Cymuned

Prosiectau sy'n Ysbrydoli

Am y tro cyntaf ar gyfer y Gemau Olympaidd a Paralympaidd, mae rhaglen 'Inspire' Llundain 2012 yn galluogi sefydliadau anfasnachol ar draws y DU i gysylltu'u digwyddiadau a phrosiectau gyda Gemau Llundain 2012 mewn cwmpas swyddogol. Darllenwch beth sy'n digwydd yng Nghymru

Taith Gyfnewid y Fflam

Bydd y Fflam Olympaidd yn teithio i o fewn awr  o 95 y cant o bobl yn y DU, Ynys Manaw, Guernsey a Jersey yn ystod Taith Gyfnewid Fflam y Gemau Olympaidd fydd yn para 70 diwrnod. Bydd yn galluogi i gymunedau lleol ddangos y gorau sydd gan eu hardal i'w gynnig - o dirweddau gwefreiddiol i ardaloedd dinesig deinamig. Edrychwch i weld os fod y dorch yn dod i dref yn agos atoch chi.

Bydd Taith Gyfnewid y Fflam ar gyfer y Gemau Paralympaidd yn helpu creu cynnwrf ar gyfer y Gemau cyn y Seremoni Agoriadol wrth iddo deithio trwy genhedloedd y DU. Mae paratoadau ar y gweill ar gyfer taith gyfnewid gyffrous ac unigryw, bydd yn cynnwys cyfres o ddathliadau a digwyddiadau. Cadwch lygad allan am fwy o wybodaeth yn ddiweddarach eleni.

 Penwythnos Agored

Dechreuodd y dathliadau i ddathlu blwyddyn i fynd tan Gemau Olympaidd Llundain 2012 ar 22ain Gorffennaf, edrychwch ar beth sydd wedi bod yn digwydd yng Nghymru ac ar draws y DU

Sport VolunteeringGwirfoddoli

Cefnogir digwyddiadau chwaraeon ar draws y byd gan nifer o wirfoddolwyr a dydy Llundain 2012 yn ddim eithriad. Edrychwch sut fedrwch chi wirfoddoli'ch amser a bod yn rhan o'r Gemau Olympaidd a/neu Paralympaidd.

Mae digwyddiadau yn un ffordd o wirfoddoli mewn chwaraeon, clybiau chwaraeon yw'r cyfleoedd gorau i chi helpu cymryd rhan yn eich holl gamp chwaraeon.

Mae rolau gwirfoddol yn cynnwys hyfforddi, gweinyddiaeth, dyfarnu, gyrru a rheoli gyda phob un mor bwysig â'i gilydd mewn chwaraeon. Ymrwymiad amser ac egni er budd y gymdeithas ydyw ac mae'r gymdeithas yn gallu cymryd sawl ffurf wahanol.

Yr Olympiad Diwylliannol

Olympiad Diwylliannol Llundain 2012 yw'r dathliad diwylliannol mwyaf yn hanes y Sefydliadau Olympaidd a Paralympaidd modern.

Safleoedd Byw

Mae gan Gaerdydd ac Abertawe dwy o'r 20 sgrin fawr fydd mewn lleoliadau ar draws y DU. Gan weithio gyda'r BBC ac awdurdodau lleol, maen nhw'n cynnwys yr holl gampau a newyddion diweddaraf oddi wrth Gemau Llundain 2012.

Adnoddau Mewnol