Strategaeth Chwaraeon Cymunedol – sylfaen o dystiolaeth
Rydym ni wedi cyhoeddi nifer o grynodebau ymchwil i gefnogi'r
gwaith o ddatblygu a chyflwyno pum blaenoriaeth y Strategaeth
Chwaraeon Cymunedol, a hefyd ein Strategaeth Tlodi Plant. Ar gyfer
pob blaenoriaeth, mae'r crynodebau'n datgan y canlynol:
- darganfyddiadau ymchwil allweddol - y rhesymeg dros y
blaenoriaethau a'r galw i weithredu a geir yn y Strategaeth;
- materion pellach i'r sector chwaraeon eu hystyried wrth
fodloni'r blaenoriaethau; a
- cwestiynau i'r sector eu hystyried ymhellach. Bydd tîm ymchwil
Chwaraeon Cymru yn ymgymryd â nifer o brosiectau o dan y
blaenoriaethau hyn yn ystod y misoedd sydd i
ddod.
Mae nifer o'r gweithiau ymchwil y cyfeirir atynt yn y crynodebau
wedi cael eu comisiynu gan Chwaraeon Cymru. Gwelir y cyhoeddiadau
hyn yn adran Cyhoeddiadau'r
wefan.
Er mwyn cynyddu nifer eu haelodau, bydd rhaid i glybiau
chwaraeon weithio gyda sylfaen ehangach o gyfranogwyr: mwy o
ferched a genethod, mwy o bobl o raddau cymdeithasol 'is', mwy o
bobl sy'n chwilio am gyfleoedd hamdden i gymryd rhan mewn
chwaraeon, a mwy o gyfranogwyr y tu hwnt i'r mwyaf abl.
Yn y crynodeb ymchwil hwn, rydym yn edrych ar sut gall hyn fynd
yn groes i nodau cyfredol y clybiau, ac yn datgan bod rhaid wrth
gefnogaeth leol wedi'i chydlynu'n well os ydym ni am gyflawni ein
dyhead o ddatblygu clybiau mwy, cryfach a
ffyniannus.
Pan maen nhw yn yr ysgol, mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn
mynegi galw am fwy o gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon. Ond
erbyn iddyn nhw dyfu i fod yn oedolion, bydd mwy na'u hanner wedi
rhoi'r gorau i alw am chwaraeon o unrhyw fath. Os ydym ni am
gyflawni ein dyhead o gael pob plentyn i wirioni ar chwaraeon am
oes, ni fydd hyn yn ddigon i fodloni'r galw presennol.
Rydym yn dadlau yn y crynodeb ymchwil hwn mai dim ond drwy
ddatganoli strwythurau chwaraeon Cymru y gallwn ni gyflawni ein
dyhead o gael pob plentyn wedi gwirioni ar chwaraeon am oes, a
thrwy fynd â'r gwaith o wneud penderfyniadau'n nes at y cymunedau
amrywiol, a meithrin dyhead i gymryd rhan mewn chwaraeon ymhlith
pawb yng Nghymru.
Yn y crynodeb hwn, rydym yn datgan her i'r sector chwaraeon yng
Nghymru wrth i ni geisio cael pob plentyn i wirioni ar chwaraeon am
oes. Gan ddefnyddio'r data o'r arolwg diweddar, sefArolwg 2011 ar
Chwaraeon Ysgol,rydym yn dangos bod y mwynhad a geir o Addysg
Gorfforol (AG) a chwaraeon ysgol yn dirywio wrth i bobl ifanc symud
i'r ysgol uwchradd, yn enwedig ymhlith y merched, ac o ganlyniad
ceir gostyngiad yn y cyfraddau cymryd rhan. Yn y cyfamser, cred y
rhan fwyaf o athrawon bod angen ymroi mwy o amser i AG er mwyn
darparu'r addysg safonol sy'n
ofynnol.
Rydym yn gwybod bod gwirfoddolwyr yn allweddol i lwyddiant
parhaus chwaraeon Cymru. Mae'r her o recriwtio'r gweithlu rydym ni
ei angen i gyflawni amcanion yStrategaeth Chwaraeon Cymunedolyn un
anodd, er hynny. Yn y crynodeb hwn, rydym yn dangos bod y gweithlu
presennol yn cael ei reoli ar bob lefel gan ddynion, bod rhaid i
chwaraeon fod yn fwy rhagweithiol o ran estyn allan at wirfoddolwyr
posibl a bod angen gweithlu gyda gwell ffocws ar gwsmeriaid er mwyn
diwallu anghenion y cyfranogwyr.
Mae cyfleusterau yn elfen allweddol o ysbrydoli cyfranogwyr a
chreu cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon. Yn gyffredinol, mae
gan Gymru ystod dda o ddarpariaeth o ran cyfleusterau adeiledig, a
rhwydwaith rhagorol o gyfleusterau cenedlaethol a rhanbarthol, yn
ogystal â chyfleusterau naturiol gwych ar gyfer chwaraeon. Fodd
bynnag, mae nifer o gyfleusterau'n tynnu at ddiwedd eu hoes ac nid
ydynt yn bodloni disgwyliadau'r defnyddwyr.
Mae'r crynodeb ymchwil hwn yn datgan goblygiadau hyn i
gyllidebau awdurdodau lleol sydd o dan bwysau, sut mae awdurdodau'n
ceisio rheoli eu cyfleusterau a'r angen am well rhaglennu a
chyfleusterau cryfach i gefnogi clybiau
chwaraeon.
Mae'r crynodeb ymchwil hwn yn dangos bodtlodi o ran dyheadauyn
bodoli ymhlith pobl ifanc mewn cymunedau difreintiedig. Nid yn unig
maen nhw'n llai tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon (yn arbennig
mewn clybiau chwaraeon), ond hefyd maen nhw'n llai tebygol o fynegi
galw am y rhan fwyaf o chwaraeon ac yn llai tebygol o fod â phobl
o'u hamgylch sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon.
Fis Rhagfyr 2011, comisiynodd Chwaraeon Cymru ymarfer ymgynghori
i randdeiliaid i edrych ar y pum maes blaenoriaeth allweddol a
gafodd eu datgan yn y strategaeth ddrafft. Gwnaed y gwaith hwn gan
Brightpurpose Consulting, i ategu'r gweithgarwch ymgynghori
ehangach a wneir gan Chwaraeon Cymru.
Hefyd yn yr ymarfer ymgynghori roedd cyfres o grwpiau ffocws i
edrych ar y materion y mae clybiau a gwirfoddolwyr chwaraeon yn eu
hwynebu wrth ddatblygu a chynnal clybiau chwaraeon ledled
Cymru.