Sut mae 'Yn Eich Ardal Chi' yn gweithio
Mae 'Yn Eich Ardal Chi' yn caniatáu i chi chwilio am
gyfleusterau, clybiau a thimau yn eich ardal - dyna sut mae wedi
cael yr enw!
Ceir cannoedd o gyfleusterau chwaraeon ledled Cymru, popeth o
byllau nofio i ganolfannau hamdden, clybiau golff i ganolfannau
cymunedol - sy'n cynnig cyfle i holl bobl Cymru godi allan a bod yn
egnïol.
Chwilio Cyflym
I wneud pethau ychydig yn haws i chi, rydym wedi dewis nifer o
dagiau poblogaidd i chi ymlaen llaw, i gyflymu'r broses.
Os yw un o'r tagiau at eich dant, cliciwch ar y testun a bydd y map
yn dangos i chi'r holl gyfleusterau yng Nghymru sy'n cynnig eich
dewis chi o weithgaredd.
Yna, gallwch naill ai ddefnyddio swyddogaeth sgrolio'r map i
chwilio'n nes at adref, neu glicio ar y symbol agosaf at eich
cartref am ragor o fanylion - mae'n syml
iawn.
Chwilio Manwl
Gallwch hefyd ddefnyddio'r swyddogaeth prif chwiliad i chwilio
am weithgareddau penodol mewn mannau penodol, h.y Nofio yn
Abertawe.