Stori Nofio Am Ddim yn Rhydaman

Mae grŵp dros 50 oed o Rydaman yn cerdded ac yn nofio ei ffordd at ffitrwydd.

Mae'r grŵp 'Cerdded a Nofio' yn cwrdd yn wythnosol yng Nghanolfan Hamdden Rhydaman ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers ei sefydlu gan ddefnyddio grant o £10,000 gan Gronfa Wella Nofio Am Ddim.

Ar ddechrau'r sesiwn, mae'r criw ifanc eu ffordd yn cerdded ryw ddwu neu dair milltir o amgylch y dref. Wedi codi tymheredd y corff wrth gerdded, mae'r grŵp wedyn yn mynd i'r pwll nofio i oeri wrth nofio. Bydd rhai'n manteisio ar gyfle i wneud dipyn o aerobic dŵr hefyd, gan elwa o effaith lesol yr ymarfer ysgafn hwn ar eu cymalau.

Mae Olwen Davies,66, o Dycroes, yn aelod rheolaidd o'r grŵp ac ymunodd wedi colli ei gŵr. "Doeddwn i ddim yn gallu nofio cyn ymuno â Cerdded a Nofio ond diolch i help a chefnogaeth yr aeldau eraill, rwy'n gallu nawr ac mae hyn wedi rhoi hwb i'm hyder."

Mae'r nain, sydd hefyd yn helpu gyda Chlwb Rygbi Iau Tycroes, yn mwynhau agwedd gymdeithasol y grŵp hefyd. Meddai Olwen wedyn, "Yn ogystal â'r manteision i iechyd a lles, rydym yn cyd-wneud yn dda i gyd hefyd ac yn mwynhau cwmni ein gilydd. Mae ysbryd tîm da yma hefyd, felly rydym i gyd yn annog ein gilydd. Byddwn yn ei argymell i unrhyw un"

Meddai Jo Davies,rheolwr Canolfan Hamdden Rhydaman: "Mae'r ffaith bod y sesiynau am ddim yn golygu bod y rhai sy'n cymryd rhan yn gallu bod yn heini ac iach heb dalu ceiniog. Wrth i bobl fynd yn hŷn, mae'n bwysig eu bod yn parhau i fod yn egnïo ac yn cadw'n heini ac mae nofio'n ffordd ragorol o wneud hyn, yn enwedig am ei bod yn gamp sydd ddim yn rhoi gormod o bwysau ar y cymalau."

Mae ystod oedran y grŵp yn eang, gyda'r hynaf, Bryn Gill, yn 73. Roedd Bryn yn un o'r aelodau a sefydlodd y grŵp, ynghyd ag Ann Lewis.

Mae rhwng 15 ac 20 o bobl yn mynychu'r sesiynau'n rheolaidd ac maent wedi mynd o nerth i nerth ers eu sefydlu. Mae'r grŵp yn gyfrifol am gynllunio'r teithiau cerdded ac am y defnydd effeithiol maent yn ei wneud o'u hamser yn y pwll.

Os yw'r stori hon wedi'ch ysbrydoli chi i gymryd rhan yn eich cymuned, beth am gael golwg yn yr adran 'Ein rhaglenni' am ragor o wybodaeth.

Yn wreiddiol o Lanelli, mae 2010 wedi bod yn flwyddyn ragorol yn sicr i Dai Greene.