Am Nofio Am Ddim
Mae nofio am ddim yn chwarae rhan allweddol yn strategaeth
Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer galluogi plant ac oedolion i fod yn fwy egnïol.
Pam Nofio?
- Mae nofio'n sgil bywyd ac yn achub bywydau
- Mae nofio'n hwylus i rai pobl y mae ffurfiau eraill ar
weithgarwch corfforol yn anodd iddynt - y rhai ag anawsterau symud
er enghraifft, a'r rhai sydd eisiau ymarferion effaith isel
- Mae nofio'n cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau, fel
sesiynau hwyl, cadw'n heini mewn dŵr, cylchedau dŵr, nofio
cyfamserol, polo dŵr yn ogystal â gwersi nofio a nodio ar hyd
pwll
- Gall unigolion nofio ar eu pen eu hunain neu mewn grwpiau
anffurfiol neu drefnus
- Gall teuluoedd nofio gyda'i gilydd
- Mae nofio'n weithgaredd i bob oedran
- Mae nofio'n agor y drws ar chwaraeon dŵr fel rhwyfo, syrffio,
hwylio, deifio sgwba etc
- Mae clybiau nofio a grwpiau trefnus eraill yn cynnig cyfleoedd
gwirfoddoli a datblygu gyrfa / datblygiad personol.
Ond peidiwch â chymryd ein gair ni:
"Mae nofio'n rhagorol er mwyn sicrhau ffitrwydd cyffredinol
oherwydd mae'n siapio eich corff cyfan ac yn gwneud i'r galon
bwmpio'n gyflym.
"Mae'n gamp sy'n agored i bobl o bob oedran - boed am hwyl neu i
gystadlu - mae'r manteision yn anferth. Ceir cymaint o gyfleusterau
rhagorol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru felly byddwn yn annog
pawb, hen ac ifanc, i fanteisio ar y rhaglen Nofio Am Ddim a
chymryd rhan."
David Davies - Enillydd medal efydd Olympaidd, Athen 2004,
1500m Dull Rhydd