Uno cenedl sy’n caru’r campau
Mae uno yn air pwerus sy'n helpu i fynegi ein rôl ni mewn dwyn
partneriaid a phobl at ei gilydd; awdurdodau lleol, cyrff rheoli
chwaraeon, cymunedau, hyfforddwyr, oedolion, pobl ifanc, plant a'r
genedl gyfan i gefnogi chwaraeon ac i gymryd rhan a rhagori
ynddynt.
Mae balchder yn rhywbeth rydym yn ei deimlo wrth i ni weld
ffrwyth ein llafur yn helpu i roi hwb i hunanhyder unigolion,
cydlynedd cymunedol, cyflawniadau athletwyr a llwyddiannau
timau.
Ac rydym yn rhannu'r llwyddiant hwn ag eraill. Rydym yn gweld
chwaraeon fel un o nodweddion pendant y diwylliant Cymraeg ac rydym
am weld hyn yn cael ei gydnabod ar y lefelau uchaf.
Fel cenedl, rydym yn enwog am ein hangerdd dros gefnogi ein
clybiau lleol a'n timau cenedlaethol ar lwyfan y byd ac am ein
hymrwymiad i hynny. Rydym eisiau cael ein gweld fel cenedl sydd yr
un mor angerddol dros gymryd rhan mewn chwaraeon ag ydyw dros annog
ei thimau a'i hathletwyr ymlaen.
Rydym yn genedl fechan ond eto'n un sy'n rhagori ar unrhyw
ddisgwyliadau. Does ond rhaid edrych ar ein llwyddiant yn y Gemau
Olympaidd, Paralympaidd a Chymanwlad diweddar i brofi hyn, ynghyd
â'r cystadlaethau mawr llwyddiannus sydd wedi'u cynnal gennym yng
Nghymru yn ddiweddar, o Rowndiau Terfynol Cwpan yr FA i Gwpan
Ryder. Rydym yn genedl gyda chwaraeon wrth galon ein hunaniaeth a'n
cymunedau.