Get Set

Am beth ydych chi'n disgwyl? - ymunwch â Get Set heddiw!

Beth yw Get Set?

Get Set yw rhaglen addysg swyddogol Llundain 2012. Ei nod yw:

  • Ehangu dysgu pobl ifanc ar draws y cwricwlwm cyfan - trwy chwaraeon, diwylliant ac addysg
  • Cefnogi a sbarduno blaenoriaethau ac agendâu addysgol sy'n bodoli eisoes
  • Cynnwys cymaint o blant a phobl ifanc â phosibl yng nghyffro Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.
  • Mynd a hud ac ysbrydoliaeth Gemau Llundain 2012 allan i ddosbarthiadau, meysydd chwarae a bywydau pobl ifanc ledled y DU.
  • Cynorthwyo plant a phobl ifanc ledled y DU i ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth, personol, meddwl a bywyd.

Os hoffech ddarganfod mwy am Get Set, ewch i'r wefan heddiw a gwyliwch y fideo sy'n dangos popeth y mae angen i chi wybod am Get Set.

Young AmbassadorsPam ddylai eich ysgol chi ymuno?

A hoffech chi gael tocynnau ar gyfer y Gemau Olympaidd i chi a'r plant eraill yn eich dosbarth, neu ymweliadau gan athletwyr neu Wenlock a Mandeville, masgotiaid Llundain 2012?

Os felly, ymunwch â Get Set heddiw gan fo'r rhain ymhlith y buddion lawer y byddwch yn eu derbyn trwy ymuno â'r rhwydwaith.

Sut allwch chi gymryd rhan?

Mae ymuno yn hawdd. Gallwch wneud y cwbl ar-lein. Dilynwch y camau syml hyn i ymuno heddiw:

  • Cofrestrwch eich ysgol ar wefan Get Set. Mae cofrestru yn hawdd. Ar ôl i'ch ysgol gael ei chymeradwyo, byddwch yn derbyn cadarnhad gan Bwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd (LOCOG) eich bod wedi cwblhau'r cam ymuno cyntaf.
  • Yna, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn ymuno â rhwydwaith Get Set er mwyn cael mynediad at yr holl fideos am ddim a'r cyngor defnyddiol. I ymuno â'r rhwydwaith yn llawn, bydd angen i chi ateb 3 chwestiwn syml - pam wnaethoch chi benderfynu cymryd rhan yn Get Set? Crynhowch yr hyn rydych chi a'ch myfyrwyr wedi ei wneud/yn ei wneud i ddangos ymroddiad i'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. A pha gynlluniau sydd gennych i barhau'r gwaith hwn yn y dyfodol? Gallwch anfon y ffurflen hon drwy'r wefan. Os hoffech weld copi o'r ffurflen y mae angen i chi ei chwblhau, cliciwch yma.
  • Manteisiwch yn llawn ar yr holl fideos gwych a'r cyngor defnyddiol ar sut y gallwch sicrhau'r bod Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 yn cael yr effaith fwyaf bosibl.

Jazz Carlin visits Burry Port as part of National School Sport WeekNid oes rhaid i chi fod wedi gwirioni ar Lundain 2012. Os ydych chi am ailgynllunio eich cwricwlwm cyfan i'w seilio ar y gemau, yna mae hynny'n wych, ond mae llawer o bethau syml y gallwch chi eu gwneud hefyd, fel cysylltu'r gwasanaeth yn yr ysgol â'r gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd neu ddefnyddio unrhyw rai o adnoddau ardderchog Bydd Barod sydd ar gael ar ôl i chi ymuno.

Fe ddywedom ni wrthych na allai fod yn haws, felly am beth ydych chi'n disgwyl?

Ac i wneud pethau'n haws fyth, mae fideo sy'n eich tywys trwy'r holl broses, cam wrth gam.  

 

Beth sy'n digwydd ledled Cymru?

Ceir enghreifftiau gwych eisoes o'r ffordd mae ysgolion yng Nghymru yn cael budd o Get Set. Os hoffech ddarganfod pa ysgolion sydd wedi ymuno â Get Set ac wedi cymryd y cam cyntaf ar ôl cael eu derbyn i rwydwaith Get Set, cliciwch yma. Ac oes nad yw eich ysgol ar y rhestr, pam?

Dyma rai enghreifftiau o sut mae rhai ysgolion yn buddio:

Young Ambassadors promoting Get SetPecyn Cymorth Llysgenhadon Ifanc:

Gall Llysgenhadon Ifanc Aur ymuno eu hysgolion eu hunain â Get Set. Felly os ydych chi yn Llysgennad Aur, ewch ati ar unwaith i ddilyn y cyfarwyddiadau uchod i gofrestru eich ysgol.

Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu na allwch annog ysgolion eraill yn eich ardal i ymuno, felly rydym wedi rhoi help llaw i chi trwy ddarparu cyflwyniadau defnyddiol a llythyrau templed i'ch cynorthwyo i rannu neges Get Set.

Cyflwyniadau:

Llythyrau templed:

Ar ôl i chi ymuno, gallwch hefyd fewngofnodi a chael mynediad at ffilmiau a chyngor ar sut i hyrwyddo'r cynllun ymhellach.

Hoffech chi ddarganfod mwy?

Os hoffech ddarganfod mwy am Get Set, cysylltwch â'r cynllun yn uniongyrchol drwy'r wefan neu cysylltwch â Richard Dando yn Chwaraeon Cymru ar 02920 338375 neu richard.dando@sportwales.org.uk  

Ond mae amser yn prysur ddiflannu

Cofiwch, os na fydd eich ysgol yn rhan o'r rhwydwaith erbyn mis Rhagfyr 2011, yna bydd yn colli'r cyfle i sicrhau tocynnau ar gyfer Llundain 2012 a chyfleoedd anhygoel eraill.

Adnoddau Mewnol

Cysylltiadau Allanol

DOWNLOADS