Ymrwymiadau Chwaraeon Cymru
Mae Chwaraeon Cymru'n bodoli i helpu eraill i gyflwyno, boed
hynny drwy her fawr, eirioli dros chwaraeon ar y lefelau uchaf yn y
Llywodraeth, cefnogi prosesau meddwl a datblygiad sgiliau, neu
rannu data a gwybodaeth fanwl.
Er bod gennym ni weledigaeth ar gyfer cymunedau chwaraeon
ffyniannus, a dealltwriaeth gadarn o'r elfennau allweddol, mae sut
gallwn ni wneud i hynny ddigwydd, ar lefel genedlaethol,
rhanbarthol a lleol, yn dibynnu llawer iawn ar bartneriaid.
Mae Chwaraeon Cymru yn ymroddedig i gyfres o gamau gweithredu
wrth iddo weithio tuag at gyflawni'r uchelgais hwn ar gyfer
chwaraeon cymunedol:
Targedau Cyfranogiad newydd
- Plant a phobl ifanc oedran ysgol: 3 gwaith yr wythnos, mewn
sefyllfa allgyrsiol a sefyllfaoedd cymunedol
ehangach
- Oedolion Ifanc (16-24 oed): 3 sesiwn chwaraeon yr wythnos
- Oedolion: 3 sesiwn chwaraeon yr wythnos
- Gwirfoddoli: 10% o boblogaeth Cymru (5% ar hyn o bryd)
Mynd i'r afael â thlodi plant
Gan weithio gyda phartneriaid, yn rhai traddodiadol a llai
traddodiadol, bydd Chwaraeon Cymru yn sicrhau bod chwaraeon yn
chwarae eu rhan mewn dileu tlodi plant ac yn dod yn rhan fwy
cynhenid o strategaeth Llywodraeth Cymru i gyflawni hyn.
Defnydd effeithiol o'r gweithlu
Bydd Chwaraeon Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod
y tirlun presennol yn addas i bwrpas.
Gweund Buddsoddiadau deallus
Bydd Chwaraeon Cymru yn buddsoddi mewn partneriaid sy'n gallu
dangos uchelgais clir, dyhead i ehangu ac ymrwymiad pendant i wneud
penderfyniadau'n seiliedig ar dystiolaeth.
Gweithio gyda'r rhai sy'n ywmroddedig i gryfhau chwaraeon yn
lleol
Bydd Chwaraeon Cymru yn cefnogi partneriaid i sefydlu
strwythurau lleol sy'n diwallu anghenion y cyfranogwr lleol ac
anghenion datblygu chwaraeon.
Adnabod a datblygu talent yn y gweithlu chwaraeon
Bydd Chwaraeon Cymru yn adolygu ei hyfforddiant a'i raglenni
datblygu presennol.
Buddsoddi'n strategol yn y seilwaith chwaraeon
Bydd Chwaraeon Cymru yn buddsoddi mewn seilwaith seiliedig ar
dystiolaeth partneriaethau integredig gwirioneddol neu bosibl ar
lefel leol neu ranbarthol. Byddwn hefyd yn eirioli y dylem fod yn
ymgynghorai statudol mewn unrhyw ddatblygiadau sy'n cynnwys
cyfleusterau dan do ac awyr agored, nid dim ond caeau chwarae.
Arddangos
Bydd Chwaraeon Cymru yn datblygu cronfa ddata ar-lein o
enghreifftiau o arferion da i'w rhannu gyda phartneriaid.
Archwilio cynnydd yn erbyn dulliau allweddol o fesur
Bydd Chwaraeon Cymru yn defnyddio 5 mesur allweddol i asesu
cynnydd y sector yn ystod y blynyddoedd i ddod:
- plant yn gwneud chwaraeon 3 gwaith mewn wythnos
(allgyrsiol ac mewn lleoliad cymunedol
ehangach)
- aelodaeth o glybiau
- cyfranogiad oedolion 16-24 oed (3 gwaith yr wythnos)
- cyrhaeddiad yn yr ysgol yng nghyfnod allweddol 3
- nifer yr oedolion sy'n gwirfoddoli yng Nghymru.
Blaenoriaethu cynllunio tymor hir
Bydd uwch reolwyr Chwaraeon Cymru yn ymroi i gynnal cyfres o
drafodaethau pynciol seiliedig ar faterion y credir eu bod yn
arwyddocaol i chwaraeon yng Nghymru. Bydd yn rhannu'r gwaith gyda
phartneriaid mewn cynhadledd chwaraeon flynyddol.
I gael rhagor o wybodaeth am ein hymrwymiad, edrychwch ar
ddogfen lawn y strategaeth.