Dros 60
Mentro i'r dŵr gyda'r Fenter Nofio Am Ddim
60+!
Beth am fentro i'r dŵr! - Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn ac
eisiau rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol, yna efallai mai 'Menter
Nofio Am Ddim' Llywodraeth y Cynulliad i gael pobl i fod yn iachach
ac yn fwy egnïol yn gorfforol yw'r union beth i chi.
Yn ystod sesiynau dethol, mae pobl 60 oed a hŷn yn gallu gwneud
defnydd o byllau nofio AM DDIM yng Nghymru.
Ac nad ydych yn rhy hoff o nofio yn ôl ac ymlaen, ceir digon o
weithgareddau dŵr eraill i chi roi cynnig arnynt. Beth am gerdded
neu redeg yn y dŵr - sy'n haws i lawer o bobl nag ar dir. Gall
cerdded yn yr unfan yn y dŵr fod yn flinedig iawn ond mae o gymorth
i siapio eich coesau a'ch breichiau.
Hefyd, mae nifer o byllau'n cynnig gweithgaredd AM DDIM gyda
hyfforddwr bob wythnos, a gall hyn amrywio o bwll i bwll, felly
mae'n werth holi ymlaen llaw bob amser. a beth am ddod â'ch
ffrindiau gyda chi hefyd i un o'r canlynol:
- Sesiwn Heini yn y Dŵr;
- Dysgu Nofio;
- Sesiynau Gwella Dull Nofio;
- Ymarferion Gymnasteg yn y Dŵr.
Dylech holi eich meddyg cyn dechrau ar unrhyw raglen ymarfer
cofiwch, yn enwedig os oes gennych boen cefn drwg, neu broblemau
â'r cymalau, y galon neu'r glust fewnol.
Am ragor o wybodaeth am Nofio Am Ddim, yn cynnwys barn y rhai
sy'n defnyddio'r cynllun ar hyn o bryd, ewch i wrando ar bodlediad
Nofio Am Ddim.
Pam Nofio?
Mae llawer o fanteision yn perthyn i nofio, ac yn eu plith
mae:
Gwella eich ffitrwydd:
Mae nofio'n siapio'r corff cyfan tra hefyd yn gwella ei
nodweddion cardiofasgiwlar, cryfder y cyhyrau, dygnedd, ystum a'r
cyhyrau i gyd ar yr un pryd. Gall ymarfer sy'n cynnwys nofio helpu
i leihau pwysedd gwaed, sy'n lleihau'r risg o afiechyd y galon a
strôc.
Llai o risg o anafiadau o weithgareddau nofio:
Ceir risg is o anafiadau wrth i chi nofio oherwydd does dim
pwysau ar eich esgyrn, eich cymalau na'r meinwe cysylltiol gan eich
bod yn arnofio. Os ydych yn chwilio am ymarfer dyddiol diogel, mae
nofio'n ddelfrydol oherwydd gallwch ymarfer yn ddwys gyda llai o
siawns o gael anafiadau.
Helpu i golli pwysau:
Os ydych eisiau colli pwysau, mae nofio'n ddelfrydol. Ar
gyfartaledd, gall nofiwr losgi cymaint o galorïau mewn awr â rhedwr
sy'n rhedeg ar gyfradd o chwe milltir yr awr.
Cwrdd â phobl newydd:
Boed yn cymryd rhan mewn sesiwn nofio neu mewn gweithgaredd,
mae'r pwll yn lle gwych i gwrdd â phobl newydd neu fynd â'ch
ffrindiau gyda chi i gael dipyn o hwyl!
Lleddfu straen:
Mae nofio'n eithriadol ymlaciol am ei fod yn caniatáu i fwy o
ocsigen lifo i'ch cyhyrau ac mae'n eich gorfodi i reoli eich anadl.
Mae hefyd yn ffordd wych o leddfu straen.