Y Llysgenhadon Ieuainc Aur ar gyfer Wrecsam yw Maciej Szukala o Goleg Gorllewin Swydd Caer a Vikki Courtman o Goleg Iâl.
Enillodd y LlI Aur, Maciej Szukala, y Wobr i'r Gwirfoddolwr Ifanc yng Ngwobrau Chwaraeon Blynyddol y Sir a gynhaliwyd ddydd Gwener 19eg Tachwedd a hefyd enwebwyd 2 LlI adiStar sydd wedi'u recriwtio'n ddiweddar.
Gwnaeth Maciej, ynghyd â'i gyd-Lysgennad Ifanc Aur, Vikki Courtman, gyflwyniad i'r gynulleidfa o 300 o bobl, yn crynhoi amcanion mudiad y Llysgenhadon Ieuainc a'r cynlluniau bras sydd yn eu lle ar gyfer Wrecsam.
Hefyd, cydnabuwyd 16 o LlI adiStar yn y gwobrau ac yn ystod yr wythnosau nesaf bydd y LlI Aur, LlI adiStar a'r ALl yn cyfarfod i drafod eu cynllun gweithredu ar gyfer y flwyddyn.
Erthygl Newyddion
Cynhaliwyd diwrnod cynefino Llysgenhadon Ieuainc adiStars fis Ebrill 2011 a chafodd ei drefnu a'i arwain gan Maciej a Vikki, a'i gefnogi gan Faer a Maeres Wrecsam ac Anna Jackson, cyn-aelod o dîm Pêl Fasged Cadair Olwyn Tîm PF yn Gemau Sydney 2000.
Cyflwynodd y Llysgenhadon Ieuainc Aur rôl y Llysgennad i'r adiStars, cynhaliwyd cwis er mwyn ehangu gwybodaeth am y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd a hwyluswyd sesiwn lle roedd yr adiStars yn meddwl am syniadau i fynd yn ôl i'w hysgolion gyda hwy.
Y Llysgennad Ifanc Aur ar gyfer Conwy yw Arthur Jones o Ysgol Bryn Elian. Ers Cynhadledd y LlI yng Nghaerdydd, mae Arthur wedi parhau â'i rôl fel arweinydd yn ei ysgol ac yn ei gymuned.
Y cam nesaf ar gyfer Arthur yw cyfarfod Cyngor Ieuenctid Conwy er mwyn trafod sut gall Arthur weithio ochr yn ochr â hwy ar un o'u Hamcanion Craidd, 'Cynnwys mewn Chwaraeon, Hamdden a Chwarae'.
Hefyd, bydd Arthur yn cyfarfod ag adrannau AG mewn ysgolion uwchradd nad ydynt yn ymwneud ar hyn o bryd â'r rhaglen LlI, er mwyn ceisio eu hannog i ddod yn rhan o raglen y LlI!
Y Llysgenhadon Ieuainc Aur ar gyfer Ynys Môn yw Sophie Roberts a Stuart Jeffries o Ysgol David Hughes a Leon Jones o Ysgol Syr Thomas Jones.
Hyfforddiant Llysgenhadon Ieuainc AdiStars
Mynychodd 11 o Lysgenhadon Ieuainc Adistar hyfforddiant Adistar a gyflwynwyd gan y 3 Llysgennad Ifanc Aur ar Ynys Môn ar Ragfyr 14eg. Mynychodd Llysgenhadon Ieuainc Adistar weithdy 2 awr ac fe'u gwnaed yn ymwybodol o werthoedd Olympaidd a Pharalympaidd a phwysigrwydd eu rôl mewn hybu chwaraeon yn eu hysgolion ac yn eu cymuned leol. Hefyd, cawsant gyfle i rannu eu syniadau eu hunain am sut maent eisoes yn hybu chwaraeon yn eu hysgolion lleol.
Mynychodd y cyn-godwr pwysau, Ray Williams o Gaergybi, y noson fel siaradwr gwadd er mwyn ysbrydoli'r Llysgenhadon Ieuainc. Mae Ray yn gyn-godwr pwysau a ddaeth yn Bencampwr y Gymanwlad, gan ennill medal Aur yn y dosbarth pwysau plu yng Ngemau Cymanwlad 1986 yng Nghaeredin. Bydd yr unigolion hyn yn chwarae rhan allweddol yn awr mewn hybu chwaraeon yn eu hysgolion ac mewn helpu i ysbrydoli a chreu mwy o ymwybyddiaeth o fanteision chwaraeon ymhlith eu ffrindiau, gan ddefnyddio pŵer Llundain 2012.
