Mae Prif Hyfforddwr Boccia Cymru a Hyfforddwr Perfformiad PF, Peter Pearse, wedi ymwneud â'r gamp ers mwy nag 20 mlynedd a fis Tachwedd, cafodd ei goroni'n Hyfforddwr y Flwyddyn Chwaraeon Cymru.
Ymunodd Peter â Boccia Cymru fel Prif Hyfforddwr yn 2007 ac mae'r holl berfformwyr o dan ei gyfarwyddyd ef yn rhagori'n gyson mewn cystadlaethau.
Yn 2010, enillodd ei sgwad deitlau dirifedi ledled y DU ac Ewrop ac mae ei athletwyr Boccia ar raglen fasttrack PF yn anelu at le yn Llundain 2012.
Yng Ngemau Boccia Cenedlaethol PF yn ddiweddar yn yr Alban, daeth dau chwaraewr o Gymru, Jacob Thomas a Karl Parish, â medalau gartref i Gymru.
Daeth Karl Parish yn ail (Medal Arian) yn y Categori BC3 a daeth Jacob Thomas yn fuddugol (Medal Aur) yn y Categori BC3.
Bellach mae Jacob Thomas wedi cael ei ddewis ar gyfer Sgwad Boccia Elitaidd PF - llwybr at Gemau Parlympaidd Llundain 2012.
Rhagorodd Peter ei hun fel athletwr, yn Baralympiad bedair gwaith. Ei ddull digynnwrf a chŵl o hyfforddi yw ei gyfrinach.
Meddai Peter, 39 oed, o Swydd Hertford:
"Rwyf wedi bod yn hyfforddi ers tua 20 mlynedd yn awr. Ers i mi ymddeol fel athletwr yn 2004, rwyf wedi hyfforddi'r continiwm llawn, o weithgaredd hamdden drwodd i athletwyr sgwad elitaidd PF.
"Yn 2004, deuthum i gysylltiad ag Anthony Hughes o Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru. Ychydig alwadau ffôn ac e-byst yn ddiweddarach - ac ambell gychwyn ffug - dechreuais ymwneud â Boccia Cymru. Rwyf wedi cael croeso mawr ac rwy'n teimlo bellach fel 'cockney' Cymraeg. Rwyf hyd yn oed yn dysgu cockney i'rathletwyr a'r staff cefnogi - ond mae'n rhaid i mi gyfaddef bod eu gallu mewn boccia'n llawer gwell na'u cockney. Bydd lle arbennig yn fy nghalon i Boccia yng Nghymru am byth. "
Gyda sesiynau hyfforddi rheolaidd yng Nghaerdydd a gydag athletwyr o wahanol rannau o'r DU, mae Peter yn cyfaddef ei fod wedi gwirioni ar hyfforddi.
"Mae cymaint o agweddau positif ar fod yn hyfforddwr, yn arbennig rhoi grym i unigolion drwy gyfrwng boccia.
"Yn y dyfodol, fe hoffwn weld un neu fwy o'r athletwyr yng Nghymru y deuthum ar eu traws gyntaf ychydig flynyddoedd yn ôl ar y podiwm i PF. Nid er mwyn sicrhau clod i mi fy hun, ond er mwyn gwybod bod eu gwaith caled a'u talent wedi dwyn ffrwyth. Hefyd er mwyn sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn llinell gynhyrchu ar gyfer potensial ar lefel PF."
Os yw Peter wedi eich ysbrydoli chi i fynd ati i hyfforddi neu wirfoddoli, beth am gofrestru heddiw?
Wedi bod yn ymwneud â hyfforddi ers wyth mlynedd, mae Rebecca'n cael clod am helpu i sefydlu'r canolfannau hwyl enwog ar gyfer hoci yn Llanelli a bu'n helpu i arloesi gyda gwaith mewn ysgolion cynradd yn Sir Gaerfyrddin.
