Os ydych yn chwilio am ystafell gynhadledd neu gyfarfod su'n cynnig gwerth rhagorol am arian, yna Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yw'r lleoliad delfrydol.
Gall ein cyfleusterau cynhadledd ddarparu ar gyfer 2 i 1200 o gynadleddwyr ac mae ganddynt i gyd offer sain-weledol addas i'ch gofynion cynhadledd. Mae darpariaeth sain-weledol ar gael hefyd.
Gall ein tîm arlwyo ddarparu amrywiaeth o opsiynau sy'n addas i'ch cyllideb.
Mae Ystafelloedd Taf, Bute a Sophia i gyd yn ddelfrydol ar gyfer cynadleddau llai neu gyfarfodydd a cheir lle delfrydol i gynadleddau mwy naill ai yn ein Prif Neuadd neu'r Uwch-Neuadd, a gellir carpedu'r ddwy'n llawn.
Dimensiynau'r Ystafell
Yn dal hyd at:
Theatr
Ystafell Fwrdd
Ystafell Taf
15.7m x 6.1m
60
40
Ystafell Sophia
12.0m x 7.6m
70
Gyda sgriniau gwahanu
Ystafell Sophia 1
7.6m x 6.0m
50
28
Ystafell Sophia 2
6.3m x 5.8m
20
Ystafell Bute
12.8m x 9.6m
100
Ystafell Bute 1
9.5m x 7.0m
Ystafell Bute 2
7.6m x 5.6m
30
Y Brif Neuadd
36.5m x 35.0m
1200
Yr Uwch-Neuadd
33.2m x 14.5m
200
Gall ein staff arlwyo profiadol gynnig gwasanaeth o safon uchel yn addas i bob achlysur a chyllideb. Mae'r opsiynau'n amrywio o wasanaeth arian i fwffe poeth neu oer, gyda choffi a bisgedi. Paratoir y cynnyrch i gyd yn ffres gan defnyddio cynhwysion o safon uchel a, lle bo modd, braster isel. Mae opsiynau llysieuol ar gael.
Gallwch lawrlwytho copi o'n bwydlen enghreifftiol ar gyfer achlysuron arbennig yma
Ymholiadau arlwyo
I wneud ymholiadau neu i archebu unrhyw ofynion arlwyo, cysylltwch ag adran Gwasanaethau'r Cwsmer ar:
0845 045 0902
neu anfonwch e-bost i:
nationalcentre@sportwales.org.uk
I wneud ymholiadau am gynhadledd neu gyfarfod, neu i archebu digwyddiad o'r fath, cysylltwch ag adran Gwasanaethau'r Cwsmer ar:
neu beth am ymweld â staff cyfeillfar y Dderbynfa'n bersonol.