Dyfernir ActiveMarc Cymru i ysgolion sy'n gallu dangos ymrwymiad i ddatblygu AG a Chwaraeon Ysgol o safon uchel.
Pan mae ysgol yn ymroi i wneud cais am ddyfarniad ActiveMarc Cymru, mae'n cymryd rhan mewn proses o hunanwerthuso gan fynd ati i ddatgan cryfderau a meysydd i'w datblygu.
Mae'r ffurflen gais yn unol â fframwaith Estyn ac yn seiliedig ar y 3 chwestiwn allweddol:
Pa mor dda yw'r canlyniadau?
Pa mor dda yw'r ddarpariaeth?
Pa mor dda yw'r arweiniad a'r rheolaeth?
Mae'r rhain yn cynnwys:
Mae ActiveMarc Cymru'n canolbwyntio ar ddarpariaeth o ansawdd a safonau uchel. Nid diben y cynllun yw canfod yr ysgolion gyda'r cyfleusterau gorau.
Bydd yr ysgolion sy'n ennill statws ActiveMarc Cymru'n derbyn tystysgrif ac yn gallu arddangos logo ActiveMarc Cymru ar ddogfennau'r ysgol ac yn ei gwefannau am 3 blynedd.
Sut i Wneud Cais?
Mae dau gyfle i wneud cais am y dyfarniad yn ystod blwyddyn academaidd 2011-12:
Anfonir hysbysiad at yr ysgolion ar gyfer blwyddyn academaidd 2010/11 o 30ain Mehefin 2011 ymlaen.
Peidiwch â gwneud y canlynol:
Ffurflen Gais a Nodiadau Cyfarwyddyd
Yn unol â Fframwaith Arolygu newydd Estyn, rydym wedi cyflwyno ffurflen gais ActiveMarc Cymru sy'n cyfeirio at y 3 Chwestiwn Allweddol (CA). Ar gyfer rownd 2 yn 2010-11, mae gennych ddewis o lenwi'r ffurflen gais 3 neu 7 CA. O 2011-12 ymlaen, dim ond y ffurflenni 3 CA fydd ar gael.
Cliciwch ar eich dewis o iaith er mwyn lawrlwytho'r ffurflen gais a'r nodiadau cyfarwyddyd:
Ffurflenni 3 Chwestiwn Allweddol
Awgrymiadau ynghylch sut i gwblhau eich ffurflen: Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen yr adran hon yn y ffurflen gais yn ofalus (tudalen 3). Argymhellir eich bod yn cysylltu â'ch swyddog AGChY lleol am gyngor a chefnogaeth.