Tu ôl i bob seren
Un athletwr ar ddeg. Deg camp. Un peth yn gyffredin: cefnogaeth yr hyfforddwr sydd wedi eu helpu i lwyddo.
O gogls i bytwyr, o fwâu i rwyfau ac o feics i sbeics, mae hwn yn gipolwg unigryw ar y perthnasoedd sydd wedi bod o gymorth i un ar ddeg o sêr y byd chwaraeon yng Nghymru ddisgleirio.
Byddwch yn gweld pam bod eu hyfforddwyr yn gwneud hyn. Ie, cariad at gamp, ond hefyd er mwyn datblygu talent ac oherwydd dyhead cryf i ennill. Dysgu sgiliau newydd. Ehangu gwybodaeth. Bod yn heini. Dod yn rhan o dîm a chael hwyl.
Mae hyfforddi a gwirfoddoli’n hanfodol mewn chwaraeon. Drwy gyfrwng cyfweliadau gydag athletwyr elitaidd a lluniau gan ffotograffydd Cool Cymru, Terry Morris, ynghyd ag arddangosfa deithiol ar hyd a lled Cymru, rydym eisiau dathlu’r rôl hon. Oherwydd yr eiliad hon, mae gwirfoddolwyr wrthi’n brysur yn hyfforddi eu tîm pump bob ochr lleol, yn hyfforddi chwaraewyr pêl rwyd i ymosod, yn torri orenau ar gyfer hanner amser, yn gosod y rhwydi yn eu lle, yn gyrru’r bws mini, yn dangos sut i wneud cic a chwrs ac yn cynllunio’r sesiwn ymarfer nesaf.
Mae’r gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth mawr. A does dim amheuaeth ein bod angen mwy. Eich dewis chi yw beth ydych yn ei wneud a faint o amser ydych yn ei roi, a cheir digon o gyfleoedd i chi ddewis o’u plith. Ond beth yn union mae hyfforddi a gwirfoddoli yn ei gynnwys?
Os ydych wedi cael eich ysbrydoli gan yr hyn rydych wedi’i ddarllen, beth am gofrestru heddiw a chyfrannu at ddatblygu ein cenhedlaeth nesaf o sêr y byd chwaraeon.
Ac os ydych eisiau gweld y lluniau a chanfod mwy am hyfforddi a gwirfoddoli yn eich ardal chi, edrychwch ar yr amserlen i weld a ydym yn dod i dref agos atoch chi.
