Sut fyddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth?

Cesglir yr wybodaeth gan Chwaraeon Cymru fel eich bod chi'n gallu creu eich proffil FyChwaraeonCymruI eich hun ac ni fydd yn cael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall.

Ni fydd yr wybodaeth yn cael ei rhannu ag unrhyw drydydd personau, yn cynnwys Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Ni fydd eich gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd, ond bydd eich enw fel defnyddiwr yn ymddangos ochr yn ochr ag unrhyw hysbysebion fyddwch chi'n eu creu ym marchnad FyChwaraeonCymruI. Felly, mae'n syniad da peidio â defnyddio eich enw eich hun fel eich enw defnyddiwr; yn hytrach, dewiswch lysenw neu enw nad yw'n hawdd eich adnabod chi oddi wrtho.