Yn brif hyfforddwraig ar 2il dîm APCC ac yn hyfforddwraig gynorthwyol gyda Seintiau'r Eglwys Newydd, mae hefyd yn hyfforddwraig gynorthwyol yn Academi Ranbarthol Undeb Hoci Cymru ac yn hyfforddwraig gynorthwyol yng Nghanolfan Datblygu Perfformiad Caerdydd.
Ond nid dyna unig ymroddiad Rebecca i hoci. Mae wedi bod yn ysgrifennydd Panel Ieuenctiod Hoci'r Byd er 2009 ac mae'n aelod o weithgor sy'n gyfrifol am sefydlu Panel Ieuenctid PF, a fydd yn llais i wirfoddolwyr ieuainc yn y byd hoci. Bydd hyd yn oed yn cysylltu â phanelau ieuenctid Ewrop a'r Byd.
Mae Rebecca, 23 oed, yn athrawes yn Ysgol Uwchradd Fitzalan yng Nghaerdydd. Meddai:
"Rwy'n trefnu fy mywyd o amgylch hoci.
"Dechreuais chwarae yn yr ysgol uwchradd ac roeddwn wir yn mwynhau. Yna, pan es i i'r coleg, fe wnes i ddal ati. Un diwrnod, roeddwn yn yr ystafell newid a daeth y swyddog datblygu hoci ataf a dweud ei bod yn meddwl bod gen i botensial da i ddatblygu fel hyfforddwr am fy mod yn gallu darllen y gêm mor dda.
"Wedi hynny, roeddwn yn rhan o'r cynllun Activator ac mae pethau wedi cynyddu ers hynny.
"Rwyf wrth fy modd yn hyfforddi ac yn gweld y chwaraewyr yn mwynhau ac yn llwyddo.
"Y swyddog datblygu hoci a wnaeth fy helpu i yw fy model rôl ac rwy'n gobeithio y gallaf innau fod yr un fath i'r bobl ieuainc rwy'n gweithio â hwy.
"Cefais fy enwebu i gynrychioli Cymru yng Nghanada ac fe wnes i gyflwyniad am hoci ieuenctid. Fe ddes i'n ail allan o ryw 30 o bobl a chefais wahoddiad i ymuno â Phanel Ieuenctid y Byd. Mae'n brofiad ffantastig."
Wedi'ch ysbrydoli?
Darrell yw Hyfforddwr Perfformiad Datblygu Athletau Cymru. Mae ei gnwd cynyddol o athletwyr talentog sy'n hyfforddi yn y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol wedi rhoi perfformiadau o'r safon uchaf yn ystod 2010.
O fod yn Bencampwyr Prifysgolion Prydain ac enillwyr medalau i gael eu dewis ar gyfer y Gemau Cymanwlad ac i gynrychioli PF, mae ei athletwyr yn parhau i ragori.
Ymhlith y perfformiadau llwyddiannus eleni mae medal arian yn y Gemau Cymanwlad i'r sbrintwraig bara-athletig, Jenny McLoughlin, a thymor llwyddiannus i'r rhedwr 800m, Gareth Warburton, a ddaeth i benllanw gyda pherfformiad cryf yn rownd derfynol Delhi.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Darrell, o Gwmbran, wedi ei sefydlu ei hun yn gyflym iawn fel hyfforddwr hynod lwyddiannus mewn sawl cystadleuaeth yn y gamp. Mae wedi gweithio'n helaeth gydag Athletau'r DG a Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru a gyda nifer o athletwyr o wahanol allu.
Meddai Darrell:
"Rwy'n mwynhau'r hyn rwy'n ei wneud ac yn ceisio cael fy athletwyr i gyrraedd y lefel nesaf, sy'n cynnwys gwaith caled gan yr athletwyr a gennyf innau. Felly, mae'r perfformiadau'n ymdrech ar y cyd i raddau helaeth. Mae'n grêt bod eraill yn teimlo bod ein gwaith caled yn haeddu cydnabyddiaeth drwy fy enwebu ar gyfer y wobr hon.
"Roedd ffocws y rhan helaethaf o'r flwyddyn ar gael yr athletwyr i gymhwyso ar gyfer Gemau'r Gymanwlad. Dechreuodd y paratoadau yn ystod y tymor dan do a chael yr athletwyr i redeg yn gyflym yn barod ar gyfer yr awyr agored.
