100 diwrnod i fynd tan y Gemau Paralympaidd21 May 2012Gyda 100 diwrnod i fynd tan y Gemau Paralympaidd, mae’r Farwnes Tanni Grey Thompson wedi ymuno â phenaethiaid chwaraeon anabledd yng Nghymru i annog clybiau chwaraeon ar hyd a lled y wlad i agor eu drysau i bobl anabl.
- Drysau’n agor i Ddreigiau ifanc18 May 2012
Wrth i sylw Llundain 2012 droi at garreg filltir fawr y Gemau Paralympaidd, mae clwb gymnasteg o Bowys yn profi bod sêr ifanc addawol o bob gallu’n medru llamu a rholio eu ffordd at lwyddiant.
- Clwb pêl fasged cadair olwyn yn neud gwahaniaeth yng Nghonwy17 May 2012
Clwb Pêl Fasged Cadair Olwyn Conwy Thunder yw'r clwb cyntaf o'i fath yng Nghonwy ac un allan o bedwar clwb pêl fasged cadair olwyn yng Ngogledd Cymru.
Taith fflam Sir y Fflint yn tanio ysbryd 15,000 o ddisgyblion ysgol heini27 April 2012Gyda Thaith Gyfnewid Fflam Olympaidd 2012 ar fin creu bwrlwm yn y byd chwaraeon ar hyd a lled y wlad o 19 Mai ymlaen, cyrhaeddodd taith fflam Sir y Fflint ei phenllanw arbennig yr wythnos ddiwethaf.
100 Diwrnod i fynd tan Gemau 2012: Chwaraeon Cymru i ddatgelu Strategaeth Gymunedol a gefnogir gan y Loteri18 April 2012Wrth i’r genedl ddathlu 100 diwrnod i fynd tan Gemau Llundain 2012, mae Chwaraeon Cymru wedi cyhoeddi strategaeth ar gyfer chwaraeon cymunedol yng Nghymru heddiw.
Seren hoci Olympaidd yn dod adref i ysbrydoli ieuenctid03 April 2012Daeth Sarah Thomas, y seren hoci Olympaidd a aned ym Merthyr Tudful, adref i’w thref enedigol ddoe ar ôl cymryd egwyl brin o’i pharatoadau ar gyfer Llundain 2012. Gwnaeth hynny er mwyn cael gwybod mwy am gynlluniau uchelgeisiol Hoci Cymru i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o Olympiaid a chwaraewyr hoci brwdfrydig ar lawr gwlad.
Cymru’n dathlu 200 diwrnod i fynd tan Llundain 201209 January 2012Mae gan Gymru gymaint i edrych ymlaen ato gan ei hathletwyr yn Nhîm PF, yn ôl un o brif arweinwyr chwaraeon y wlad, wrth i'r DU ddathlu heddiw (Dydd Llun 9 Ionawr 2012) mai 200 diwrnod sydd i fynd tan agoriad mawreddog Gemau Olympaidd Llundain 2012.
- “Peidiwch â gadael i ddisgyblion Cymru golli cyfle,” medd McAllister08 December 2011
Mae un o brif weinyddwyr y byd chwaraeon yng Nghymru yn galw ar ysgolion i sicrhau eu cyfran o docynnau Llundain 2012 fel bod disgyblion Cymru’n cael yr un cyfleoedd â’r rhai mewn rhannau eraill o’r DU.
Teuluoedd yn troi at ffitrwydd diolch i gefnogaeth Gist Gymynedol05 December 2011Mae hwb ariannol gan Chwaraeon Cymru, efo cefnogaeth gan Cyngor Sir Wrecsam, yn helpu teuluoedd i gadw’n heini drwy gyfrwng chwaraeon yn ardal Cymunedau yn Gyntaf Parc Caia.
Cymeradwyaeth frenhinol i hyfforddwyr05 December 2011Mae pedwar hyfforddwr sydd wedi helpu Dai Greene ar ei lwybr tuag at glod yr aur wedi derbyn gwobr anrhydeddus yn y DU.
Annog ysgolion i ddilyn Sarah lwcus i Lundain 201205 December 2011Mae cefnogwraig chwaraeon o Abertawe wedi bod yn lwcus iawn yn ei hymgais i weld y sioe fwyaf ar y Ddaear.
Plant Cymru i elwa o newidiadau mawr mewn chwaraeon22 November 2011Bydd newidiadau mawr yn y ffordd y mae plant yng Nghymru’n cael dysgu’r sgiliau i gymryd rhan mewn chwaraeon yn cyrraedd ysgolion a chlybiau yn 2012.
Eisiau cael eich ysbrydoli? Darllenwch stori Mark Colbourne22 November 2011Os ydych chi angen ysbrydoliaeth, does dim rhaid chwilio ymhellach na Mark Colbourne. Torrodd ei gefn ym mis Mai 2009 mewn damwain wrth baragleidio. Ddwy flynedd a hanner yn ddiweddarach, enillodd y gŵr 41 oed fedal arian ym Mhencampwriaethau Parafeicio Ffordd y Byd.
