Cenedl o Bencampwyr
Bod y gorau y gallwn ni
Mae gennym ni gyfoeth o hanes yn y byd chwaraeon yng Nghymru.
Byddwn yn mynd ati'n frwd i adeiladu ar sylfeini ein llwyddiant i
fod y gorau y gallwn ni ar y lefelau uchaf.
Y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd diwethaf oedd y Gemau
Olympaidd mwyaf llwyddiannus i Gymru ers 100 mlynedd, gan ennill
pum medal a hefyd enillwyd bron i chwarter medalau aur Paralympiaid
Prydain Fawr gan athletwyr
Cymru.
Bellach mae gennym ni nifer arwyddocaol o athletwyr gwrywaidd a
benywaidd sydd wir o safon byd ac sy'n enwog ledled y byd am eu
cyflawniadau chwaraeon: Y Farwnes Tanni Grey Thompson, David
Roberts a Nicole Cooke i enwi dim ond rhai.
Buddsoddi yn y dyfodol
Yn dynn ar eu sodlau mae cenhedlaeth newydd o dalent sy'n gwneud
ei marc ar lefel iau a byddwn yn darparu i'r rhain bob cyfle i fod
yn fuddugol ar lwyfan y byd, drwy gyfrwng cefnogaeth a gwasanaethau
penodol.
Rydym ni eisiau buddsoddi yn nhalent y dyfodol ac elwa cymaint
ag y gallwn ni o'r teimlad o falchder ac o gyflawni a geir yng
Nghymru yn sgil y Gemau Cymanwlad, Olympaidd a Pharalympaidd. Mae'n
ymwneud â buddsoddi mewn treftadaeth i bara am
byth.