Llysgenhadon Ieuainc yn helpu gyda gŵyl nofio
Yn ddiweddar, bu dau Lysgennad Ifanc Aur, Sophie a Stuart, yn helpu gyda Gŵyl Nofio Snap, Crackle a Flop ym Mhwll Nofio Bangor, gan gynnig anogaeth a chymhelliant i gyfranogwyr. Cynhaliwyd yr ŵyl nofio gynhwysol ar gyfer disgyblion ysgolion anabl y prif ffrwd ddiwedd mis Tachwedd, a daeth y cyfranogwyr i'r ŵyl o ysgolion o bob cwr o Ogledd Cymru. Hefyd, bu'r Llysgenhadon Ieuainc yn helpu swyddogion lleol a chenedlaethol ar y diwrnod, drwy ddarparu gwybodaeth i'r cyfranogwyr a chynnig help llaw wrth i'r disgyblion symud o un gweithgaredd i'r nesaf. Bydd yr holl Lysgenhadon Ieuainc Aur ac Arian o Ynys Môn yn dal ati i helpu gyda gwyliau yn ystod 2011.
Scott Edwards a Megan Bolam o Ysgol Brynhyfryd yw Llysgenhadon Ieuainc Aur Sir Ddinbych ac maent wedi bod yn ysbrydoli disgyblion Blynyddoedd 7, 8 a 9 i groesawu Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd gyda breichiau agored. Maent wedi gwneud y canlynol:
Sam Parry o Ysgol Uwchradd Treffynnon, Carys Williams o Ysgol Uwchradd Penarlâg a Lucy Byrne o Ysgol Uwchradd Argoed yw'r Llysgenhadon Ieuainc Aur presennol ar gyfer Sir y Ffint ac maent hefyd wedi cael cefnogaeth gan Steve Thomas, Llysgennad Ifanc sy'n rhan o'r cynllun Platinwm peilot ac sy'n mynychu Prifysgol Glyndŵr.
Gyda'i gilydd, mae'r Llysgenhadon Ieuainc yn cynllunio taith eu Fflam Olympaidd eu hunain yn Sir y Fflint, gan ymweld â phob ysgol yn y Sir ac ysbrydoli'r bobl ifanc a'u hysgolion i gofleidio grym Llundain 2012. Bydd rhaid i'r ysgolion sydd eisiau cymryd rhan yn y daith gofrestru gyda Rhwydwaith Get Set a'r Wythnos Chwaraeon Ysgol Genedlaethol.
Dangosodd Sam ragoriaeth drwy ennill Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon y Sir ac mae Carys yn gobeithio y bydd ei phrofiadau fel Llysgennad Ifanc yn ei helpu i sicrhau lle fel gwirfoddolwr yng nghystadleuaeth Ganŵio 2012 yn Llundain.
Y Llysgenhadon Ieuainc Aur ar gyfer Sir Benfro yw Lucy Griffiths o Ysgol Aberdaugleddau a Haydon Mathias o Ysgol Y Preseli.
Mae'r LlI Aur yn arwain y gwaith ffilmio fel rhan o gynllun Media 4 Schools, sy'n arddangos mentrau AGChY, 5x60 a Champau'r Ddraig a mentrau Datblygu Chwaraeon eraill.
Hefyd, bydd y LlI Aur yn cael eu cydnabod am gael eu dewis yn LlI yng Ngwobrau Chwaraeon Blynyddol Sir Benfro ar Dachwedd 26ain.
Y Llysgenhadon Ieuainc Aur ar gyfer Abertawe yw cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Tre-gŵyr, Lewys Simmons, a disgyblion presennol o wahanol ysgolion - Corey Thomas o Ysgol Gyfun Birchgrove, Ainsley Richards o Ysgol Gyfun Gŵyr a Thomas Francis o Ysgol Gyfun Tre-gŵyr.
Ers y gynhadledd fis Hydref, mae Lewys, Corey, Ainsley a Thomas wedi gweithio gyda thîm Abertawe Egnïol er mwyn cynnal eu sesiwn cyflwyno cyntaf i Lysgenhadon Ieuainc adiStars. Cynhaliwyd y sesiwn yn y Ganolfan Ddinesig ddydd Gwener y 26ain o Dachwedd rhwng 4pm a 6pm ac fe'i mynychwyd gan 32 o Lysgenhadon Ieuainc adiStars o bob ysgol uwchradd yn Abertawe.
