Mynd i’r Afael â Thlodi Plant a Hybu Cydraddoldeb drwy Chwaraeon Cymunedol
Ein gwaith craidd ni yw sicrhau bod plant, pobl ifanc ac
oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon a, lle bo hynny'n briodol,
yn cael cefnogaeth i
ragori.
Rydym yn credu y dylai pob plentyn a pherson ifanc allu cymryd
rhan mewn chwaraeon ac elwa ohonynt. Mae'n rhaid i ni sicrhau ein
bod ni'n mynd ati i weithio gyda'n partneriaid, yn rhai
traddodiadol, fel awdurdodau lleol a chyrff rheoli, a'r rhai llai
traddodiadol, er mwyn goresgyn neu leihau rhwystrau sy'n atal
cyfranogiad ymhlith plant a phobl ifanc sy'n byw mewn tlodi.
Mae data o'n harolygon ni'n dangos bod plant, pobl ifanc ac
oedolion sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn llai tebygol
o gymryd rhan mewn chwaraeon, gydag oedolion yn llai tebygol hefyd.
Nid ydym yn derbyn bod y ffigurau cyfranogiad hyn yn anochel ac
rydym yn ymroddedig i barhau â'n gwaith gyda'n partneriaid er mwyn
sicrhau bod cyfleoedd chwaraeon yn cael eu hannog yn frwd fel rhan
o brofiad bywyd ehangach, a bod y blwch cyfranogiad rhwng y rhai
sy'n byw mewn tlodi a'r rhai nad ydynt yn cael ei gau.
Rydym yn cefnogi'n gryf y farn na ddylid edrych ar dlodi mewn
termau economaidd yn unig. Yn hytrach, dylid rhoi sylw hefyd i
dlodi cyfleoedd a thlodi dyheadau. I'r diben hwn, rydym wedi llunio
Strategaeth Tlodi Plant sy'n cyd-fynd â'r ddogfen hon ac yn datgan
beth rydym ni, yn Chwaraeon Cymru, am ei wneud i chwarae ein rhan
mewn dileu tlodi plant yng Nghymru.
Bydd y gwaith hwn hefyd yn cyd-fynd â'n gwaith ehangach ni ar
gydraddoldeb ac ar sicrhau bod chwaraeon yn weithgaredd y gall
plant, pobl ifanc ac oedolion yng Nghymru ei fwynhau'n ddiogel.
Bydd y meysydd hyn yn ffurfio themâu yn ein trafodaethau ni gyda
phartneriaid am ein cynlluniau a'n gweithgareddau i ddatblygu
chwaraeon.
Ein Hymrwymiadau Tlodi Plant a Chydraddoldeb
Datblygu a darparu sylfaen o dystiolaeth
- Sicrhau bod y data rydym ni'n ei gasglu drwy gyfrwng ein
harolygon cenedlaethol ar oedolion, plant a phobl ifanc yn darparu
i ni sail ystadegol gadarn fel tystiolaeth o lefelau cyfranogiad
mewn cymunedau difreintiedig.
- Dwyn ymchwil at ei gilydd i edrych ar y rhwystrau sy'n atal
cyfranogiad mewn cymunedau difreintiedig a pha amodau sy'n
angenrheidiol ar gyfer cynyddu cyfranogiad yn y cymunedau hyn, er
mwyn helpu gyda dealltwriaeth ein partneriaid o'r gwahanol ddulliau
o weithredu.
- Rhoi blaenoriaeth i ddosbarthu arferion gorau mewn perthynas â
chynyddu cyfleoedd a chyfranogiad mewn cymunedau difreintiedig, fel
rhan o rôl ehangach Chwaraeon Cymru o ddarparu sylfaen o
dystiolaeth ar gyfer datblygu chwaraeon.
Manteisio i'r eithaf ar effaith chwaraeon ar blant a
phobl ifanc sy'n byw mewn tlodi
- Gweithio gyda'n partneriaid er mwyn sicrhau bod mynd i'r afael
â thlodi plant yn thema graidd yn ein gwaith cynllunio ar y cyd,
gan adlewyrchu unrhyw gynlluniau tlodi plant lleol sydd yn eu lle
eisoes.
- Datgan a blaenoriaethu gwaith gyda phartneriaid lleol statudol,
gwirfoddol a phreifat sy'n gweithio mewn cymunedau difreintiedig,
er mwyn sicrhau'r manteision gorau posibl yn sgil chwaraeon i
fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd yn y cymunedau hynny.
Darparu hyfforddiant i'n staff a'r sector ehangach, a'u
cefnogi
- Darparu hyfforddiant i ddechrau i holl Uwch Swyddogion
Chwaraeon Cymru sy'n delio â'r campau unigol ac sy'n gweithio gyda
phartneriaid ar dlodi plant, y ddyletswydd ar Chwaraeon Cymru a sut
gallwn ni weithio gyda'n partneriaid i sicrhau'r cyfraniad gorau
posibl gan chwaraeon. Gellir sicrhau bod yr hyfforddiant hwn ar
gael wedyn i bartneriaid, fel y bo'n briodol ac yn ôl yr
angen.
Gweund yn fawr o'r potensial i gyflawwni llwyddiant
elitaidd
- Gweithio gyda'n cyrff rheoli er mwyn sicrhau nad yw byw mewn
tlodi yn rhwystr sy'n atal talent a'i datblygiad, gan gynnwys
edrych ar leoliad yr academïau talent a mynediad i hyfforddiant a
chefnogaeth briodol.
Ehangu'r gweithlu chwaraeon
- Gweithio gyda phartneriaid er mwyn eu hannog i ddatblygu
strategaethau gwirfoddoli sy'n edrych y tu hwnt i recriwtio
traddodiadol a thuag at bartneriaethau newydd sy'n gallu darparu
sgiliau newydd i'r rhai sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig, yn
ogystal â gwella cyfleoedd gwaith yn y dyfodol.
Datyblygu nodau cydraddoldeb allweddol ar gyfer cynllun
cydraddoldeb sengl
- Datblygu a gweithredu gwaith i gyflwyno cyfleoedd cyfartal ar
gyfer y 9 nodwedd a warchodir a ddiffinnir yn Neddf Cydraddoldeb
2010: oedran; anabledd; ailbennu rhywedd; beichiogrwydd a
mamolaeth; ethnigrwydd; crefydd a chred; rhywedd; tueddfryd
rhwyiol; priodas a phartneriaeth sifil.