Polisi Cyfle Cyfartal
Polisi Cyfleoedd Cyfartal
Nodau ac Ymrwymiadau
1. Mae Chwaraeon Cymru'n gwbl ymroddedig i sicrhau cydraddoldeb
mewn chwaraeon a hamdden gorfforol. Mae Cynllun Cydraddoldeb
Chwaraeon Cymru'n amlinellu ein dull rhagweithiol o weithredu yn y
maes hwn. Mae'n datgan ein hymroddiad i weithio tuag at sicrhau
cydraddoldeb yn ein holl weithredoedd, tra'n croesawu ysbryd y
ddeddfwriaeth gydraddoldeb a dileu unrhyw ffurf ar wahaniaethu
annheg.
2. Mae Chwaraeon Cymru'n ymroddeedig i gefnogi'r egwyddor o
gyfleoedd cyfartal yn y gweithle. Er mwyn cyrraedd y nod hwn, mae
gan Chwaraeon Cymru bolisi i ddarparu cydraddoldeb mewn cyflogaeth
i bawb, waeth beth yw eu rhyw, hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiad
ethnig, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws tymor
penodedig neu ran amser, oedran, crefydd, cred, tueddiad rhywiol,
cyfrifoldebau fel rhiant neu anabledd.
3. Cred Chwaraeon Cymru bod gan bawb hawl i weithio (neu
ymgeisio am waith) mewn amgylchedd sy'n hybu cyfleoedd cyfartal ac
sy'n atal arferion o wahaniaethu. Nid yw Chwaraeon Cymru'n goddef
unrhyw ffurf ar wahaniaethu, aflonyddu neu erlid yn erbyn na chan
ei weithwyr. Mae Chwaraeon Cymru'n mynnu ei bod yn ddyletswydd ar i
bawb ymddwyn mewn ffordd sy'n cefnogi'r polisi hwn a rhaid bod yn
gwbl ymwybodol o ymddygiad sy'n gallu cyfateb i wahaniaethu ac
erlid.
4. Nid diben y polisi hwn yw atal cysylltiadau cymdeithasol
arferol ymhlith eich cydweithwyr neu â'r cyhoedd. Ei nod yw atal
gwahaniaethu, aflonyddu, erlid neu driniaeth annheg uniongyrchol
neu anuniongyrchol anghyfreithlon, boed yn fwriadol neu'n
anfwriadol. Mae gan bawb gyfrifoldeb i fod yn sensitif i'r effaith
maent yn ei chael ar eraill ac i ymatal rhag gwahaniaethu'n erbyn
cydweithwyr a rhag cymeradwyo unrhyw wahaniaethu gan eraill.
5. Mae Chwaraeon Cymru'n ymroddedig i gyflawni ein dyletswydd
gyfreithiol o dan y ddeddfwriaeth gydraddoldeb a'r codau ymarfer
cysylltiedig. Bydd Chwaraeon Cymru'n cydymffurfio â'i bolisi
cyfleoedd cyfartal ei hun a'i god ymarfer yn y maes hwn. Bydd
unrhyw ffurf ar wahaniaethu'n anghyfreithlon ac yn cael ei drin fel
trosedd disgyblu yn arwain, os yn briodol, at weithredu
disgyblaethol.
Gofynion Cyfreithiol
Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i Chwaraeon Cymru ymatal rhag
gwahaniaethu'n erbyn ei weithwyr a chydnabod ei ddyletswyddau
cyfreithiol o dan y Deddfau a ganlyn, a chadw at eu gofynion:
- · Deddf Cyflog Cyfartal 1970
- · Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974
- · Deddfau Gwahaniaethu Ar Sail Rhyw 1975, 1986 ac 1999
- · Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 a'r Diwygiad i'r Ddeddf
Cysylltiadau Hiliol yn 2000
- · Deddf Gwahaniaethu Ar Sail Anabledd 1995
- · Deddf Iawnderau Dynol 1998
- · Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Tueddiad Rhywiol)
2003
- · Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Crefydd a Chred)
2003
- · Unrhyw ddiwygiadau diweddarach i'r Deddfau / Rheoliadau
uchod, neu Ddeddfau / Rheoliadau yn y dyfodol sy'n berthnasol i
Chwaraeon Cymru.
