Clybiau cryf a blaengar

Rydyn ni eisiau gweld clybiau ffyniannus ar hyd a lled Cymru, ble mae cyfleoedd chwaraeon yn cael eu datblygu drwy fentergarwch a blaengaredd da.

Mae nifer o bethau y gallwn ni, a'n partneriaid, eu gwneud er mwyn sicrhau bod clybiau ffyniannus a chryf yn cael eu datblygu:

  • Cefnogi clybiau i ehangu eu sylfaen o aelodaeth a'u cynnig chwaraeon                
  • Annog clybiau i uno lle bo hynny'n briodol       
  • Lle bo hynny'n briodol, annog timau niferus, yn ddelfrydol, gydag adrannau i oedolion a phlant
  • Chwaraeon yn dod at ei gilydd i gefnogi datblygiad clybiau aml-chwaraeon
  • Blaenoriaethu recriwtio, cadw a chefnogi gwirfoddolwyr                 
  • Creu amgylchedd sy'n croesawu aelodaeth amrywiol                  
  • Annog a chroesawu technoleg fel cyfrwng i recriwtio a dal gafael ar aelodau mewn clybiau
  • CRhC ac ALlau yn cefnogi twf clybiau ar y cyd

Sut byddwn ni'n gwybod pryd rydym ni wedi bod yn llwyddiannus?

  • Cynnydd yn nifer y clybiau aml-chwaraeon
  • Cynnydd yn nifer yr adrannau iau   
  • Cynnydd yn nifer y cynghreiriau hamdden ac anffurfiol 
  • Cynnydd yn nifer y cyfranogwyr sy'n byw mewn tlodi ac o grwpiau anodd eu cyrraedd
  • Cyfleusterau hamdden yn cynyddu nifer y clybiau lleol maent yn eu cefnogi ac sy'n defnyddio eu cyfleusterau