Eich llwybr chi i Lundain 201222 November 2011Gyda dim ond 248 o ddyddiau i fynd nes bydd y Gemau Olympaidd yn cychwyn yn Llundain, mae ychydig o flas ar Lundain ar ei ffordd i Gymru.
- Newyddion yn Fyr22 November 2011
Rhaid caur bwlch tlodi mewn chwaraeon, dywed McAllister22 November 2011Mae’n ffaith drist am y byd chwaraeon bod gan yr ardaloedd gyda’r incwm teuluol is na’r cyfartaledd lefelau is na’r cyfartaledd hefyd o gyfranogiad mewn chwaraeon ac o aelodaeth o glybiau chwaraeon.
Hyfforddwr pencampwr byd yn cipio teitl Cymru16 November 2011Wedi sicrhau teitl a record byd eisoes eleni i athletwr sy’n gobeithio ennill lle yn Llundain 2012, heddiw, mae hyfforddwr chwaraeon anabledd wedi ychwanegu teitl Hyfforddwr y Flwyddyn Chwaraeon Cymru at ei restr o lwyddiannau.
- Clwb codi pwysau newydd yn Wrecsam yn cael hwb gan Chwaraeon Cymru08 November 2011
Mae clwb codi pwysau newydd sbon yn Wrecsam – y cyntaf o’i fath yng Ngogledd Ddwyrain Cymru –wedi cael hwb mawr diolch i gefnogaeth gan Chwaraeon Cymru.
Llai Unedig yn sicrhau llwyddiannau lu ymhlith ieuenctid lleol08 November 2011Mae tîm pêl droed llewyrchus yn Wrecsam yn cael llwyddiant ysgubol, gyda channoedd o bêl droedwyr ifanc ar hyd a lled y sir yn cael tymor penigamp o gyflawniadau.
Hyfforddwr gymnasteg ysbrydoledig yn rownd derfynol y gwobrau chwaraeon anrhydeddus08 November 2011Mae hyfforddwr gymnasteg ysbrydoledig o Abertileri, sydd wedi treulio hanner ei oes yn helpu ieuenctid i fwynhau’r gamp, wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau anrhydeddus Hyfforddwr y Flwyddyn Chwaraeon Cymru 2011.
Cydnabod myfyriwr o Sir y Fflint am ysbrydoli miloedd o ieuenctid i roi cynnig ar chwaraeon08 November 2011Mae myfyriwr o Sir y Fflint, sydd wedi ysbrydoli miloedd o bobl ifanc eraill i roi cynnig ar chwaraeon, wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau anrhydeddus Hyfforddwr y Flwyddyn Chwaraeon Cymru 2011.
Hyfforddwraig pêl rwyd o Seland Newydd yn sicrhau lle yn rownd derfynol y gwobrau anrhydeddus i hyfforddwyr08 November 2011Mae Prif Hyfforddwr ysbrydoledig Pêl Rwyd Cymru o Seland Newydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau anrhydeddus Hyfforddwr y Flwyddyn Chwaraeon Cymru 2011.
Hyfforddwr hwylio ysbrydoledig yn llywio cwrs at gydnabyddiaeth arbennig08 November 2011Bydd hyfforddwr hwylio ysbrydoledig o Ogledd Cymru, sydd wedi llwyddo i oresgyn canser i ddal ati â’i hyfforddiant sydd wedi para bron i 50 mlynedd, yn derbyn gwobr arbennig yng Ngwobrau anrhydeddus Hyfforddwr y Flwyddyn Chwaraeon Cymru 2011.
Hyfforddwr pêl droed yn sicrhau lle yn rownd derfynol y gwobrau anrhydeddus i hyfforddwyr08 November 2011Mae hyfforddwr pêl droed o Ganolbarth Cymru, sydd wedi bod yn allweddol yn y gwaith o ddatblygu pêl droed merched, wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau anrhydeddus Hyfforddwr y Flwyddyn Chwaraeon Cymru 2011.
- Cefnogwyr diweddaraf chwaraeon Cymru04 November 2011
Mae busnesau a sefydliadau wedi ymuno â Chwaraeon Cymru er mwyn dangos eu cefnogaeth i bobl ar bob lefel, o lawr gwlad i berfformiad uchel.
- Athletwyr yn ysbrydoli gwirfoddolwyr ifanc sydd wedi gwirioni ar chwaraeon yn sir Ddinbych24 October 2011
Roedd gwibiwr Olympaidd yn Sir Ddinbych yn ddiweddar i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr chwaraeon mewn digwyddiad arbennig.
Gwobr ariannol i Prizefighter20 October 2011Mae cartref i focswyr o’r safon uchaf yng Nghaerfyrddin yn gobeithio profi’n lleoliad sy’n taro deuddeg ymhlith cyfranogwyr ifanc addawol.
