Grantiau Datblygu
Ydych chi eisiau sefydlu tîm
newydd, datblygu cyfleusterau ymarfer newydd neu brynu offer y mae
ei wir angen er mwyn symud eich prosiect ymlaen i'r lefel
nesaf?
Os felly, mae grant sydd rhwng £1,501 a £25,000 ar gael i dalu
am yr holl brosiectau uchod, yn ogystal â'r canlynol:
Pwy all wneud cais?
Mae'r grant ar gael i unrhyw grŵp, ar yr amod bod ganddo gyfrif
banc yn enw'r
sefydliad.
Pwy na all wneud cais?
Yn anffodus, os ydych chi'n aelod o'r cyhoedd, yn ysgol gynradd
neu'n gorff cysylltiedig yn trefnu gweithgareddau i blant, neu'n
ysgol uwchradd sy'n rhan o'r cynllun 5x60, nid ydych yn gymwys i
wneud cais am Grant Datblygu.
Hefyd, ni ellir cyllido'r gweithgareddau a
ganlyn:
- Gweithgareddau corfforol fel garddio, DIY, gwelliannau
amgylcheddol, dawnsio perfformiad neu sgiliau syrcas
- Gweithgareddau / prosiectau sy'n bodoli eisoes ac sydd wedi
dechrau
- Prosiectau y credir eu bod yn rhan o gostau rhedeg o ddydd i
ddydd arferol
sefydliad
- Prosiectau wedi'u lleoli y tu allan i Gymru
Neu'r elfennau a ganlyn mewn prosiectau:
- Cynnal a chadw, atgyweirio neu newid offer neu gyfleusterau
presennol (er hynny, rhoddir ystyriaeth i newid offer nad yw'n
cydymffurfio bellach â'r ddeddfwriaeth
bresennol)
- Prynu eitemau personol o offer
- Arlwyo a lletygarwch
- Medalau, tystysgrifau a thlysau
- Tripiau cartref neu dramor
- Achlysuron unigryw heb unrhyw gysylltiad â gweithgareddau
parhaus
-
Aelodaeth
Sut i wneud cais?
Os yw'r grant yma'n swnio'n berffaith i'ch prosiect chi, yna
beth am gysylltu â'ch swyddfa ranbarthol agosaf, a fydd yn fwy na
pharod i drafod eich prosiect ymhellach gyda chi, neu gallwch
lawrlwytho ffurflen gais. Cyn llenwi eich ffurflen gais, gwnewch yn
siŵr eich bod yn darllen nodiadau cyfarwyddyd y cynllun am ragor o
fanylion ac i sicrhau'r holl wybodaeth
gyswllt.
Y Ffurflen Gais
Er mwyn gallu agor y ffurflen gais, bydd rhaid i chi gael Adobe fersiwn 5 drwy 9
(dewiswch y ddolen ar gyfer lawrlwytho'r rhaglen am ddim os nad
ydych chi wedi ei lawrlwytho eisoes i'ch cyfrifiadur). Mae'n
PDF rhyngweithiol felly rydych yn gallu teipio ynddi'n
uniongyrchol. Rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho ac yn arbed
eich ffurflen gais i ddreif eich cyfrifiadur chi, fel eich bod yn
gallu ei llenwi yn eich amser eich hun.
Wrth lenwi eich ffurflen gais, os ydych chi angen rhagor o
wybodaeth am adran, pwyswch y botwm . Defnyddiwch y
botwm i ddychwelyd i'r adran roeddech yn ei llenwi. Wedi
cwblhau'r gwaith, ewch i adran "7.0 Beth Sy'n Digwydd Nesaf?" i
wneud yn siŵr eich bod yn anfon y cais i'r lleoliad cywir, er mwyn
iddo gael ei brosesu cyn gynted ag y bo modd. Rydym yn argymell
eich bod yn cyflwyno eich cais yn electronig, gan nodi enw eich
sefydliad ar unrhyw wybodaeth ategol rydych yn ei
chyflwyno.