Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru’n sicrhau llwyddiant dwbl

Mae Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, sy'n eiddo i ac yn cael ei rheoli gan Chwaraeon Cymru, wedi'i chanmol am fynd y filltir ychwanegol ar ran ei chwsmeriaid a'r amgylchedd.

Gydag Wythnos Cynaladwyedd Cymru ar y gorwel (17-23 Mai), mae Chwaraeon Cymru wedi datgelu bod ei Ganolfan Genedlaethol wedi sicrhau cymeradwyaeth y Ddraig Werdd am ei ymroddiad ers amser maith i fod yn wyrdd.

Yn rhaglen a gyflwynir gan Groundwork yng Nghymru er mwyn cydnabod ymdrechion y sefydliadau yng Nghymru sy'n amgylcheddol ymwybodol, mae'r Ganolfan wedi llwyddo i gynnal Lefel 2 Safon Rheoli Amgylcheddol y Ddraig Werdd - dyfarniad sy'n brawf bod y sefydliad yn ymwybodol o rwymedigaethau cyfreithiol amgylcheddol a'r gweithredoedd sy'n angenrheidiol er mwyn cadw atynt.

Yn cyflwyno sylwadau am y cynnydd sydd wedi'i wneud yn y sefydliad, meddai Rheolwr Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Malcolm Zaple:

"Mae'r Ganolfan Genedlaethol yn cydnabod effaith ei gweithrediadau ar yr amgylchedd lleol. Mae'r effeithiau hyn yn digwydd wrth i ni gynhyrchu gwastraff, defnyddio ynni a sicrhau cynhyrchion a gwasanaethau.

"Rydym yn hynod falch o dderbyn safon Lefel 2 y Ddraig Werdd am y trydydd tro, gan nid yn unig cydnabod ymdrechion y staff yn yr Athrofa a Chwaraeon Cymru fel sefydliad i sicrhau gwell cydbwysedd ond hefyd dangos ein bod, drwy weithio mewn partneriaeth â'n cydweithwyr yn y byd chwaraeon a'n cyflenwyr allanol, yn gallu gwneud gwahaniaeth didwyll."

Gan ennill anrhydedd dwbl, mae cartref chwaraeon Cymru wedi derbyn Dyfarniad Gwasanaeth Rhagorol i Gwsmeriaid hefyd - Marc Siarter y Llywodraeth gynt - am barhau i wella ei gêm a darparu gwasanaethau a chyfleusterau o safon byd i gwsmeriaid.

Wedi asesiad manwl, cymeradwywyd ymroddiad y sefydliad i gefnogi athletwyr Paralympaidd y presennol a'r dyfodol yng Nghymru; yn fwyaf nodedig, fe'i canmolwyd am y modd y mae wedi mapio'r adeilad ar lefel gynhwysfawr ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.

Ymhlith cyrff rheoli cenedlaethol chwaraeon eraill, mae Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru'n defnyddio'r Athrofa Genedlaethol fel eu cartref. Meddai Rheolwr yr Academi, Gerwyn Owen:

"Mae Chwaraeon Anabledd Cymru'n ddiolchgar i Chwaraeon Cymru am sicrhau mynediad teg i'r cyfleusterau yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru. Mae'r amgylchedd perfformio o safon byd y mae ein hathletwyr yn gallu hyfforddi ynddo yn y lleoliad yn cael ei gefnogi hefyd gan ba mor hwylus yw'r defnydd o'r cyfleusterau a gynigir i ddefnyddwyr anabl."

Ymhlith y darganfyddiadau allweddol eraill mae:

· Mwy o foddhad ymhlith y defnyddwyr

· Mynediad da i gyfleusterau

· Gwasanaeth cyson dda i gwsmeriaid

· Ymateb yn dda i ofynion am ddiweddaru a gwella cyfleusterau

· Perthnasoedd da gyda chyrff rheoli cenedlaethol