Y Gist Gymunedol

Lottery logoAwydd £1500 tuag at eich prosiect chwaraeon cymunedol?

Mae'r Gist Gymunedol yn cynnig grant o hyd at £1500 mewn unrhyw gyfnod o 12 mis ar gyfer gweithgareddau sy'n:

  • Annog mwy o bobl i ddod yn fwy egnïol yn amlach          
  • Codi safonau'r gweithgareddau presennol

Sylwer bod ymgeiswyr yn gallu hawlio ail £1500 os yw eu cais yn seiliedig ar un o'r 2 faes blaenoriaeth. I fod yn gymwys mae'n rhaid iddyn nhw ddangos bod eu cais naill ai yn:

1.    Paratoi clybiau'n well i ddarparu ar gyfer y diddordeb a gaiff ei greu gan 2012; neu

2.    Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb - DLlE, anabledd (cynnwys), merched a genethod, cynnwys yn gymdeithasol  

Pwy all wneud cais?

Mae'r cynllun yn agored i unrhyw grŵp, ar yr amod bod ganddo gyfrif banc yn enw'r sefydliad.               

Pwy na all wneud cais?

Yn anffodus, os ydych chi'n aelod o'r cyhoedd, yn ysgol gynradd neu'n gorff cysylltiedig yn trefnu gweithgareddau i blant, neu'n ysgol uwchradd sy'n rhan o'r cynllun 5x60, nid ydych yn gymwys i wneud cais am grant y Gist Gymunedol.

Hefyd, ni ellir cyllido'r gweithgareddau a ganlyn:                       

  • Gweithgareddau corfforol fel garddio, DIY, gwelliannau amgylcheddol, dawnsio perfformiad neu sgiliau syrcas
  • Gweithgareddau / prosiectau sy'n bodoli eisoes ac sydd wedi dechrau
  • Prosiectau y credir eu bod yn rhan o gostau rhedeg o ddydd i ddydd arferol sefydliad            
  • Prosiectau wedi'u lleoli y tu allan i Gymru

Neu'r elfennau a ganlyn mewn prosiectau:

  • Cynnal a chadw, atgyweirio neu newid offer neu gyfleusterau presennol (er hynny, rhoddir ystyriaeth i newid offer nad yw'n cydymffurfio bellach â'r ddeddfwriaeth bresennol)         
  • Prynu eitemau personol o offer
  • Arlwyo a lletygarwch      
  • Medalau, tystysgrifau a thlysau
  • Tripiau cartref neu dramor
  • Achlysuron unigryw heb unrhyw gysylltiad â gweithgareddau parhaus
  • Aelodaeth  
  • Prosiectau cyfalaf (prosiectau sy'n cynnwys adeiladu neu brynu tir)
  • Cefnogaeth ariannol i unigolion 

 Sut i wneud cais?

Mae'r Gist Gymunedol yn cael ei gweithredu mewn partneriaeth â'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, felly mae'n rhaid i chi lawrlwytho ffurflen gais a'i chyflwyno i'ch cyswllt yn eich awdurdod lleol.  Cyn cwblhau eich ffurflen gais, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen nodiadau cyfarwyddyd y cynllun am fanylion pellach ac am eich holl wybodaeth gyswllt.

Y Ffurflen Gais

Er mwyn gallu agor y ffurflen gais, bydd rhaid i chi gael Adobe fersiwn 5 drwy 9 (dewiswch y ddolen ar gyfer lawrlwytho'r rhaglen am ddim os nad ydych chi wedi ei lawrlwytho eisoes i'ch cyfrifiadur). Mae'n PDF rhyngweithiol felly rydych yn gallu teipio ynddi'n uniongyrchol. Rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho ac yn arbed eich ffurflen gais i ddreif eich cyfrifiadur chi, fel eich bod yn gallu ei llenwi yn eich amser eich hun.

Wrth lenwi eich ffurflen gais, os ydych chi angen rhagor o wybodaeth am adran, pwyswch y botwm .  Defnyddiwch y botwm  i ddychwelyd i'r adran roeddech yn ei llenwi. Wedi cwblhau'r gwaith, ewch i adran "7.0 Beth Sy'n Digwydd Nesaf?" i wneud yn siŵr eich bod yn anfon y cais i'r lleoliad cywir, er mwyn iddo gael ei brosesu cyn gynted ag y bo modd.

DOWNLOADS