Sut i wneud cais

Bydd yr wybodaeth a ganlyn o gymorth i chi os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am swydd wag.

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen drwy'r wybodaeth cyn dechrau arbed copi o'r ffurflen gais.

Dychwelwch y ffurflenni cais wedi'u cwblhau at jobenquiries@sportwales.org.uk neu: Adnoddau Dynol, Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW. Sylwer mai'r dyddiad cau ar gyfer y swyddi i gyd fydd hanner dydd ar y dyddiad cau. Ni fydd unrhyw geisiadau a ddefnyddir wedi'r amser hwn yn cael eu derbyn.

Sylwer nad ydym yn gallu cydnabod derbyn ceisiadau unigol am swyddi a dim ond yr ymgeiswyr ar y rhestr fer fydd yn clywed gennym. Os hoffech dderbyn cydnabyddiaeth, dylech gynnwys gyda'ch cais amlen gyda'ch cyfeiriad a stamp arni, a byddwn yn ei dychwelyd atoch wedi derbyn eich cais. Ar y cefn, dylech nodi teitl y swydd wag yr ydych yn ymgeisio amdani.

Equality Standard Investors in People Stonewall Cymru

 

Corporate Health Standard Tommys logoPositive

Cysylltiadau Allanol