Pam cofrestru?
Pa un ai ydych yn mynd i'r gym bum gwaith yr wythnos neu'n cael
trafferth cael hyd i amser i redeg am ryw hanner awr oherwydd
prysurdeb bywyd teuluol, mae pob un ohonom yn gwybod ei bod yn
fanetisiol cael ffordd o fyw egnïol.
Mae FyChwaraeonCymru yn gymuned ar-lein o bobl o bob cwr o Gymru
sydd ag un amcan i gyd - bod yn egnïol yn gorfforol.
Ond pam cofrestru ar gyfer FyChwaraeonCymru - sut fyddwch chi'n
elwa?
Cadw llygad ar eich perfformiad
Mae FyChwaraeonCymru yn cynnig traciwr gweithgarwch ar-lein i
chi, er mwyn i chi allu cofnodi popeth, o ba mor bell ydych chi'n
rhedeg i faint o ymarferion gwthio i fyny ydych chi'n eu gwneud yn
y gym. Gallwch fonitro eich cynnydd a'ch cymharu eich hun ag
aelodau eraill FyChwaraeonCymru.
Ond os nad ydych yn gystadleuol, does dim ots, mae eich proffil
yn breifat.
Cofnodi pa mor bell ydych chi'n rhedeg, cerdded neu
feicio
A oes gennych drefn reolaidd o redeg o gartref ond heb syniad pa
mor bell ydych chi'n rhedeg?
A ydych yn beicio i'r gwaith bob dydd ond heb syniad faint i
filltiroedd ydych chi'n eu beicio bob wythnos?
Wel, mae ein traciwr llwybt yn berffaith i chi. Gallwch nid yn
unig ganfod faint yn union ydych chi wedi ei feicio, rhedeg neu
gerdded, ond hefyd gallwch arbed eich llwybrau a'u rhannu ag eraill
sy'n frwdfrydig am chwaraeon yn eich ardal.
Meddwl am sefydlu clwb?
Ar FyChwaraeonCymru gallwch hysbysebu am aelodau newydd ar gyfer
eich clwb neu hysbysebu am bobl frwdfrydig yn eich ardal sydd â
diddordeb mewn sefydlu clwb efallai.
Hysbysebu eich dosbarthiadau
Ydych chi'n cynnal dosbarth mewn neuadd bentref leol ac eisiau
denu aelodau newydd? Neu efallai'n darparu hyfforddiant i arweinwyr
beicio mynydd. Mae FyChwaraeonCymru yn eich galluogi i hysbysebu
eich dosbarthiadau neu eich gwasanaethau felly pwy a ŵyr faint o
aelodau neu gwsmeriaid newydd gewch chi.
Dod yn rhan o gymuned
Mae FyChwaraeonCymru yn cynnig eu cymuned ar-lein eu hunain i
bobl Cymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn chwaraeon, mae
FyChwaraeonCymru yn cynnig popeth rydych ei angen i chi.
Felly ewch amdani nawr, ymunwch
heddiw.