Arweiniwyd y sesiwn gan y Llysgenhadon Ieuainc Aur a ysbrydolodd yr adiStars drwy roi gwybod iddynt am Fudiad y Llysgenhadon Ieuainc ac am rôl y Llysgenhadon. Tynnwyd sylw hefyd at y cysylltiadau â Llundain 2012 a sut gall y gemau, ac adnoddau fel Get Set ac adiStars, gael eu defnyddio i ysbrydoli eu ffrindiau i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Yng Ngwobrau Chwaraeon blynyddol Abertawe Egnïol ddydd Gwener y 3ydd o Ragfyr 2010, gwnaeth y pedwar Llysgennad Ifanc Aur gyflwyniad i fwy na 400 o bobl ynghylch nod Mudiad y Llysgenhadon Ieuainc a sut maent yn bwriadu ysbrydoli pobl ieuainc Abertawe i gymryd rhan mewn chwaraeon.Hefyd, roedd Llysgenhadon Ieuainc adiStars yn bresennol yn y Gwobrau, gan wirfoddoli eu hamser i dîm Abertawe Egnïol drwy ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau, yn cynnwys cyfarfod a chyfarch gwesteion a dosbarthu gwobrau. Gwahoddwyd holl Lysgenhadon Ieuainc Abertawe ar y llwyfan i dderbyn plac o lechen gan yr Awdurdod Lleol, fel cydnabyddiaeth o'r ffaith eu bod wedi cael eu dewis yn Llysgenhadon Ieuainc.
Llysgenhadon Ieuainc Aur Caerfyrddin yw Hope Russell o Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth, Emyr Jones o Ysgol Tregib a Stuart White o Ysgol Dyffryn Taf.
Cynhaliwyd diwrnod hyfforddi adiStars yn ystod mis Rhagfyr ac, ers hynny, mae'r Llysgenhadon Ieuainc ledled Sir Gaerfyrddin wedi gwneud y canlynol:
Carwen Richards o Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan a Danielle Pryce o Ysgol Gyfun Penweddig yw Llysgenhadon Ieuainc Aur Ceredigion ac, ochr yn ochr â'r gefnogaeth gan y tîm Pobl Ieuainc Egnïol, fe wnaethant arwain achlysur cynefino Llysgenhadon Ieuainc adiStars ym mis Rhagfyr 2010.
Mae tîm y Llysgenhadon Ieuainc yng Ngheredigion wedi creu tudalen ar Facebook fel eu bod yn gallu rhannu eu syniadau i gyd am yr hyn maent wedi bod yn ei wneud yn ysbrydoli eu ffrindiau i gymryd rhan mewn chwaraeon ac yn creu mwy o ymwybyddiaeth o Lundain 2012. Mae'r grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd yn awr, i rannu eu syniadau ac i drafod sut gallant hybu gweithgarwch corfforol a Llundain 2012.
Mae'r Llysgenhadon Ieuainc Aur wedi annog pob ysgol uwchradd yn y Sir i gofrestru gyda'r Rhwydwaith Get Set, fel eu bod yn gallu manteisio ar yr adnoddau, y cystadlaethau a'r gwobrau sy'n cael eu cynnig ganddynt.
Yn dilyn erthygl yn Rhwydwaith y Llysgenhadon Ieuainc, bu Carwen yn llwyddiannus yn ei chais am dridiau o brofiad gwaith gyda Phwyllgor Trefnu Llundain ar gyfer y Gemau Olympaidd. Bydd y profiad gwaith yn cael ei gynnal yn Llundain yn ystod gwyliau Pasg Carwen a chewch ragor o wybodaeth am hyn drwy glicio yma.
Y Llysgenhadon Ieuainc Aur ar gyfer Caerffili yw cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Cwmcarn, Abbey Gutteridge, a dau ddisgybl presennol o wahanol ysgolion - Darryl Holdcroft o Ysgol Gyfun St Martin a Ffion Jones o Ysgol Uwchradd Rhymni.
Bu dau Lysgennad Ifanc Aur, Abbey Gutteridge a Darryl Holdcroft, yn helpu i gynnal gweithdy ar y Llysgenhadon Ieuainc a Llundain 2012 yng Nghynhadledd Arweinwyr Partneriaeth 2010 a gynhaliwyd yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru.
