Chwaraeon i bawb
Rydym yn credu'n gryf mewn chwaraeon i bawb ac yn gwbl
ymroddedig i amrywiaeth, gan sicrhau bod y gwasanaethau a'r
cyfleusterau a ddarperir gennym, a'r bobl a gyflogir gennym, ar
gael i bawb.
Mae ein Cynllun Cydraddoldeb yn amlinellu ein
dull rhagweithiol o weithredu wrth gynnwys ac yn datgan ein
hymroddiad i weithio tuag at sicrhau cydraddoldeb yn ein holl
swyddogaethau.
Ein Blaenoriaethau
- Parhau i weithio er mwyn cynyddu'r gynrychiolaeth i ferched ym
mhob agwedd ar chwaraeon.
- Parhau i weithio i gynyddu'r cyfranogiad ymhlith pobl anabl, yn
enwedig mewn perthynas â rhaglenni PIE ac mewn swyddi
hyfforddi.
- Ehangu'r gwaith o gasglu data i gynnwys Anabledd ac
Ethnigrwydd.
- Cynnal ymchwil mewn perthynas ag ethnigrwydd.
- Ymgymgryd ag ymgynghoriadau, yn benodol mewn perthynas ag
Ethnigrwydd ac Anabledd.
Gyda phwy rydym yn gweithio
Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru (FfChAC) :
Mae Chwaraeon Cymru'n cyllido FfChAC, Corff Rheoli Chwaraeon
Cenedlaethol Holl-Anabledd sy'n ceisio hybu a datblygu cyfleoedd
chwaraeon o safon. Drwy gyfrwng ei raglen gymunedol, lleolir
Swyddogion Datblygu ledled Cymru.
Awdurdodau Lleol: Mae 'Cytundebau Partneriaeth
yr Awdurdodau Lleol' yn cyflwyno ein targedau a'n hymyriadau ar
gyfer lleihau anghydraddoldeb yn lleol.
CRhChC: Rydym yn annog CRhChC i ystyried eu
haelodaeth, a'u cefnogi i gyrraedd y Safon Gydraddoldeb ar gyfer
Chwaraeon.
Cynghorau Chwaraeon y DG: Mae Chwaraeon Cymru'n
rhan o grŵp ledled y DG sy'n dod at ei gilydd er mwyn rhoi gwybod
am ofynion cyfreithiol a rhannu arferion.