Blaenoriaethau Allweddol
Mae'r strategaeth yn datgan rhai disgwyliadau allweddol a bydd
nifer ohonynt yn herio ffordd y sector o feddwl.
Mae'n datgan meysydd blaenoriaeth allweddol ar gyfer Chwaraeon
Cymru, fel asiantaeth ddatblygu chwaraeon y wlad, a'i bartneriaid
fel cyflwynwyr allweddol mewn perthynas â chwaraeon cymunedol;
meysydd ble gellid, ac y dylid, sicrhau cynnydd mawr. Mae hefyd,
drwy hyrwyddo adnoddau datblygu chwaraeon penodol, yn gweithredu
fel canllaw ymarferol i'r rhai sy'n gyfrifol am gyflwyno
chwaraeon.
Mae'r blaenoriaethau hyn fel a ganlyn:
Clybiau Ffyniannus
Creu cyfleoedd drwy fentergarwch a blaengaredd da
Penderfyniadau
lleol
Creu cyfleoedd drwy fodloni galw lleol
Addysg Safonol
Creu cyfleoedd drwy ddatblygu sgiliau, mwynhad a hyder
Gweithlu
Ymroddedig
Creu cyfleoedd drwy ddenu a buddsoddi yn y bobl briodol, yn y
mannau priodol
Cyfleusterau Priodol
Creu cyfleoedd drwy ddarparu amgylcheddau a rhaglenni
ysbrydoledig