Beth rydym yn ei wneud
Mae'r tîm Pobl a Rhaglenni'n gyfrifol am reoli'r hyfforddiant
a'r datblygiad yn ein holl raglenni.
Mae ein gwaith yn cynnwys yr amrywiaeth llawn o gyfranogwyr
chwaraeon, o bobl ieuainc i oedolion.
Pobl Ieuainc Egïnol
Mae plant egnïol yn tyfu i fyny i fod yn oedolion egnïol. Mae
ein rhaglenni'n gweithio gyda phobl ieuainc, gan sicrhau bod
ganddynt y sgiliau a'r hyder i fod yn egnïol drwy gydol eu
bywydau.
Ceir 3 prif raglen i gefnogi Pobl Ieuainc Egïnol:
Rydym hefyd yn cefnogi gwaith sy'n cysylltu ysgolion â chlybiau
a sefydliadau a mentrau pobl ieuainc, fel Nofio Am Ddim.
Oedolion Egnïol
Oeddech chi'n gwybod bod dim ond 30 munud o
ymarfer cymedrol ddwys bum niwrnod yr wythnos yn sicrhau eich bod
yn byw yn iach? Dim ond 1.5 y cant o gyfanswm yr amser mewn wythnos
lawn yw hynny!
Gall pobl o bob oed sy'n gyffredinol segur wella eu hiechyd a'u
lles drwy ddod yn egnïol yn rheolaidd. A cheir llu o fanteision o
wneud hynny.
Mae'r rhaglen Oedolion Egnïol yn cynnwys:
Felly am beth ydych chi'n disgwyl? Gosodwch nodau realistig i
chi eich hun a gwnewch rywbeth egnïol rydych yn ei fwynhau ac sy'n
cynnig hwyl i chi. Bydd yn llawer haws dal ati wedyn!