Hefyd, gofynnwyd i Abbey gyflwyno'r wobr am gyflawniad oes i Betty Gray o Abertawe yng Ngwobrau Hyfforddwr y Flwyddyn 2010 ar Dachwedd 24ain.
Bydd gan Abbey, Darryl a Ffion Jones ran flaenllaw i'w chwarae hefyd yng Nghynhadledd Cyflogaeth Sports Leaders UK sydd i'w chynnal ddydd Iau Tachwedd 26ain.
Cynhaliwyd achlysur cynefino Llysgenhadon Ieuainc adiStars ddiwedd mis Mawrth 2011, yn Stadiwm Dinas Caerdydd, dan arweiniad y Llysgenhadon Ieuainc Aur.
Cafodd yr adiStars eu hysbrydoli gan daith o amgylch y stadiwm a sesiwn Hawl i Holi gyda'r sbrintiwr Paralympaidd, John McFall, a'r rhedwr pellter canol yn y Gemau Cymanwlad, James Thie. Hefyd, cawsant syniadau ynghylch sut i ddefnyddio Llundain 2012 er mwyn ysbrydoli eu hysgolion i ddod yn fwy egnïol.
Y Llysgenhadon Ieuainc Aur ar gyfer Bro Morgannwg yw Will Thomas o Ysgol Gyfun Y Bontfaen a Jessica Richards o Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr.
Yn ychwanegol at y Llysgenhadon Ieuainc Aur, mae'r ysgolion uwchradd ledled Bro Morgannwg wedi penodi 12 o Lysgenhadon Ieuainc adiStar pellach i weithredu fel modelau rôl ac i ddefnyddio grym Llundain 2012 i ysbrydoli mwy o bobl ieuainc i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Fel rhan o brosiect a gyllidir gan CPALl, mae'r Llysgenhadon Ieuainc wedi derbyn cyfleoedd hyfforddi, mentora a gwirfoddoli pellach gan y Cyngor er mwyn helpu i ddatblygu eu sgiliau.
Rhwng misoedd Medi a Rhagfyr 2010, mae'r Llysgenhadon Ieuainc yn y Fro wedi cyflawni'r canlynol:
Y Llysgenhadon Ieuainc Aur ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr yw Natalie Davies o Ysgol Gyfun Maesteg, Kieran Joynson o Ysgol Gyfun Ynysawdre a Jamie Evans, cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Brynteg.
Mynychodd enillwyr medalau Cymanwlad am nofio, sef Jazz Carlin, Georgia Davies a Gemma Lowe, Ysgol Maesteg er mwyn ceisio annog y merched yno i gymryd rhan mewn mwy o chwaraeon. Croesawodd Natalie y nofwyr i'r ysgol ac fe'i cyflwynodd i grŵp o ferched ysgol nad ydynt yn cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon y tu allan i'w gwersi AG.
Yna, hwylusodd Natalie sesiwn Hawl i Holi rhwng y nofwyr a'r merched ysgol, ac yna gweithdy lle bu'r merched i gyd yn nodi'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag cymryd rhan mewn chwaraeon. Cafodd y digwyddiad sylw gan BBC Wales ac ITV a gellir gweld fideo o'r digwyddiad drwy glicio yma.
Mae'r Llysgenhadon Ieuainc Aur wedi cefnogi sawl digwyddiad perthnasol i brosiect treftadaeth 'Dilyn y Fflam' hefyd, drwy ysbrydoli disgyblion iau ledled y fwrdeistref i fyw yn ôl gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd ac i gymryd rhan mewn chwaraeon.
I weld fideo o Natalie yn egluro beth mae hi wedi'i wneud ers dod yn Llysgennad Ifanc Aur, cliciwch yma.
Llysgenhadon Ieuainc Aur Caerdydd yw Molly Morris ac Ali Amir o Ysgol Uwchradd Caerdydd, Nathan Williams a Steph Harris o Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd a Lyn Seehaswith o Ysgol Uwchradd Fitzalan.
Cynhaliwyd diwrnod hyfforddi adiStars ym mis Tachwedd 2010 yng Ngwesty'r Village, ar gyfer 20 o bobl ifanc o 10 ysgol uwchradd ledled y ddinas. Dysgodd Llysgenhadon Ieuainc adiStars am eu rôl fel Llysgenhadon Ieuainc a buont yn meddwl am syniadau i greu mwy o ymwybyddiaeth o Lundain 2012 ac i gynyddu'r cyfranogiad yn eu hysgolion. Cyflwynodd Dawn Mitchell, a oedd newydd ddod yn ôl o Delhi lle bu'n cynrychioli Cymru mewn hoci, araith ysbrydoledig i Lysgenhadon Ieuainc adiStars.
