Y Gweilch yn cefnogi'r alwad am hyfforddwyr ar lefel gyffredin

Mae staff hyfforddi'r Gweilch wedi dangos eu cefnogaeth i ymgyrch ledled Cymru i annog mwy o bobl i ymwneud a hyfforddi a gwirfoddoli mewn chwaraeon ar lefel gyffredin.

Gruff Rees

Mae'r Prif Hyfforddwr, Sean Holley, a'r Hyfforddwr Sgiliau, Gruff Rees, wedi datgan eu cefnogaeth i ymgyrch Tu Ôl i Bob Seren Chwaraeon Cymru, ymgyrch sy'n dathlu ac yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad hyfforddwyr a gwirfoddolwyr ar hyd a lled y wlad i chwaraeon Cymru.

Yn bwysicach na dim, mae'r ymgyrch yn annog y cyhoedd i wirfoddoli a hyfforddi yn eu cymunedau.

Caniataodd y Gweilch i Chwaraeon Cymru gael cipolwg y tu ol i'r llenni i weld peth o'r gwaith y mae'r chwaraewyr proffesiynol yn ei wneud ar y cae ymarfer.

Gruff Rees (yn y llun) yw hyfforddwr sgiliau a datblygiad chwaraewyr proffesiynol y tîm cyntaf a chwaraewyr yr academi. Dechreuodd ar ei yrfa hyfforddi fel swyddog datblygu gyda'r awdurdod lleol cyn symud ymlaen drwy strwythur clwb Cymru a sgwadiau grwpiau oedran Cymru.

Mae Gruff yn gweithio ar ddatblygu sgiliau un-i-un gyda'r chwaraewyr mewn agweddau fel sgiliau safleoedd a sgiliau craidd fel trin, pasio, taclo a thechnegau'r mannau cyffwrdd.

Meddai:

"Mae annog hyfforddi ar lawr gwlad yn gwbl allweddol. O edrych ar nifer y chwaraewyr sydd gennym yma sy'n dalent frodorol, rydym yn gwybod faint o ddylanwad mae chwarae yn yr ysgol ac yn y clwb wedi'i gael ar eu datblygiad.

"O siarad gyda'r chwaraewyr ac edrych ar holiaduron y chwaraewyr, y dylanwad mwyaf arnynt, ar wahân i'w rhieni, yw eu hyfforddwr clwb neu eu hathro ysgol bob tro.

"Mae'n allweddol cael dylanwad ar y chwaraewyr ar y lefel honno."

Meddai Sean Holley, sydd wedi symud i fyny drwy'r rhengoedd hyfforddi wedi i anaf i'w ben-glin ddwyn ei yrfa chwarae i ben yn fuan:

"Mae hyfforddwyr cymunedol yn chwarae rhan hollbwysig mewn cynnal diddordeb pobl, yn enwedig pobl ieuainc, mewn chwaraeon.

"Mae eu gwaith yn eithriadol anodd wrth iddynt ddod i gysylltiad â chymaint o chwaraewyr. Mae'r neges maent yn ei chyfleu yn allweddol i gynnal diddordeb a'u helpu i ddatblygu a gwella. Gallant hefyd helpu gyda'r broses o adnabod talent.

"Mae hyfforddi'n cynnig llawer o brofiadau llawn boddhad wrth helpu eraill i wella a chyrraedd eu nodau. Peidiwch byth â meddwl eich bod wedi dysgu popeth a daliwch ati i ddysgu'n bersonol. Yn fwy na dim, mae'n rhaid i chi ymddiried yn eich barn eich hun."

Meddai'r Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru:

"Hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn Chwaraeon Cymru a bydd ymgyrch Tu Ôl i Bob Seren Chwaraeon Cymru'n ein helpu i gyrraedd ein nod o greu mwy o hyfforddwyr a gwell hyfforddwyr mewn gwlad lle rydym yn cydnabod ac yn cefnogi ein hased pennaf - ein pobl."

Gall y cyhoedd gofrestru eu diddordeb mewn hyfforddi neu wirfoddoli drwy fynd i www.tuôlibobseren.org.uk.

Hefyd, gallwch weld clip ffilm y Gweilch yn: http://www.youtube.com/watch?v=1r6bf8NGkMI neu gofrestru gyda thudalen 'Tu Ôl i Bob Seren' ar Facebook.