Sefydlwyd y Prosiect AG a Chwaraeon Ysgol (AGChY) yn 2000 o ganlyniad i adroddiad tasglu a oedd yn amlinellu'r camau gweithredu allweddol a oedd yn ofynnol er mwyn codi safonau mewn AG.
Yn 2011 cafodd y rhaglen AGChY ei hailstrwythuro.
Amcan y rhaglen
Pob person ifanc yn cael ei herio a'i gefnogi mewn A.G. a chwaraeon ysgol. Y ddarpariaeth gwricwlaidd, allgyrsiol a chymunedol yn denu pob person ifanc ac yn dysgu iddynt sgiliau, hyder a brwdfrydedd i wirioni ar chwaraeon am oes.
Canlyniadau AGChY
Cyllidir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru ac fe'i rheolir gan Chwaraeon Cymru. Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno yn awr gan dimau consortia rhanbarthol.
Yn unol â'r symud tuag at gyflwyno'n rhanbarthol, cafodd y rhaglen AGChY ei hailstrwythuro fis Medi 2011. Cyflwynir AGChY yn awr drwy gyfrwng y consortia addysgol.
Ceir pedwar tîm consortia ledled Cymru
Sefydliadau Addysg Uwch
Mae pump o'r Sefydliadau Addysg Uwch yn rhan o grŵp rhwydweithio sy'n sefydlu canlyniadau safonau lleiafswm ar gyfer Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon ac yn bwydo i ddatblygiad rhaglen o DPP ar gyfer athrawon. Mae'r SAUau hyn yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno rhai o'r cyrsiau AGChY. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen Hyfforddiant a DPP.
Mae partneriaethau rhwng y consortia a'r timau datblygu chwaraeon lleol yn cael eu sefydlu hefyd er mwyn cyflwyno canlyniadau'r rhaglen.
Yn 2001, argymhellodd y Tasglu AG a Chwaraeon Ysgol y dylid datgan meysydd blaenoriaeth ar gyfer datblygiad athrawon mewn addysg gorfforol a chymryd camau i roi sylw i unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth.
Mae ystod o gyrsiau gydag adnoddau o safon uchel yn cyd-fynd â hwy wedi cael eu datblygu yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf. Mae timau consortia'n datblygu calendrau DPP blynyddol er mwyn diwallu anghenion yr ymarferwyr lleol.
Gellir prynu copïau papur o'r holl adnoddau o'r siop ar-lein yn awr.
Cod Ymarfer
Mae Safonau DPP mewn AG a dogfen y Cod Ymarfer wedi cael eu cynhyrchu er mwyn egluro'r disgwyliadau a ddylai fod yn perthyn i athrawon a darparwyr AG mewn perthynas â chyfleoedd i ddatblygu'n broffesiynol. Mae'r ddogfen yn datgan y safonau ar gyfer gweithgareddau DPP mewn AG, gan gefnogi darpariaeth o safon uchel ar hyd a lled Cymru.
Mae Chwaraeon Cymru wedi cynhyrchu'r Cod Ymarfer hwn ar y cyd ag AfPE fel rhan o'r Prosiect Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol, a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae cyfleoedd datblygu proffesiynol hefyd yn rhan hanfodol o'r prosiect hwn. Gobeithir y bydd parodrwydd i gadw at y Cod Ymarfer hwn yn helpu gyda chodi safonau ar hyd a lled Cymru.
Partneriaethau Datblygu Ganolfan hefyd wedi eu trefnu ac amcanion y rhain fel a ganlyn:
Mae'r timau consortia yn gweithio gyda phartneriaethau lleol er mwyn sefydlu cymunedau dysgu proffesiynol (CDPau).
Mae Cymunedau Dysgu Proffesiynol yn grwpiau o ysgolion ac athrawon sy'n dod at ei gilydd er mwyn hybu dulliau o ymchwilio ar y cyd i wella'r dysgu yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae hyn yn ei dro yn arwain at well canlyniadau a dulliau dysgu mwy effeithiol.