Holly yw cynrychiolydd Cymru ar Grŵp Llywio Llysgenhadon Ieuainc y DU ac mae wedi teithio i Lundain sawl gwaith i gyfarfod â'r grŵp ac i drafod cyfeiriad y cynllun Llysgenhadon Ieuainc yn y DU yn y dyfodol. Yn ystod ei hymweliad diwethaf, cyfarfu'r grŵp â'r AS, Tim Lawton, er mwyn trafod cyflwr chwaraeon ysgol a chawsant eu tywys o amgylch Tŷ'r Arglwyddi.
Yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, mae'r Llysgenhadon Ieuainc Aur a Llysgenhadon Ieuainc adiStars wedi helpu gyda gwyliau gymnasteg a hoci a gynhaliwyd yn ddiweddar ar gyfer y disgyblion iau, gan ddysgu gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd iddyn nhw. Yn Ysgol Uwchradd Fitzalan, mae'r Llysgenhadon Ieuainc wedi croesawu ysbryd y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd gyda breichiau agored ac maent yn gweithio ar brosiect i annog mwy o ddisgyblion yn CA4, ac yn enwedig y merched, i ddod yn fwy egnïol yn gorfforol.
Cynhaliwyd diwrnod cynefino adiStars fis Ebrill 2011 ac fe'i trefnwyd a'i gyflwyno gan y Llysgenhadon Ieuainc Aur yn unig, sef Ollie Smith ac Adam Anzani-Jones o Ysgol Cardinal Newman, Rachel Murphy o Ysgol Gyfun Aberpennar a Rhys Jones o Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Ioan Fedyddiwr.
Roedd y diwrnod cynefino'n cynnwys sesiwn torri'r iâ, Cwis Olympaidd a Pharalympaidd a chyfle i gynllunio syniadau ar gyfer defnyddio grym Llundain 2012 ledled RhCT. Roedd hefyd yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau adeiladu tîm, er mwyn annog cyfeillgarwch ymhlith aelodau'r grŵp.
Mae'r Llysgenhadon Ieuainc Aur wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais am arian drwy gyflwyno syniad ar yr un fformant â Dragon's Den, er mwyn sefydlu prosiect lle bydd adiStars a'r Arweinwyr Chwaraeon ieuainc eraill yn cael cyfle i fynychu Hyfforddiant Cynnwys yr Anabl. Yn dilyn yr hyfforddiant, defnyddir yr adiStars a'r Arweinwyr Chwaraeon mewn clybiau cymunedol, i helpu gyda chyflwyno cynhwysol.
Mae'r Llysgenhadon Ieuainc Aur wedi cael gwahoddiad i gyflwyno sesiwn amser cinio yn Chwaraeon Cymru, er mwyn dangos sut gall pobl ifanc helpu gyda chael Pob Plentyn i Wirioni ar Chwaraeon am Oes.
Hefyd, mae Rhys Jones yn dangos rhagoriaeth yn ei yrfa chwaraeon ac yn gobeithio cynrychioli Tîm PF yn y cystadlaethau sbrint yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012.
Ynys Môn a Gwynedd Mae'r LlI Aur o'r ddau ALl wedi cyfarfod i drafod cynlluniau ar gyfer eu rôl. Cynhelir noson lansio adiStar ar Ragfyr 14eg ac mae'r LlI Aur hefyd yn helpu gyda'r Achlysur Nofio i'r Anabl ar Dachwedd 29ain.
Blaenau Gwent Chwaraeodd y Ll Aur ran bwysig yn y gwaith o redeg achlysur Arweinwyr Chwaraeon Blaenau Gwent a gynhaliwyd yn ystod hanner tymor mis Hydref. Agorodd y LlI y gynhadledd a hwyluso trafodaeth gyda phanel o oedolion. Ar Dachwedd 25ain, roedd y LlI Aur yn rhan o Gynhadledd Cyflogaeth Sports Leaders UK a gynhaliwyd yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, gan gymryd rhan yn y gwaith o hwyluso'r achlysur, a fynychwyd gan fwy na 150 o Arweinwyr Chwaraeon Cymunedol ac oedolion o sefydliadau fel General Electric, CO-OP, yr Urdd, CPD Dinas Caerdydd a Street Games.
