Mae 'Dewch i Gerdded Cymru' (DGC) yn rhaglen gerdded ledled Cymru sy'n ceisio cynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio'r awyr agored fel cyfrwng i wella iechyd a lles y boblogaeth. Mae'r defnydd o ofod gwyrdd naturiol yn cynnig cyfleoedd gwych i bobl gymryd rhan a mwynhau cerdded.
Ein nodau yw:
Mae Dewch i Gerdded Cymru'n cyfrannu at weledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru yng nghynllun gweithredu Creu Cymru Egnïol ac fe'i cyllidir gan Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae am ddim ac ar gael i bawb.
Mae gwneud cerdded yn rhan o'ch bywyd bob dydd yn allweddol i fyw'n iach.
Fe allech chi
Dim ond cerdded yn gyflym am 30 munud bum niwrnod yr wythnos sydd raid i chi er mwyn i chi fod yn iachach. Gellir rhannu'r 30 munud yma hefyd, yn ddarnau llai, gyda 3 x sesiwn 10 munud neu 2 x sesiwn 15 munud - sy'n gallu bod yr un mor effeithiol.
Yn araf bach a fesul tipyn:
Os mai dim ond am ychydig funudau allwch chi gerdded, mae hwnnw'n fan cychwyn. Peidiwch â gor-wneud pethau. O ddechrau'n raddol, rydych yn fwy tebygol o gynyddu faint ydych yn ei wneud a dal ati. Po fwyaf o amser a dreuliwch yn ei wneud, po fwyaf fyddwch yn gallu cerdded. Os nad ydych yn heini, rhowch gynnig ar gerdded bob yn eilddydd i ddechrau.
Lawrlwythwch: 10 Rheswm dros Gerdded
Beth yw cerdded yn gyflym?
Cerdded yn gyflym yw'r nod. Ar y dwysedd hwn y sicrheir manteision i iechyd. Felly sut ydych chi'n gwybod os ydych yn cerdded yn gyflym?
Dylech gerdded ar gyflymdra sy'n gwneud i chi deimlo'n gynhesach, yn anadlu'n drymach nag arfer ac yn teimlo'n gynnes braf.
Os ydych yn gallu cerdded a:
Gall cerdded yn gyflym i un unigolyn fod yn wahanol i unigolyn arall. Bydd yn dibynnu ar eich rhyw, eich oedran a lefel eich ffitrwydd. Mae'r wybodaeth isod yn ganllaw i faint o amser ddylai ei gymryd i chi gerdded milltir.
Hefyd, gall y manteision hyn fod o gymorth i:
Os oes gennych unrhyw broblemau meddygol ac os ydych yn ansicr ynghylch faint o ymarfer ddylech fod yn ei wneud, siaradwch gyda gweithiwr iechyd proffesiynol am gyngor.
Yr awyr agored:
Mae amgylchedd naturiol ein gwlad yn cynnig cyfleoedd helaeth i elwa o fanteision cerdded. Ceir mwy na 33,000km o lwybrau tramwy cyhoeddus i'w harchwilio a'u mwynhau, yn cynnwys llwybtrau troed, llwybrau cerdded a ffyrdd.
Hefyd, mae gan Gymru barciau cenedlaethol helaeth, parciau trefol, parciau gwledig, gwarchodfeydd natur, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, fforestydd, llwybrau arfordirol a llawer, llawer mwy.
Mae rhaglenni cerdded yn cynnig cyfleoedd i ni ddod i adnabod ein hamgylchedd ac archwilio mannai newydd, o'r cymunedau rydym yn byw ynddynt i'r mynyddoedd a'r llwybrau arfordirol o'n cwmpas. Mae bod yn yr awyr iach o gymorth i leddfu unrhyw straen a thawelu eich meddwl.
Gall pobl o bob oedran a gallu ddatblygu agwedd bositif at iechyd a ffitrwydd gydol eu hoes drwy gamu allan ar garreg eu drws ac archwilio'r amgylchedd naturiol o'u cwmpas.
Am unrhyw wybodaeth bellacham unrhyw elfennau o gynllun Dewch i Gerdded Cymru, cysylltwch â:
Enw: Melanie Jones
Ffon: 029 2064 4308
E-bost: cerddwyr@ramblers.org.uk
Mae Dewch i Gerdded Cymru'n cefnogi mwy na 30 o brosiectau a grwpiau cerdded ledled Cymru. Mae rhain yn amrywio o brosiectau a arweinwir gan awdurdodau lleol i glybiau cerdded gwirfoddol lleol ac maent i gyd yn bodoli wedi recriwtio, dal gafael ar a hyfforddi gwirfoddolwyr.
Mae'r prosiectau a'r grwpiau'n amrywio o ran maint, adnoddau a rhaglenni. Os ydych eisiau cynnwys manylion eich prosiect/grŵp, anfonwch e-bost at dewchigerddedcymru@chwaraeoncymru.org.uk
Hyfforddiant Arweinwyr Cerdded Iach Cwrs undydd yw hyn, a gyflwynir yn lleol a'i reoli gan DGC. Mae ar gyfer gwirfoddolwyr a staff cyflogedig sydd eisiau arwain 'teithiau cerdded iach' ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol yn eu cymunedau neu yn yr ardaloedd o amgylch.
