Sut allwn ni helpu
Yma yn Chwaraeon Cymru rydym eisiau gweld Cymru fwy egniol.
Rydym nid yn unig eisiau cynyddu nifer y bobl sy'n cymryd rhan
mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ond hefyd darparu i'n ser
chwaraeon presennol, a'r rhai yn y dyfodol, gyfle i ragori yn eu
dewis gamp.
O chwaraeon ar lefel gyffredin i athletwyr elitaidd
Mae gennym gynllun grantiau ar gyfer pob maes yn chwaraeon Cymru
felly darllenwch drwy'r tudalennau cyllido i ganfod pa grant sydd
fwyaf addas i'ch anghenion.
Er mwyn eich eich helpu i benderfynu, rydym wedi darparu
crynodeb o bob grant i chi, a manylion pellach am yr hyn sy'n
gymwys a'r hyn sydd ddim.
Angen ychydig o gymorth?
Os ydych dal yn ansicr ynghylch pa grant sydd orau i chi,
cysylltwch a'ch swyddfa ranbarthol a fydd yn darparu
cyngor a chefnogaeth bellach i chi.
Sylwer, ceir rhai chwaraeon peryglus lle
mae'n rhaid i sefydliad sy'n gwneud cais fod yn aelod o'i gorff
rheoli perthnasol cyn gwneud cais am grant.
Hysbysebwch eich clwb
Ydych chi eisiau denu aelodau newydd i'ch clwb neu angen
gwirfoddolwyr newydd ar frys? Yna beth am anfon manylion eich clwb atom ni ac
fe wnawn ni eu hychwanegu at ein map chwaraeon.
Hefyd, oeddech chi'n gwybod bod modd i chi, drwy greu cyfrif FyChwaraeonCymru, hysbysebu eich
clwb, eich dosbarthiadau neu eich gwasanaethau ymhlith holl aelodau
FyChwaraeonCymru yn y
'Farchnad'.