16 ac Iau
Awydd cael hwyl yn dŵr AM DDIM yn eich canolfan hamdden leol yn
ystod gwyliau'r ysgol? Os felly, beth am ddeifio i mewn a gweld
beth sy'n cael ei gynnig.
Byddwch yn rhyfeddu ar yr hyn allwch chi gymryd rhan ynddo yn
eich pwll nofio lleol a fydd o'm yn costio ceiniog i chi! Dyna
reswm da dros ddal ati in.
Diolch i Fenter Nofio Am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru,
gallwch fynychu eich pwll nofio lleol AM DDIM yn ystod gwyliau'r
ysgol, felly does dim esgus dros deimlo'n ddiflas rhagor!
Yn berthnasol i bob plentyn 16 oed ac iau, mae'r fenter yn eich
gwneud yn gymwys i sesiynau hwyl yn y dŵr am ddim ar adegau penodol
yn eich canolfan hamdden leol (mae'r amseroedd yn amrywio ym mhob
pwll) ac o leiaf un sesiwn gweithgarwch strwythuredig AM DDIM bob
wythnos yn ystod y gwyliau.
Gall y sesiynau hyn amrywio ym mhob gwyliau ac ym mhob canolfan
hamdden, ond y math o weithgareddau a gynigir yw:
- Snorcelu
- Achub bywyd
- Polo dŵr
- Canŵio
- Sesiynau blasu gan glybiau
- Disgos dŵr
- Sesiynau hwyl
-
Sesiynau teuluol
Y Ddarpariaeth Leiafswm ar gyfer Ieuenctid 16 Oed ac Iau
- 14 awr o nofio am ddim bob wythnos yn ardal pob Awdurdod Lleol
yn ystod gwyliau'r ysgol, gyda lleiafswm o 7 awr o'r rhain yn
weithgareddau dŵr strwythuredig
- 1 sesiwn strwythuredig penodol ar gyfer plant anabl bob wythnos
yn ardal pob awdurdod lleol yn ystod pob gwyliau ysgol
- 2 awr o nofio am ddim neu weithgaredd ochr syth bob
penwythnos ym mhob Awdurdod Lleol