Mae'r hyfforddiant hwn ar gyfer y rhai sy'n dymuno arwain teithiau cerdded iach ar gyfer eu grwpiau lleol. Diffinnir teithiau cerdded iach fel "taith gerdded fer, ddiogel, gylfym dan arweiniad":
Rôl yr Arweinydd Cerdded
Beth a ddisgwylir gennych?
Mae'r cwrs arweinydd cerdded iach undydd, am ddim, yn darparu cyngor ymarferol ynghylch sut i arwain taith yn ddiogel a sut i annog a chymell cyfranogwyr. Gweler ein hadran adnoddau a themplatau am fanylion pellach am ganlyniadau dysgu'r cwrs.
Mae gan Gymru fwy na 50 o Diwtoriaid Arweinwyr Cerdded Iach i gyflwyno cwrs yr Arweinwyr Cerdded Iach (ACI). Tueddir i gynnal y cyrsiau lle ceir angen yn lleol a gall ddibynnu ar sefydlu teithiau cerdded newydd neu nifer fawr o wirfoddolwyr yn mynegi diddordeb. Mae'n syniad da cysylltu â phrosiect cerdded yn eich ardal am wybodaeth bellach am ddyddiadau'r cyrsiau sydd i ddod. I ganfod cwrs yn eich ardal chi, cysylltwch â Ffitrwydd Cymru* at enquiries@fitnesswales.co.uk neu 02920 575155.
*Mae Chwaraeon Cymru'n gweithio mewn partneriaeth â Ffitrwydd Cymru er mwyn gweinyddu cyrsiau arweinwyr cerdded iach.
Yswiriant i Wirfoddolwyr
Mae'r holl wirfoddolwyr a hyfforddir drwy gyfrwng Cwrs Arweinydd Cerdded Iach cydnabyddedig 'Dewch i Gerdded Cymru' yn gymwys i dderbyn yswiriant atebolrwydd y cyhoedd am ddim. Wedi mynychu'r cwrs, byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am yr yswiriant hwn.
Hyfforddiant i Diwtoriaid Arweinwyr Cerdded Iach
Mae'r cwrs hwn ar gyfer pobl sy'n fodlon hyfforddi gwirfoddolwyr i fod yn arweinwyr cerdded ar eu grwpiau / prosiectau lleol a'r ardaloedd o amgylch. Mae'n rhaid i Diwtoriaid yr Arweinwyr Cerdded fod wedi mynychu hyfforddiant yr Arweinwyr Cerdded Iach a bod â phrofiad o arwain teithiau cerdded.
Mae'r hyfforddiant ar ffurf cwrs deuddydd AM DDIM, sy'n cynnwys deunyddiau'r cwrs hefyd.
Gloywi'r Hyfforddiant i Diwtoriaid Arweinwyr Cerdded
Fel rhan o'r datblygiad proffesiynol, mae'n rhaid i holl diwtoriaid yr Arweinwyr Cerdded fynychu lleiafswm o 1 diwrnod hyfforddi gloywi bob blwyddyn. Amcan yr hyfforddiant yw darparu i diwtoriaid newydd a phrofiadol ddeunydd hyfforddi wedi'i ddiweddaru, cyngor ynghylch hyfforddi, rhannu arfer dda a gweithredu fel cyfle i rwydweithio.
Mwy na theithiau cerdded iach - gwahanol hyfforddiant
Ceir gwahanol lefelau o hyfforddiant ar gael i arweinwyr cerdded, yn dibynnu ar y math o deithiau cerdded rydych am eu cynnig i'ch grŵp. Gwnewch yn siŵr bod eich arweinwyr cerdded wedi'u hyfforddi i'r lefel mwyaf priodol. Po fwyaf hyderus yw eich arweinwyr cerdded, y gorau fydd y daith wrth iddi gael ei chynnal.
Bydd gan raglen 'Dewch i Gerdded Cymru' ffocws cryf ar fonitro a gwerthuso am ddau reswm:
Dylech gynnwys strategaethau monitro a gwerthuso yn eich prosiectau o'r dechrau. Mae casglu data'n bwysig am 2 brif reswm:
Mae cyllidwyr a rhanddeiliaid eisiau gwybod a yw prosiect wedi gwario ei arian mewn ffordd briodol. Yn aml iawn, mae prosiectau angen 'profi' llwyddiant neu 'gyflwyno achos' dros fod angen cyllid er mwyn cynnal y prosiect, yn enwedig ar lefel leol.
Mae'n ofynnol i'r holl brosiectau a gyllidir drwy 'Dewch i Gerdded Cymru' gasglu data monitro. Mae'r Pecyn Cyfarwyddyd ar gyfer Monitro a Gwerthuso eich Prosiect yn cyflwyno eglurhad manwl o'r broses fonitro.
I weld yr astudiaethau achos diweddaraf, cliciwch ar y ddolen isod.
Astudiaethau Achos