"Roedd y cynllunio a'r paratoi fel pe bai'n mynd yn dda gyda mwyafrif yr athletwyr yn rhedeg eu gorau personol. Cyrhaeddodd fy athletwyr y rowndiau terfynol mewn pencampwriaethau mawr a sicrhaodd lawer ohonynt gynrychiolaeth ryngwladol, gan arwain at dri'n cael eu dewis ar gyfer Gemau'r Gymanwlad.
"Y peth gorau am hyfforddi yw gweld yr athletwyr yn cyrraedd eu nodau personol, yn ennill pencampwriaethau, yn cael eu dewis ac yn rhedeg eu gorau personol.
"Gwybod fy mod wedi helpu gyda'u cynnydd a rhannu fy ngwybodaeth yw'r hyn rydych yn chwilio amdano. Mae pob athletwr yn unigolyn a'r her yw cael y gorau ohonynt ac mae gweld ffrwyth y llafur hwnnw'n rhoi ymdeimlad braf iawn o gyflawni.
"Mae bod yn hyfforddwr hefyd yn ymwneud â hunanddatblygiad a dysgu oddi wrth eraill. Rwy'n dysgu'n gyson oddi wrth hyfforddwyr eraill, academyddion a hyd yn oed fy athletwyr.
"Ymhlith yr eiliadau gorau mae pan mae athletwr yn eich taro ar eich cefn ac yn dweud diolch yn fawr.
"Fel hyfforddwr, rwy'n dal i ddatblygu ond rwy'n teimlo fy mod yn dod yn nes fyth at fy nod yn y pen draw - sef gweld un o'm hathletwyr yn ennill medal Olympaidd."
Ers dros hanner can mlynedd, mae Betty Gray wedi bod yn un o gewri'r byd tenis bwrdd yng Nghymru. Mae'r wraig 90 oed o Abertawe wedi ennill anrhydedd iddi'i hun ym mhob cwr o'r byd - gan godi proffil y gamp a gweithredu fel llysgennad swyddogol ar ei rhan ac ar ran Cymru. Arweiniodd yr ymroddiad rhyfeddol hwn at ddyfarnu Gwobr Cyflawniad Oes Chwaraeon Cymru i Betty yn 2010, yng Ngwobrau Hyfforddwr y Flwyddyn Chwaraeon Cymru.
Dechreuodd Betty chwarae tenis bwrdd yn 1939. Roedd yr holl ddynion ieuainc wedi mynd i'r rhyfel fwy neu lai ac roedd chwaraeon yn cynnig bywyd cymdeithasol amgen.
Roedd gan Glwb y Ceidwadwyr Ieuainc fwrdd ac yno, y tu ôl i ffenestri wedi'u cuddio gan orchuddion pren, darganfu Betty ei bod yn arbennig o dda am chwarae 'ping-pong'.
Symudodd Betty at y Swyddfa Bost ar ôl 1945 a hi oedd chwaraewraig orau eu tîm cymysg.
Roedd yn bencampwraig Cymru am fwy na 10 mlynedd, enillodd fedalau a thlysau di-ri a mwy na 250 o gwpanau.
Yn ystod ei gyrfa'n chwarae, mae wedi ennill aur Ewropaidd ac ym mhecnampwriaethau senglau'r byd yn ei grŵp oedran, ac efydd yn y dyblau - cryn gamp i wraig gyda chrud cymalau yn ei dwylo a phedwar pin dur yn ei ffêr.
Mae Betty'n dal i hyfforddi ac mae'n goruchwylio sesiynau wythnosol a chystadlaethau mewn canolfannau hamdden ledled y ddinas.
Dydi hi erioed wedi siomi'r ieuenctid. Mae chwaraewyr yn heidio i'r clybiau ieuenctid, y cynlluniau chwarae a'r sesiynau datblygu hyfforddiant y mae wedi helpu i'w rhedeg ers dros 30 o flynyddoedd. Dim ond pump oed yw rhai ohonynt.
