5x60
5x60 yw'r cwestiwn mathemateg wnaeth eich athro erioed ei ofyn
i chi!
Mae disgyblion ledled Cymru'n profi dimensiwn newydd yn y modd y
cyflwynir chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ysgolion
uwchradd.
Yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'i reoli gan
Chwaraeon Cymru, mae 5x60 yn newid y ddarpariaeth chwaraeon mewn
ysgolion yn llwyr, gan drawsnewid caeau chwarae a neuaddau
chwaraeon yn fwrlwm o weithgarwch o fore gwyn tan nos.
Amcan 5x60
Drwy gyfrwng gweledigaeth Dringo'n Uwch, mae Llywodraeth
Cynulliad Cymru wedi gosod her a phennu targedau ar gyfer gweld 90%
o blant Cymru'n cymryd rhan mewn gweithgarwch rheolaidd ac aml
erbyn 2020.
Mae 5x60 yn wynebu'r her hon drwy helpu i greu'r amgylchedd sy'n
angenrheidiol er mwyn i blant allu cymryd rhan mewn chwaraeon
allgyrsiol a gweithgarwch corfforol yn rheolaidd.
Y Rhaglen
Mae swyddogion 5X60 sydd wedi derbyn hyfforddiant llawn yn
gweithio mewn ysgolion uwchradd ar hyn o bryd er mwyn ymestyn y
rhaglen allgyrsiol a'u nod yw annog y rhai nad ydynt yn cymryd rhan
mewn chwaraeon i fod yn egnïol.
Cynhelir llu o weithgareddau trefnus cyn yr ysgol yn y bore, yn
ystod amser cinio, ar ôl ysgol ac ar benwythnosau. Mae'r swyddogion
yn gweithio gyda thimau datblygu chwaraeon er mwyn sicrhau bod modd
cynnal y gweithgareddau yn y gymuned hefyd.
Ehangu
Mae mwy na 150 o swyddogion wedi cael eu hyfforddi ac yn
gweithio mewn 99% o ysgolion uwchradd yng Nghymru. Hyd yma, mae'r
rhaglen wedi darparu cyfleoedd amrywiol iawn i bobl ieuainc.
Y Gweithgareddau
Gyda dalen wag o bapur a llond gwlad o syniadau, mae'r
swyddogion 5X60 yn siarad gyda'r disgyblion cyn penderfynui ar
raglen o weithgareddau. Drwy wneud hynny, mae'r disgyblion yn cael
dweud beth fyddent yn hoffi ei wneud, boed yn bêl osgoi, codi hwyl
mewn gemau, pêl rwyd neu weithgareddau eraill.
Ceir llawer o weithgareddau i ddewis o'u plith ac yn addas i
bawb. Efallai y byddwch yn penderfynu cael dipyn o awyr iach a mynd
allan i'r Awyr Agored. Rhowch gynnig ar feicio mynydd, cerdded
mynyddoedd a syrffio neu glynwch wrth y chwaraeon tîm fel pêl
droed, criced a phêl rwyd. Neu, os yw'n well gennych, beth am roi
cynnig ar ddawnsio stryd, aerobics neu denis bwrdd.
Mae 5x60 yn cynnig cyfleoedd i ysgolion:
- Gwrando ar anghenion pobl ieuainc drwy ddarparu cyfleoedd yr
hoffent gymryd rhan ynddynt
- Bod yn gwbl gynhwysol i bobl ieuainc.
Drwy gymryd rhan yn rhaglen 5x60, bydd pobl ieuainc yn:
- Teimlo eu bod yn berchen ar y cyfleoedd maent wedi'u dewis
- Mwynhau'r gweithgareddau
- Helpu i gyflwyno a threfnu'r gweithgareddau
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau am oes, waeth pa rai maent yn
eu mwynhau.
Am fwy o wybodaeth am 5x60, cysylltwch â'ch lleol
Tîm Datblygu Chwaraeon.