Stori Anthony
Gyda theitl a record byd wedi'u sicrhau eleni eisoes gan ei
addewid ar gyfer Llundain 2012, mae Anthony Hughes wedi ychwanegu
teitl Hyfforddwr y Flwyddyn Chwaraeon Cymru at ei restr o
lwyddiannau.
Yn Rheolwr Perfformiad Cenedlaethol gyda Chwaraeon Anabledd
Cymru, mae Anthony yn Brif Hyfforddwr ac yn Rheolwr y Rhaglen
Genedlaethol ar gyfer y Rhaglen Athletau Anabl Elitaidd sydd wedi'i
lleoli yn y Ganolfan Athletau Dan Do
Genedlaethol.
Yn cael y clod am ddatblygu academi enwog Chwaraeon Anabledd
Cymru a chynhyrchu byddin o athletwyr elitaidd, mae Anthony o
Benarth wedi helpu i wneud Cymru'n un o'r gwledydd mwyaf
llwyddiannus, bunt am bunt, yn y byd para-chwaraeon.
O blith y 31 o athletwyr a oedd yn rhan o sgwad Prydain Fawr yng
Ngemau Paralympaidd Beijing yn 2008, roedd naw o'r rhain yn
Baralympiaid am y tro cyntaf wedi dod drwy rhaglen yr
Academi.
Ym Mhencampwriaethau Athletau Hŷn y Byd a gynhaliwyd gan y
Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol yn Seland Newydd fis Ionawr 2011,
cafwyd perfformiadau eithriadol dda gan athletwyr Cymru a daethant
adref gyda 18% o gasgliad medalau Prydain Fawr.
Enillodd ei seren ifanc, Nathan Stephens, yr aur yn y gwaywffon
F57, cipiwyd arian gan Aled-Sion Davies yn y Discys F42 a chafodd
Kyron Duke fedal efydd yn y Gwaywffon
F40.
Fis Awst, torrodd Stephens y record byd yng Nghystadleuaeth Agored
y Weriniaeth Tsiec, gan gofnodi pellter o 41.37m.
Enillodd Hughes, sy'n ddefnyddiwr cadair olwyn ei hun, yr anrhydedd
yn y categori i Hyfforddwyr Perfformwyr
Anabl.
Os oes gennych chi ddiddordeb yn Chwaraeon Anabledd Cymru ewch i
wefan FfChAC.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn hyfforddi neu
wirfoddoli, yna ewch i'n tudalen hyfforddi ni neu cofrestrwch heddiw drwy
gyfrwng Tu Ôl
i Bob Seren