Y Gist Gymunedol
Awydd
£1500 tuag at eich prosiect chwaraeon
cymunedol?
Mae'r Gist Gymunedol yn cynnig grant o hyd at
£1500 mewn unrhyw gyfnod o 12 mis ar gyfer
gweithgareddau sy'n:
Pwy all wneud cais?
Mae'r cynllun yn agored i unrhyw grŵp, ar yr amod bod ganddo
gyfrif banc yn enw'r
sefydliad.
Pwy na all wneud cais?
Yn anffodus, os ydych chi'n aelod o'r cyhoedd, yn ysgol gynradd
neu'n gorff cysylltiedig yn trefnu gweithgareddau i blant, neu'n
ysgol uwchradd sy'n rhan o'r cynllun 5x60, nid ydych yn gymwys i
wneud cais am grant y Gist Gymunedol.
Hefyd, ni ellir cyllido'r gweithgareddau a
ganlyn:
- Gweithgareddau corfforol fel garddio, DIY, gwelliannau
amgylcheddol, dawnsio perfformiad neu sgiliau syrcas
- Gweithgareddau / prosiectau sy'n bodoli eisoes ac sydd wedi
dechrau
- Prosiectau y credir eu bod yn rhan o gostau rhedeg o ddydd i
ddydd arferol
sefydliad
- Prosiectau wedi'u lleoli y tu allan i Gymru
Neu'r elfennau a ganlyn mewn prosiectau:
Sut i wneud cais?
Mae'r Gist Gymunedol yn cael ei gweithredu mewn partneriaeth â'r
22 awdurdod lleol yng Nghymru, felly mae'n rhaid i chi lawrlwytho
ffurflen gais a'i chyflwyno i'ch cyswllt yn eich awdurdod
lleol. Cyn cwblhau eich ffurflen gais, gwnewch yn siŵr
eich bod yn darllen nodiadau cyfarwyddyd y cynllun am fanylion
pellach ac am eich holl wybodaeth gyswllt.
Y
Ffurflen Gais
Er mwyn gallu agor y ffurflen gais, bydd rhaid i chi gael
Adobe fersiwn 5 drwy
9 (dewiswch y ddolen ar gyfer lawrlwytho'r rhaglen am ddim os
nad ydych chi wedi ei lawrlwytho eisoes i'ch cyfrifiadur).
Mae'n PDF rhyngweithiol felly rydych yn gallu teipio ynddi'n
uniongyrchol. Rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho ac yn arbed
eich ffurflen gais i ddreif eich cyfrifiadur chi, fel eich bod yn
gallu ei llenwi yn eich amser eich hun.
Wrth lenwi eich ffurflen gais, os ydych chi angen rhagor o
wybodaeth am adran, pwyswch y botwm . Defnyddiwch y
botwm i ddychwelyd i'r adran roeddech yn ei llenwi. Wedi
cwblhau'r gwaith, ewch i adran "7.0 Beth Sy'n Digwydd Nesaf?" i
wneud yn siŵr eich bod yn anfon y cais i'r lleoliad cywir, er mwyn
iddo gael ei brosesu cyn gynted ag y bo modd.