ag o leiaf pum awr o chwaraeon diogel a safonol bob
wythnos a chynnal eu cyfranogiad drwy gydol eu hoes fel
oedolyn.
Rhagoriaeth Mewn Chwaraeon
Rydym yn genedl sy'n rhagori mewn meithrin talent chwaraeon ac
sy'n cyflawni llwyddiant parhaus ar y llwyfan rhyngwladol.
Meithrin Gweithlu Medrus ac
Angerddol
Cefnogir pawb sy'n ymwneud â chwaraeon, boed ar lefel
broffesiynol neu wirfoddol, i drosglwyddo eu sgiliau mewn
chwaraeon, a'u hangerdd drostynt, i bobl
Cymru.
Am ragor o wybodaeth am ein blaenoriaethau ni a sut rydym am
geisio eu gwireddu, lawrlwythwch y weledigaeth gyflawn yma.