Sut mae ymgeisio
Mae gwneud cais am grant gan Chwaraeon Cymru yn
syml!
Dyma 4 cam syml ar gyfer gwneud cais am grant gan Chwaraeon
Cymru.
- Ewch i'n hadran Ein Grantiau i gael gweld pa grant sydd
fwyaf addas i'ch anghenion chi. Os ydych chi'n chwilio am gyllid i
athletwr, yna cliciwch yma.
- Lawrlwythwch y ffurflen gais sydd i'w gweld ar dudalen we'r
grant rydych chi'n gwneud cais amdano, ac ar y dudalen yma. Rydyn
ni hefyd wedi llunio Canllawiau defnyddiol a byddem yn eich annog
i'w darllen cyn llenwi eich cais. Dylai'r canllawiau gyflwyno'r
holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen am y broses ymgeisio, gan
gynnwys cyngor ac awgrymiadau hwylus i helpu i wneud yn siŵr bod y
broses yn rhedeg yn esmwyth.
- Llenwch y ffurflen gyda chymaint o fanylion ag y bo modd.
- Postiwch neu gyflwynwch eich ffurflen gais i'r cyfeiriad
priodol (gwelir y manylion ar dudalen we'r grant rydych chi wedi
gwneud cais amdano) ac arhoswch i glywed gennym
ni.
Mae'n
syml!
Angen ychydig o gymorth
Os ydych chi dal yn ansicr ynghylch pa grant sydd orau i chi neu
os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y broses ymgeisio, yna
cofiwch gysylltu ar 0845 045 4310. Bydd ein tîm grantiau'n fwy na
pharod i
helpu.
Chwaraeon peryglus
Cofiwch: gyda rhai chwaraeon peryglus mae'n rhaid i'r sefydliad
sy'n ymgeisio fod yn aelod o'i gorff rheoli perthnasol cyn y gall
wneud cais am grant.