Fel y rhan fwyaf o feterans sy'n dymuno rhoi rhywbeth yn ôl i'w camp, mae'n ymwneud mwy â'r gweinyddu yn awr. Mae'n llywydd Cymdeithas Tenis Bwrdd Cymru, Cynghrair Tenis Bwrdd Abertawe a Chymdeithas Feteran newydd Cymru.
Yn 2001, anrhydeddwyd Betty am ei gwasanaethau i Denis Bwrdd yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.
Meddai Betty:
"Rwyf wedi teithio'r byd i gyd gyda thenis bwrdd - Awstralia, Japan a phob cwr o Ewrop. Roeddem yn arfer chwarae mewn gwledydd y tu hwnt i'r Llen Haearn ac roedd hwnnw'n gryn brofiad.
"Ers i mi fod yn chwarae, rwyf wedi bod yn helpu'r ieuenctid.
"Mae gennym 13 o dimau ar hyn o bryd. Rwy'n agor y clwb, estyn yr offer, trefnu'r holl gemau a gwneud yn siŵr bod popeth yn iawn er mwyn dechrau ar amser. Rwyf ar y ffôn drwy'r wythnos!
"Rwy'n meddwl bod ymwneud â'r clwb, a hyfforddi, yn fy nghadw i i fynd. 'Fyddwn i byth yn gallu rhoi'r gorau iddi - byddai pedair wal yn fy nghyrru i'n wallgof!
"Rydym yn lwcus oherwydd bob haf rydym yn cael mwy a mwy o ieuenctid yn dod drwodd ac mae nifer o'n chwaraewyr yn chwarae i Gymru. Rydym yn hyfforddi dechreuwyr a phob lefel wedi hynny hyd at lefel y chwaraewyr elitaidd.
"Roeddwn bob amser yn cael y gwaith o hyfforddi'r dechreuwyr pan nad oeddent yn gallu cydio mewn bat - am fod gen i fwy o amynedd na'r dynion! Roeddwn yn chwarae tenis a thenis bwrdd pan oeddwn yn iau ac yn ariannol, mae'n siŵr fy mod i wedi dewis yr un anghywir. Ond rwyf wedi mwynhau pob eiliad - dydw i'n difaru dim."
Yn enillydd gwobr Hyfforddwr Perfformiad Elitaidd y Flwyddyn yng ngwobrau Hyfforddwr y Flwyddyn Chwaraeon Cymru 2010, enillwyd tri allan o'r pedwar medal nofio i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad gan athletwyr yn cael eu hyfforddi gan Bud McAllister.
Yn hyfforddwr uchel iawn ei barch, Bud yw Prif hyfforddwr Canolfan Hyfforddiant Dwys Nofio Prydain ym Mhwll Cenedlaethol Cymru, Abertawe. Yn wreiddiol o Michigan, mae wedi bod yn hyfforddi yn Abertawe ers tair blynedd. Daeth y tymor i ben gydag arian (200m) ac efydd (400m) i'r nofwraig dull rhydd, Jazz Carlin, ac efydd yn y 50m dull cefn i Georgia Davies.
"Rwy'n teimlo bod gen i'r swydd berffaith. Rwy'n cael cefnogaeth gant y cant gan y bobl rwy'n gweithio â hwy yn Abertawe, nofio Cymru a nofio PF - ac rwy'n eu parchu am hynny.
"Cyn belled ag yr wyf i'n y cwestiwn, does dim gwell swydd i'w chael. Wedi dweud hynny, ar ôl gweithio yng Nghaliffornia a Chanada, fe allai'r tywydd fod ychydig yn well!"
Felly beth sy'n cymell y gŵr o Fichigan?
"Mae yna bob amser gystadleuaeth fawr arall ar y calendr i baratoi ar ei chyfer. Waeth pa mor dda oedd y ras ddiwethaf, yr her yw ceisio cyrraedd y lefel nesaf. Mae hynny'n wir yn sicr wrth i ni feddwl am Lundain 2012."