Stori Jo
Gwirionodd Joanne Nicholas ar redeg tra oedd yn y brifysgol, pan
gafodd ei hannog gan ei ffrindiau i ddechrau cymryd rhan. Ychydig a
wyddai hi bryd hynny y byddai'n cymryd rhan mewn cystadlaethau ac
yn gosod nodau uchelgeisiol iddi hi ei hun yn fuan iawn. Meddai
Jo:
"pan ddechreuais redeg, doeddwn i ddim hyd yn oed yn gallu
rhedeg 200m at y blwch postio heb aros i orffwys!
Y trobwynt oedd ymuno â chlwb rhedeg lleol (Rhedwyr Dinas a
Phenarth). Mae ganddynt redwyr o bob gallu a sesiynau i ddarparu ar
gyfer hyn. Pan ddechreuais yno, roedd yn un o'r rhedwyr araf ond
buan iawn roeddwn yn gwneud cynnydd gyda chyfarwyddyd
hyfforddi da a phobl yn gwmni i mi i
redeg.
Rwyf wedi gwirioni erbyn hyn ac wedi dechrau cymryd rhan mewn
rasys hyd yn oed.
Dechreuais gyda'r ras fywyd 5K (a oedd yn ymddangos yn hir ar y
pryd) ond nawr rwy'n rhedeg rasys 10K a hanner marathonau. Rwyf
wedi gwella'n sylweddol dros y blynyddoedd a'm nod erbyn hyn yw
rhedeg 10K mewn llai na 40 munud a hanner marathon mewn 1 awr 30
munud. Rwyf bron
yna!
Mae'r dyhead i gyflawni hyn yn gwneud i mi ddal ati. Fy
nghyflawniad mwyaf wrth redeg hyd yma yw bod y fenyw gyntaf yn 10K
Bradley Stoke - enillais dlws a basged o ffrwythau - fy ngwobr
gyntaf erioed am redeg!
A pham fod Jo yn gwneud hyn?
Mae'n creu rhyw fwrlwm ynof i; rhyw gyffro. Mae ymarfer yn
ffordd wych o leddfu holl straen y dydd a gwneud i chi deimlo ar
ben eich digon unwaith eto."
Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan stori Jo, beth am
gofrestru gyda FyChwaraeonCymru heddiw, ble gallwch
greu eich proffil gweithgarwch eich hun, cofnodi eich gweithgarwch
wythnosol a hyd yn oed greu eich llwybrau rhedeg eich hun.