Pob Plentyn Wedi Gwirioni ar Chwaraeon Am Oes
Rhoi llais i bobl ifanc
Rydym am weld pob plentyn yn profi'r manteision cadarnhaol a
geir o gymryd rhan mewn chwaraeon. Nid yn unig y manteision i
iechyd, ond hefyd i hyder ac o ran y sgiliau newydd, fel sgiliau
arwain, a ddatblygir wrth gymryd rhan mewn chwaraeon. Rydym eisiau
rhoi llais i bobl ifanc a'u hannog i ysbrydoli eu cyfoedion i
wirioni ar chwaraeon am oes.
Drwy
gyfrwng ein rhaglenni llwyddiannus lle dysgir sgiliau symud i blant
a meithrin hyder ynddynt i gymryd rhan mewn chwaraeon a
gweithgareddau a fydd yn eu cyffroi nhw ac yn eu denu i gymryd rhan
am oes, mae gan addysg ran gwbl allweddol i'w chwarae.
Mae ysgolion yn rhan ganolog o addysg gorfforol, iechyd a lles
pob plentyn. Ac mae rôl yr athro'n allweddol. Mae arnom angen mwy o
athrawon sy'n fedrus, yn hyderus ac yn frwdfrydig i addysgu AG,
athrawon sy'n dangos ymrwymiad pellach i dderbyn hyfforddiant fel
athrawon.
Mae arnom angen rhagor o gyfleoedd i blant ddal ati a sicrhau
cynnydd yn eu hoffter o chwaraeon, mewn clybiau y tu allan i oriau
ysgol ac wedi iddynt adael yr ysgol. Mae'r cyswllt rhwng y
ddarpariaeth yn yr ysgol ac yn y gymuned yn gwbl hanfodol os ydym
ni am gyflawni ein dyhead o gynnwys plant a phobl ifanc am oes.
Ein dyhead
Ein dyhead yw helpu i greu amgylchedd hyfyw lle mae aelodaeth o
glybiau'n parhau i dyfu a lle ceir amrywiaeth eang o chwaraeon, o
dimau cystadleuol i weithgareddau hamdden; a'r cyfan wedi'u creu er
mwyn ysbrydoli pob person ifanc i fod yn egnïol am
oes.