Bydd Chwaraeon Cymru'n ceisio cyngor cyfreithiol bob tro yr
adolygir polisi, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio
â'i ofynion deddfwriaethol.
Gweithredu
6. Bydd y polisi hwn yn rhan o Lawlyfr y Staff. Bydd Chwaraeon
Cymru'n sicrhau bod telerau ac amodau'r polisïau cyflogaeth a'r
polisïau eraill cysylltiedig yn rhydd o bob ffurf ar wahaniaethu
uniongyrchol ac anuniongyrchol. Ni orfodir unrhyw ddarpariaeth,
arfer na maen prawf na ellir ei gyfiawnhau, yn uniongyrchol nac yn
uniongyrchol, os yw'n rhoi gweithiwr dan anfantais ar sail ei ryw,
hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig, statws priodasol neu
bartneriaeth sifil, statws tymor penodedig neu ran amser, oedran,
crefydd, cred, tueddiad rhywiol, cyfrifoldebau fel rhiant neu am
resymau'n berthnasol i'w anbaledd ef neu hi.
7. Bydd Chwaraeon Cymru'n sicrhau bod yr holl weithwyr yn derbyn
hyfforddiant a chyfarwyddyd cydraddoldeb, fel y bo'n briodol, yn
cynnwys hyfforddiant neu gyflwyniad ffurfiol. Bydd y Cyngor yn
sicrhau bod y rhai sy'n ymwneud ag asesu ymgeiswyr ar gyfer eu
recriwtio neu eu dyrchafu'n cael eu hyfforddi mewn technegau dethol
nad ydynt yn gwahaniaethu mewn unrhyw ffordd. Gwneir pob
penderfyniad am recriwtio a dethol, dyrchafu, hyfforddi neu unrhyw
fantais arall yn gwbl wrthrychol a heb gynnwys unrhyw wahaniaethu
anghyfreithlon.
8. Mae Chwaraeon Cymru wedi datblygu Cynllun Cydraddoldeb ac
mae'n ei weithredu. Mae'n cynnwys nodau ac ymrwymiadau'r polisi
hwn. Bydd y cynllun yn datgan dyheadau strategol Chwaraeon Cymru ar
lefel uchel (y weledigaeth) ac yn dangos sut mae'r neges hon yn
gyson yn holl ddogfennau polisi Chwaraeon Cymru.
9. Ceir cysylltiad rhwng cynllun gweithredu Chwaraeon yn Cynllun
â'r dyheadau ar lefel uchel a bydd yn adlewyrchu'r gweithredu yn
holl adrannau Chwaraeon Cymru gyda Dangosyddion Perfformiad
Allweddol (DPAion) ac amserlenni ystyrlon a realistig. Mae
Chwaraeon Cymru wedi sefydlu dau grŵp er mwyn gweithredu'r cynllun;
Grŵp Llywio Cydraddoldeb, yn gyfrifol am gynghori ynghylch y
strategaeth a'r materion corfforedig, a'r Grŵp Datblygu
Cydraddoldeb, yn gyfrifol am gynlluniau gweithredu.
Monitro
10. Nod Chwaraeon Cymru yw monitro effeithiolrwydd y Polisi
Cyfleoedd Cyfartal hwn. Bydd Chwaraeon Cymru'n adolygu bod agwedd
ar ei bolisïau, ei weithdrefnau a'i arferion mewn perthynas â
recriwtio, telerau ac amodau cyflogaeth, hyfforddiant, datblygu
gyrfa, dyrchafiad a chwynion a disgyblu er mwyn canfod unrhyw
dueddiadau neu batrymau'n dod i'r amlwg ac, os daw tueddiadau a
phatrymau o'r fath i'r amlwg, bydd yn dadansoddi a oes modd
cyfiawnhau'r rhain ai peidio. Bydd Chwaraeon Cymru'n ceisio datgan
a chymryd yr holl gamau angenrheidiol er mwyn dileu unrhyw
wahaniaethu na ellir ei gyfiawnhau a ddatgelir gan y broses fonitro
hon.