Caerffili Bu dau Lysgennad Ifanc Aur, Abbey Gutteridge a Darryl Holdcroft, yn helpu i gynnal gweithdy ar y Llysgenhadon Ieuainc a Llundain 2012 yng Nghynhadledd Arweinwyr Partneriaeth 2010 a gynhaliwyd yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru. Hefyd, gofynnwyd i Abbey gyflwyno'r wobr am gyflawniad oes i Betty Gray o Abertawe yng Ngwobrau Hyfforddwr y Flwyddyn 2010 ar Dachwedd 24ain. Bydd gan Abbey, Darryl a Ffion Jones ran flaenllaw i'w chwarae hefyd yng Nghynhadledd Cyflogaeth Sports Leaders UK sydd i'w chynnal ddydd Iau Tachwedd 26ain.
Caerdydd Mae'r Llysgennad Aur, Holly Morris, cynrychiolydd Cymru ar Grŵp Llywio'r DG, yn mynychu'r cyfarfod nesaf a gynhelir fis Rhagfyr ym mhencadlys yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon ar gyfer Ieuenctid yn Loughborough. Ar Dachwedd 1af, cynhaliodd Caerdydd hyfforddiant cyflwyno ar gyfer 20 o LlI adiStar a'u swyddogion 5x60. Cyflwynodd Dawn Mitchell, chwaraewraig hoci dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad, sgwrs ysbrydoledig tu hwnt a chefnogodd aelodau'r cabinet yr achlysur hwn.
Ceredigion Cynhelir diwrnod hyfforddi adiStar ddydd Mawrth 2il Rhagfyr yn Aberaeron ac fe'i cyflwynir gan y LlI Aur a thîm 5x60. Wedi'r diwrnod hyfforddi, y gobaith yw sefydlu tudalen ar Facebook ar gyfer LlI Ceredigion, a chodi byrddau arddangos y LlI ym mhob un o'r 7 ysgol uwchradd. Hefyd, bydd y LlI yn dechrau cyflwyno gwasanaethau boreol er mwyn lledu'r neges am gynllun y LlI. Gan edrych i'r dyfodol, y nod yw hybu gwefan adiStar a chreu fforwm 'Voice 4 Sport' ym mhob ysgol.
Sir y Fflint Mae'r LlI Aur wedi cyfarfod a threfnu gweithgareddau ar gyfer LlI adiStar. Mae'r sir yn penderfynu a ydynt am dreialu LlI Platinwm ai peidio, gydag un o'u gwirfoddolwyr a fydd yn mentora'r LlI Aur a LlI adiStar.
Sir Benfro Mae'r LlI Aur yn arwain y gwaith ffilmio fel rhan o gynllun Media 4 Schools, sy'n arddangos mentrau AGChY, 5x60 a Champau'r Ddraig a mentrau Datblygu Chwaraeon eraill. Hefyd, bydd y LlI Aur yn cael eu cydnabod am gael eu dewis yn LlI yng Ngwobrau Chwaraeon Blynyddol Sir Benfro ar Dachwedd 26ain.
Abertawe Mae LlI adiStar wedi cael eu dewis ym mhob un o'r ysgolion uwchradd gan y swyddogion 5x60 a byddant yn mynychu eu diwrnod hyfforddi ar Dachwedd 26ain. Hefyd, bydd y LlI Aur a LlI adiStar yn ymwneud â Gwobrau Chwaraeon Blynyddol y Sir ac yn cael eu cydnabod ynddynt. Fe'u cynhelir ddydd Gwener 3ydd Rhagfyr.
Wrecsam Enillodd y LlI Aur, Maciej Szukala, y Wobr i'r Gwirfoddolwr Ifanc yng Ngwobrau Chwaraeon Blynyddol y Sir a gynhaliwyd ddydd Gwener 19eg Tachwedd a hefyd enwebwyd 2 LlI adiStar sydd wedi'u recriwtio'n ddiweddar. Gwnaeth Maciej, ynghyd â'i gyd-Lysgennad Ifanc Aur, Vikki Courtman, gyflwyniad i'r gynulleidfa o 300 o bobl, yn crynhoi amcanion mudiad y Llysgenhadon Ieuainc a'r cynlluniau bras sydd yn eu lle ar gyfer Wrecsam. Hefyd, cydnabuwyd 16 o LlI adiStar yn y gwobrau ac yn ystod yr wythnosau nesaf bydd y LlI Aur, LlI adiStar a'r ALl yn cyfarfod i drafod eu cynllun gweithredu ar gyfer y flwyddyn.