Aelodau'r Cyngor

Cadeirydd - Yr Athro Laura McAllisterLaura McAllister

Mae Laura McAllister yn Athro Llywodraethu yn Ysgol Reoli Prifysgol Lerpwl. Cafodd ei haddysgu yn Ysgol Gyfun Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr ac mae wedi graddio o Ysgol Economeg Llundain a Phrifysgol Caerdydd, ble cwblhaodd PhD mewn gwleidyddiaeth. Roedd Laura yn aelod o Gomisiwn Richard ar y Pwerau a'r Trefniadau Etholiadol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a oedd yn adrodd yn ôl ym mis Mawrth 2004, a darparodd gyngor ymchwil i'r Panel Annibynnol ar Dâl a Chefnogaeth i ASau yn 2008-09. Mae'n Athro Ymweld Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Dechnoleg Queensland, Brisbane, Awstralia ac Ysgol Weinyddu Genedlaethol Tsieina yn Beijing.

Mae Laura yn gyn-bêl droedwraig ryngwladol sydd wedi bod yn gapten ar dîm cenedlaethol Cymru ac wedi ennill 24 o gapiau. Ar hyn o bryd mae Laura yn Gadeirydd Chwaraeon Cymru (Cyngor Chwaraeon Cymru gynt) ac mae'n Aelod o Fwrdd UK Sport ac Ymddiriedolaeth Bêl Droed Cymru. Mae'n noddwr prosiect i chwaraeon ym Mhrifysgol Lerpwl ac mae'n cadeirio Grŵp Strategaeth Chwaraeon Lerpwl. Mae'n Ymddiriedolwr gyda Stonewall UK a'r Sefydliad Materion Cymreig a hefyd yn Aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Cymru yng Nghyngor Prydain a'r panel beirniaid ar gyfer Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Wales.

Hywel MeredyddHywel Davies

Y Parchedig Hywel Davies yw Cyfarwyddwr Tearfund Cymru a Gweinidog Capel Cildwrn yn Llangefni, Ynys Môn. Am y chwe blynedd diwethaf, mae wedi bod yn Is-Gadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Ynys Môn ac yn Hyrwyddwr Iechyd Corfforedig y Bwrdd. Mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Menter Môn ac ar Fwrdd Llysoedd Gogledd Cymru, Cyngor WCVA ac Energywatch Cymru.  

Ar hyn o bryd, mae Hywel hefyd yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Llais Defnyddwyr Cymru ac yn Is-Gadeirydd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol. Mae hefyd yn Aelod Swyddfa Cymru o'r Panel Penodi ar gyfer Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru.                                            

Richard PalmerRichard Palmer - CBE

Daw Richard o Langwm, Sir Benfro ac mae'n Is Lywydd Gweithredol gyda Chymdeithas Olympaidd Prydain ac yn Gyfarwyddwr Mudiad Olympaidd Prydain. Mae hefyd yn gyfarwyddwr bwrdd gyda Sports Coach UK ac mae wedi mynychu 8 o Gemau Olympaidd neu Gymanwlad fel Prif Weithredwr.    

Roedd hefyd yn Gyfarwyddwr Technegol gyda chais Olympaidd Llundain 2012 ac yn gynghorwr i Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad ar gyfer gemau Kuala Lumpur, Manceinion a Melbourne.

Adele BaumgardtAdele Baumgardt

Mae Adele yn ymgynghorydd annibynnol sy'n arbenigo ar bob agwedd ar gydymffurfio â deddfwriaeth cydraddoldeb, gan weithio'n helaeth gyda chyflogwyr yng Nghymru ac ar hyd a lled y DU.  

Mae Adele wedi gweithio'n benodol ar faterion perthnasol i gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith grwpiau a dangynrychiolir, yn arbennig merched a genethod ac, yn 2008, cafodd ei phenodi yn Gomisiynydd gyda Chomisiwn Cenedlaethol y Merched.

Robert HarrisRobert Harris

Mae'r Cynghorydd Robert Harris yn byw ac yn gweithio yn Llanbedr Pont Steffan ac mae'n weithiwr cymdeithasol cymwys sydd wedi cynrychioli Llanbedr Pont Steffan ar Gyngor Dyfed ac, yn ddiweddarach, Cyngor Sir Ceredigion ers 1981. Mae hefyd yn aelod o Gyngor Tref Llanbedr Pont Steffan.

Yn ogystal â phrofiad helaeth o lywodraeth leol, arferai fod yn Hyfforddwr Cyfeiriannu Cenedlaethol Cymru ar un adeg, ac yn Bencampwr Hŷn a Dyfarnwr Pêl Droed gyda 15 mlynedd o brofiad, gan gynnwys Cynghrair Bêl Droed Cymru.                                     

David Lloyd RobertsDavid Lloyd Roberts

Mae David yn bartner yng nghwmni cyfreithwyr Huw James yng Nghaerdydd.    