11. Unwaith y bydd wedi'i gymeradwyo, bydd y polisi'n berthnasol
am 3 blynedd cyn cynhelir adolygiad ffurfiol, oni bai fod unrhyw
newid mewn deddfwriaeth yn galw am adolygiad a / neu ddiwygiad
interim.
Cyfrifoldebau
12. Y Prif Weithredwr sy'n gyfrifol yn y pen draw am faterion
amrywiaeth ac am sicrhau bod y Polisi hwn a'r Cynllun Cydraddoldeb
yn cael eu gweithredu. Mae'r Cyfarwyddwyr a'r Penaethiaid
Gwasanaeth yn bersonol gyfrifol hefyd am drosi'r ymrwymiad hwn yn
weithredu ledled y sefydliad.
13. Mae Chwaraeon Cymru wedi penodi Uwch-Swyddog yn gyfrifol am
Gydraddoldeb ac Amddiffyn Plant. Fel rhan o'i swydd, mae'r swyddog
penodol hwn yn gyfrifol am ddatblygu ac adolygu'r Cynllun
Cydraddoldeb, rheoli'r strwythur datblygu ac mae'n gyfrifol am
waith y Safon Gydraddoldeb.
14. Mae gan bob adran gynrychiolaeth ar y Grŵp Datblygu
Cydraddoldeb; mae'r cynrychiolwyr ar lefel reoli yn y sefydliad ac
yn cael eu galw'n 'Hyrwyddwyr Cydraddoldeb'. Maent yn gyfrifol am
ddosbarthu gwybodaeth a sicrhau bod y cynllun cydraddoldeb yn
cynrychioli gweithredu adrannol; bod y gweithredu'n digwydd ac yn
cael ei adlewyrchu yn y gwaith cynllunio a monitro adrannol.
15. Mae disgwyl i holl aelodau'r staff fod yn ymroddedig i
weithredu'r cynllun hwn. Os daw rheolwr yn ymwybodol o honiad o
wahaniaethu'n erbyn cydweithiwr neu aelod o'r cyhoedd mewn
perthynas â gweithgareddau Chwaraeon Cymru, mae'n rhaid iddo (pa un
ai oes cwyn ffurfiol wedi'i gwneud ai peidio) drafod y mater gyda'r
sawl sy'n cwyno ac, os nad yw'r unigolyn yn gwneud cais penodol am
i hynny beidio â digwydd, rhoi gwybod am y mater i'r Rheolwr
Adnoddau Dynol.
Cwynion
16. Mae'n rhaid i Chwaraeon Cymru gymryd camau rhesymol er mwyn
sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu'n digwydd. Os dowch yn ymwybodol
o unrhyw ddigwyddiadau honedig o wahaniaethu annheg, mae'n rhaid i
chi roi gwybod amdanynt i'r Rheolwr Adnoddau Dynol. Os ydych yn
credu eich bod yn dioddef o wahaniaethu, aflonyddu neu erlid yn
eich erbyn (am ddiffiniadau, gweler y polisïau a'r gweithdrefnau
gwrth-fwlio, gwrth-aflonyddu a gwrth-erlid yn Llawlyfr y Staff),
gallwch godi'r mater gyda'r unigolyn yr ydych wedi gwneud y gŵyn yn
ei erbyn a / neu y Rheolwr Adnoddau Dynol, heb fod angen gwneud
cwyn ffurfiol. Fe'ch anogir i ddefnyddio'r weithdrefn gwyno sydd
wedi'i datgan yn Llawlyfr y Staff.