Er bod Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru'n darparu lleoliad ymarfer a chystadlu ar gyfer athletwyr eltaidd a chyrff rheoli chwaraeon, mae'r cyfleusterau ar gael at ddefnydd y gymuned.
Does dim rhaid i chi fod yn aelod i ddefnyddio ein cyfleusterau ond mae'n rhaid wrth aelodaeth i ddefnyddio ein hystafelloedd ffitrwydd ac mae'n haelodau'n elwa o ostyngiadau ar gyfleusterau chwaraeon eraill a llety.
A dychmygwch, efallai y byddwch yn ymarfer neu'n chwarae badminton drws nesaf i rai o obeithion mawr Cymru ar gyfer Llundain 2012 neu athletwr yn paratoi ar gyfer y Gemau Cymanwlad nesaf!
Yma yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru rydym yn cynnig amrywiaeth eang o ddobsarthiadau a chyrsiau'n addas i bob lefel gallu.
Gwelir amseroedd y dosbarthiadau a manylion y cyrsiau yn ein calendr digwyddiadau, drwy ddewis 'Dosbarthiadau'r Ganolfan Genedlaethol' neu drwy glicio ar y dolennau isod.
Dosbarthiadau
Mae ein rhaglen gyfredol o ddosbarthiadau fel a ganlyn;
Cansalo dosbarthiadau.
Llun
Mawrth
Mercher
Iau
Gwener
Sul
Chwaraeon Pêl
Mae gennym amrywiaeth eang o gyfleusterau ar gael ar gyfer pob mathau o chwaraeon pêl:
Chwaraeon raced
Mae ein cyfleusterau chwaraeon raced sydd ar gael i'w llogi'n cynnwys:
Mae racedi ar gael i'w llogi.
Mae cynnal eich ffitrwydd corfforol yn bwysicach fyth wrth i chi fynd yn hŷn. Mae sicrhau eich bod yn ymarfer yn rheolaidd ac yn cadw llygad ar yr hyn rydych yn ei fwyta'n eithriadol bwysig.
Dim ond ychydig o newidiadau sydd raid i chi ei wneud i'ch trefn ddyddiol a byddwch yn gwella eich iechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal â gwella eich safon byw ar gyfer y dyfodol.
Rydym yn cynnig rhaglen o weithgareddau'n benodol ar gyfer y grŵp dros 50 oed. mae'r rhain yn sesiynau cyfeillgar ac yn ddelfrydol ar gyfer pob safon ac mae croeso i newydd-ddyfodiaid bob amser.
Os nad ydych wedi ymarfer ers peth amser, neu os oes gennych gyflwr meddygol yr ydych derbyn triniaeth ar ei gyfer, neu os oes gennych unrhyw bryderon eraill am eich iechyd, dylech gael sgwrs gyda'ch meddyg teulu cyn cymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch corfforol.
Tenis Bwrdd 10.00am - Hanner dydd Badminton (yn cynnwys cyfarwyddyd) 10.00am - Hanner dydd Gwener
Tenis Bwrdd 10.00am - Hanner dydd Aerobics 09.30am - 10.30am (Dosbarth dechreuwyr yn agored i bob oedran)
Mae Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru'n gartref i nifer o glybiau, ysgolion a chynghreiriau ac mae'n croesawu ymholiadau am unrhyw archebion newydd.
Clybiau
Cynghreiriau
Mae ein campfa 30 gorsaf gyda system awyru a safle cynhesu ac oeri'n darparu amrywiaeth eang o offer, yn cynnwys:
Mae'n rhaid i chi ddod yn aelod a chael cyflwyniad er mwyn defnyddio'r cyfleusterau hyn.
Mae'r cyflwyniadau ar gael ar nosweithiau Mercher rhwng 6.00pm a 7.00pm a boreau Sul rhwng 11.00am a hanner dydd.
Mae ein campfa 20 gorsaf gyda system awyru a safle cynhesu ac oeri'n darparu amrywiaeth o bwysau rhydd a dau lwyfan codi.
Aelodaeth Flynyddol (yn cynnwys ffi ymuno)
Adnewyddu
Oedolion
£1.00
Ieuenctid dan 18 oed
Teulu 2 Oedolyn sy'n bartneriaid + 1 Plentyn neu 1 Oedolyn + 2 Blentyn*:
£4.00
Plant Ychwanegol 5 - 17 oed
Pensiynwyr (yn derbyn pensiwn y wladwriaeth)
Myfyrwyr llawn amser
Gostyngiadau**
Gall gweithlu nad yw'n iach gael effaith andwyol ar allu cwmni i fod yn gynhyrchiol a gwneud elw, ac ar gynnal ysbryd y staff. Gall ymroi i gynllun aelodaeth corfforedig ddangos ymroddiad cwmni i iechyd a lles ei weithwyr. Mae nifer o gwmnïau'n dewis ychwanegu aelodaeth at eu pecyn cyffredinol o fanteision ac mae nifer o rai eraill, nad ydynt yn gallu gwneud hyn, yn cydlynu aelodaeth gyda'u gweithwyr, fel bod y gweithwyr yn gallu elwa o ostyngiadau.
Mae ein haelodaeth gorfforedig yn agored i gwmnïau sy'n talu am 10 neu fwy o aelodau y flwyddyn gyda'i gilydd. Mae hyn yn sicrhau bod yr aelod corfforedig yn elwa o'r un manteision yn union â'r holl aelodau eraill.
Os ydych yn chwilio am becyn aelodaeth ar gyfer eich cwmni, mae ein haelodau corfforedig yn mwynhau gostyngiad o 25% oddi ar ein haelodaeth flynyddol lawn i oedolion.
Mae croeso i gwsmeriaid edrych ar y cyfleusterau ar gael cyn ymuno.
I wneud ymholiadau am ein haelodaeth, cysylltwch ag adran Gwasanaethau'r Cwsmer ar:
0845 045 0902
neu anfonwch e-bost i:
nationalcentre@sportwales.org.uk
Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru
Gerddi Sophia
Caerdydd
CF11 9SW
neu beth am ymweld â staff cyfeillfar y Dderbynfa'n bersonol.
Dros y ffôn: 0845 045 0902
Drwy ffacs: 029 2033 8398
Drwy e-bost: nationalcentre@sportwales.org.uk
Drwy'r post:
Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru Gerddi Sophia Caerdydd CF11 9SW
neu dewch i'r Dderbynfa bydd ein staff cyfeillgar yn fwy na pharod i helpu.