Wedi'i eni ym Mangor, cafodd ei addysgu yn Wrecsam ac ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Bu'n bencampwr sbrint Cymru naw gwaith a chynrychiolodd David Brydain yn y 100 metr a'r ras gyfnewid 4 x 100 metr rhwng 1974 a 1978, yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd, a hefyd cynrychiolodd Gymru yn y Gemau Cymanwlad.

Martin WarrenMartin Warren

Bu Martin yn cynrychioli Cymru mewn criced yn yr ysgol ac aeth yn ei flaen i chwarae i Glwb Criced Caerdydd am 12 mlynedd.

Yn Gyfrifydd Siartredig, daeth Martin yn gymrawd Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yn 1989 ac ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Cyllid yn APCC. Am 5 mlynedd, bu Martin yn Gadeirydd APCC Canol Caerdydd, gan drefnu'r gwaith o uno'r ddau glwb i Gynghrair Cymru.  

 

John BaylisYr Athro John Baylis

Cynrychiolodd John Baylis Brifysgolion Cymru mewn pêl droed ac mewn athletau. Hefyd, chwaraeodd yng nghynghreiriau criced Gogledd a Gorllewin Cymru.

Hyd nes iddo ymddeol, roedd yn Athro mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ac yn Ddirprwy Is Ganghellor yn gyfrifol am Chwaraeon, Cysylltiadau Allanol ac Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Abertawe.

Cyn hynny, roedd wedi bod yn Athro ac yn Ddeon mewn Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Hefyd, treuliodd bum mlynedd fel aelod o Fwrdd Rheoli Pwll Nofio Cenedlaethol Cymru.                            

Richard CuthbertsonRichard Cuthbertson

Mae Richard Andrew Cuthbertson yn Gadeirydd ar DMM Group, sy'n gwneud ac yn gwerthu offer chwaraeon a diogelwch.                      

Mae hefyd yn Gadeirydd Damos Construction.  Mae'n Gadeirydd Wild Country Group, gweithgynhyrchydd offer dringo creigiau, roedd yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru (1997-2008) ac yn Aelod o Gyngor Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghymru (2002-2008).  Mae'n Drysorydd y Rhwydwaith Amgylcheddol i Bobl Dduon ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Cofnod ac Agored Cymru.

Andrew MorganAndrew Morgan

Mae Andrew Bennett Morgan yn Gyfarwyddwr Cwpan Ryder Cymru 2010 Cyfyngedig ac yn Gyfarwyddwr Undeb Golff Cymru.

Mae hefyd yn Gadeirydd Datblygu Golff Cymru ac yn Aelod o Bwyllgor Archwilio Cwpan Ryder Cymru.

Mae'n aelod o Bwyllgor Codi Arian a Marchnata Tenovus, yr Elusen Gancr yng Nghymru.

Mae'n Ddeintydd yng Nghaerdydd.

Simon PirotteSimon Pirotte

Simon Pirotte yw Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Powys. 

Cyn bod yn y swydd hon, roedd yn Ddirprwy Bennaeth Coleg Pen-y-bont ar Ogwr a hefyd yn Gyfarwyddwr Chwaraeon, Ffordd o Fyw a Busnes yng Ngholeg Abertawe. Mae wedi bod yn Ddarlithydd yn APCC ac yng Ngholeg Gorseinon ac yn Bennaeth Drama yn Ysgol Uwchradd Ranbarthol Westchester yn Los Angeles.

Mae'n Gyfarwyddwr Artistig gyda Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg a Chwmni Theatr Steel Wasp.

Paul ThorburnPaul Thorburn

Paul Thorburn yw Cyfarwyddwr Rheoli Paul Thorburn Limited, Cwmni Ymgynghorol yn Datblygu Busnesau. Rhwng 2006 a 2010, roedd yn Rheolwr Datblygu Strategol gyda Rygbi'r Gweilch Cyfyngedig. Rhwng 2007 a 2010, roedd yn Aelod Pwyllgor gydag European Rugby Limited. Mae wedi bod yn Rheolwr Prosiectau Arbennig i Undeb Rygbi Cymru ac roedd yn Gyfarwyddwr y Twrnament ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn 1999. 

Arferai chwarae rygbi i Glwb Rygbi Castell-nedd a thros Gymru gydag Undeb Rygbi Cymru, fel cefnwr. Mae hefyd wedi bod yn gapten ar Gymru. Rhoddodd y gorau i chwarae yn 1991.

Alan WatkinAlan Watkin

Tan yn ddiweddar, Alan Watkin oedd Prif Swyddog Llyfrgelloedd, Hamdden a Diwylliant Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Roedd yn Ymgynghorydd Diwylliannol i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn Aelod o Fwrdd Ymgynghorol yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth ar gyfer yr Olympiad Diwylliannol yng Nghymru ac yn Aelod o Gyngor Llyfrau Cymru. Roedd hefyd yn Aelod o Banel Adolygu Celf Cymru.         

Safle mewngofnodi aelodau'r bwrdd

Mae'r safle hwn ar gyfer Aelodau ein Bwrdd, iddynt gael gweld gwybodaeth allweddol. Mewngofnodwch yma.