Gweithio'n lleol
Atebion lleol i anghenion lleol
Mae atebion lleol i anghenion lleol yn thema gref yn ein gwaith
a gyda swyddfeydd rhanbarthol ledled Cymru, rydym mewn sefyllfa
ddelfrydol i gyflwyno cyfleoedd chwaraeon ar lefel leol a
chenedlaethol.
Rydym yn gweithio o 4 swyddfa ar hyd a lled Cymru, gyda
phrif swyddfa yng Nghaerdydd yn ogystal a swyddfeydd yn:
- Caerfyrddin
- Caernarfon
-
Glannau Dyfrdwy
Rol ein swyddfeydd rhanbarthol
Mae ein timau rhanbarthol yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid
allweddol fel awdurdodau lleol, clybiau chwaraeon a chymdeithasau
gan roi sylw i bob agwedd ar ddarparu chwaraeon yn lleol, yn
cynnwys cyfleoedd cyllido ar gyfer clybiau a grwpiau lleol,
cyfleoedd chwaraeon ar gyfer pobl o bob oed a darparu
cyfleusterau.
Hefyd, mae swyddogion datblygu rhanbarthol yn gweithio'n agos ag
awdurdodau
lleol unigol ar ddatblygu Cytundebau Partneriaeth yr Awdurdodau
Lleol (CPALlau), gan eu galluogi i greu dull o weithio drwy
bartneriaeth wrth ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar
lefel leol.
Ewch i'r adran Ein lleoliadau er mwyn cysylltu a
swyddfa leol Chwaraeon Cymru.