Gweithlu sy'n perfformio'n dda

Rydyn ni eisiau datblygu gweithlu amrywiol, angerddol a medrus, yn gyflogedig a gwirfoddol, i annog, ysbrydoli a chefnogi cyfranogwyr a chreu cyfleoedd chwaraeon drwy ddenu a buddsoddi yn y bobl briodol, yn y mannau priodol.

Mae nifer o bethau y gallwn ni, a'n partneriaid, eu gwneud er mwyn sicrhau ein bod ni'n datblygu gweithlu sy'n perfformio'n dda:   

  • Datblygu sgiliau'r arweinwyr chwaraeon presennol a hefyd y rhai sydd ag angerdd, gallu a photensial i fod yn hynod ddylanwadol mewn swyddogaethau presennol yn Chwaraeon Cymru ac yn y dyfodol
  • Adlewyrchu cymdeithas wrth arwain - ymgyrch gadarnhaol i ddatblygu merched, pobl anabl ac unigolion DLlE mewn chwaraeon, er mwyn cyfoethogi'r gymysgedd o arweinwyr yn y dyfodol a bod yn fwy ymatebol i anghenion a ffordd o fyw y cyfranogwyr     
  • Hyfforddwyr yn cyflwyno cyfleoedd sy'n canolbwyntio ar blant
  • Datblygu cyfleoedd arwain ym mhob clwb chwaraeon ledled Cymru
  • Cefnogi datblygiad gweinyddiaeth chwaraeon ar lefel ranbarthol, lleol a chlwb
  • Cryfhau dull y sector o weithio wrth gynllunio olyniaeth a datblygiad proffesiynol parhaus                                

Sut byddwn ni'n gwybod pryd rydym ni wedi bod yn llwyddiannus?

  • Dyblu nifer yr hyfforddwyr a'r gwirfoddolwyr
  • Gweithlu medrus ac angerddol      
  • Mwy o amrywiaeth ar fyrddau, pwyllgorau ac mewn swyddi arwain     
  • Pob aelod o staff mewn Canolfannau Hamdden yn cael hyfforddiant i gyflwyno rhaglenni datblygu chwaraeon          
  • Datblygu cynlluniau gweithlu i ddiffinio beth sydd ei angen, lle mae cael hyd i bobl a sut mae eu datblygu a'u defnyddio                                          
  • Ymgorffori diwylliant o reoli perfformiad, lle mae pobl yn cael eu herio a'u cefnogi i wella eu perfformiad