Ein Tîm

Yn Chwaraeon Cymru, ein prif ased ni yw ein staff ni.        

Cyflwyno ein Gweledigaeth ni ar gyfer y sector cyfan yw ein prif amcan ni ac rydym yn cydnabod bod rhaid i ni yn Chwaraeon Cymru roi her briodol i'n partneriaid, a'u cefnogi, er mwyn cyflawni'r weledigaeth.             

Rydym ni eisiau rhoi grym i'n partneriaid i wella perfformiad a chyfranogiad mewn chwaraeon yng Nghymru, gan sicrhau eu bod yn rhannu'r cyfrifoldeb am gyflwyno canlyniadau uchelgeisiol. Mae gan ein staff ni wybodaeth a sgiliau i hwyluso'r newid mawr hwn ar y tir gyda'n partneriaid. Rydym ni am i'n partneriaid ni i gyd fod yn uchelgeisiol mewn perthynas â'u meysydd a'u chwaraeon, gyda'n staff ni yn eu helpu i gyflawni eu potensial.           

Bwrdd

Dan arweiniad ein Cadeirydd ni, Yr Athro Laura McAllister, mae ein Bwrdd yn cynnwys 13 o unigolion hynod brofiadol o bob cefndir, gan gynnwys addysg, iechyd, busnes ac wrth gwrs, chwaraeon.  Cewch ragor o wybodaeth am ein Bwrdd ni ac am Laura drwy ddarllen ein tudalen ni am Aelodau'r Bwrdd.

Rheoli     

Mae gan yr Uwch Dîm Rheoli gyfrifoldeb am gyflwyno ein Cynlluniau Corfforedig a Busnes ni yn gyffredinol, yn ogystal ag elfennau amrywiol o'n datblygiad trefniannol ni, a gellir darllen rhagor o wybodaeth am hynny yn eu portreadau:

  • Dr Huw Jones - Prif Weithredwr
  • Cyfarwyddwr Corfforedig - Chris James
  • Cyfarwyddwr Corfforedig - Sian Thomas
  • Cyfarwyddwr Corfforedig - Sarah Powell
  • Cyfarwyddwr Corfforedig - Mark Frost

Tîm Cymru

Mae gennym ni ymrwymiad cynyddol i ddod yn sefydliad sy'n perfformio'n dda ac rydym yn cydnabod y rôl bwysig y gall cydweithio gyda'n partneriaid, yn rhai traddodiadol a'r rhai llai traddodiadol, ei chwarae mewn cyflawni ein hamcan ni o un o cenedl sy'n caru'r campau.

Gyda 160 o staff wedi'u lleoli mewn pedair canolfan yng Nghymru, y pencadlys yng Nghaerdydd a'r swyddfeydd rhanbarthol yng Nghaerfyrddin, Glannau Dyfrdwy a Chaernarfon, rydym yn gweithredu'n rhanbarthol wrth ddatblygu chwaraeon. 

I gysylltu ag unrhyw un o'n swyddfeydd ni, ewch i'r dudalen Cysylltu â Ni.

Byddwn yn gweithio'n agosach nag erioed gyda'n partneriaid allweddol ni gan feithrin partneriaethau a chyfleoedd dysgu gyda sectorau newydd, a darparu'r glud strategol hwnnw a fydd yn dod â phob rhan o'r byd chwaraeon yng Nghymru at ei gilydd, o lawr gwlad i lefel elitaidd.                       

Adnoddau Mewnol