Dysgir Zwmba mewn ffordd gwbl wahanol i ddosbarth dawns
arferol,gyda phatrymau dawns byrion i'w dysgu yn
hytrach na'r broses araf o ddysgu un ddawns fawr.
Symudwch eich corff wrth ddawnsio Salsa, meringue,
cumbia, reggeaton, mambo, cha-cha, hip hop a hyd yn oed
dawnsio bol. Nod y dosbarth, sy'n para awr, yw cyfuno
rhythmau cyflym ac araf â hyfforddiant ymwrthedd, er
mwyn siapio a cherflunio eich corff, wrth iddo losgi
braster.