- Cofrestr chwaraeon ar agor i ysgolion Cymru13 October 2011
Wrth i bobl ar hyd a lled y byd aros i glywed a ydynt wedi sicrhau tocynnau ar gyfer Llundain 2012, gall ysgolion yng Nghymru warantu cyfran i’w disgyblion nhw.
- Neges pob lwc Laura McAllister i dîm rygbi Cymru13 October 2011
Tra bod Cymru gyfan wedi’i swyno gan gampau cyffrous ‘Bechgyn Sam’ - wrth iddynt baratoi ar gyfer eu rownd gynderfynol fawr yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn - mae Cadeirydd Chwaraeon Cymru, yr Athro Laura McAllister yn rhannu neges yn dymuno pob lwc i arwyr Gatland.
- Annog ysgolion Cymru i sicrhau tocynnau Llyndain 201213 October 2011
Wrth i bobl ar hyd a lled y byd yn edrych ymlaen at Llundain 2012, gall ysgolion yng Nghymru warantu cyfran i’w disgyblion nhw.
Cyfle i enwebu arwyr y byd hyfforddi a gwirfoddoli yng Nghymru19 August 2011O’r goreuon ar lawr gwlad i i’r rhai sydd wedi ennill bri yn cipio medalau aur, mae Chwaraeon Cymru’n chwilio am arwyr chwaraeon y genedl.
Jackanory a chartwnau yn ceisio cael plant i symud09 August 2011Adrodd straeon ac animeiddio yw’r technegau diweddaraf i gael eu defnyddio mewn ymgais i gael plant mor ifanc â thair oed i hopian, sgipio a neidio.
Hwylio gydag ‘OnBoard’ 09 August 2011Mae cynllun ysgol newydd i gael ieuenctid Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot i hwylio’n rheolaidd eisoes yn cynhyrfu’r dyfroedd.
Llysgennad Ifanc yn ychwanegu sglein at rôl wirfoddoli29 July 2011Nid yw Maciej Szukala yn ddyn ifanc cyffredin. Ar ôl symud i Wrecsam o’i famwlad, Gwlad Pwyl yn 2005, goresgynnodd Maciej y rhwystrau ieithyddol drwy fynd ati’n syth i wirfoddoli.
Gowers yn arwain hwylwyr un cam yn nes at Lundain 201229 July 2011Mae hyfforddwr hwylio Olympaidd, Chris Gowers, yn obeithio bydd llwyddiant 2012 i hwylwyr o yn dod mwy o bobl ifanc i’r sbort.
Tom James yn anelu at lwyddiant Olympaidd i ysbrydoli athletwyr y dyfodol29 July 2011Enillwr medal aur, y rhwyfwr Tom James, yn anelu at mwy o lwyddiant yn Llundain 2012 i ysbrydoli athletwyr Cymraeg y dyfodol.
Miloedd yn mwynhau awyr agored Gogledd Cymru11 July 2011Mae miloedd o bobl yn codi allan i fwynhau gweithgareddau awyr agored, ac i fwynhau cefn gwlad hardd Gogledd Cymru ar yr un pryd.
Ysbrydoliaeth Llundain 2012 Yn Cyrraedd Ysgol Brynhyfryd01 July 2011Wythnos yma bu plant ysgol yn Rhuthun yn dathlu Wythnos Chwaraeon Ysgol Genedlaethol Lloyds TSB eleni.
Disgyblion Ysgol Uwchradd Prestatyn yn cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Lloyds TSB29 June 2011Heddiw mae plant ysgol o Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi nodi Wythnos Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB eleni.
Darren Campbell am helpu i sicrhau llwyddiant medalau i Gymru28 June 2011Mae enillydd medalau aur ac arian Olympaidd, Darren Campbell, wedi cael ei benodi i helpu gyda sicrhau llwyddiant wrth ennill medalau i Gymru yng Ngemau Cymanwlad 2014.
Pêl Droed Sandfields yn troi’n Latino24 June 2011Mae ffenomenon pêl droed o Dde America wedi cydio yn ysgolion Castell-nedd Port Talbot, yn y gobaith o wella techneg y genhedlaeth nesaf o dalent.
Annog ysgolion i lenwi cyfrifiad chwaraeon17 June 2011Mae merch ifanc o’r Olchfa sy’n hoff iawn o chwaraeon yn un o’r disgyblion cyntaf i lenwi arolwg cenedlaethol ar chwaraeon ysgol, ac mae’n annog disgyblion de orllewin Cymru i wneud yr un peth.
CHWARAEON CYMRU’N CYNNAL CYFRIFIAD YSGOLION17 June 2011Mae penaethiaid chwaraeon Cymru’n annog ysgolion i osod cyfrifiad chwaraeon ar frig uchaf eu rhestr y tymor yma.
Ysgolion Llandudno yn mynd yr ail filltir dros chwaraeon09 June 2011Mae ysgolion Llandudno yn mynd yr ail filltir er mwyn rhoi cyfle i fwy o ferched a phlant ag anableddau gymryd rhan mewn chwaraeon a bod yn egnïol.
Cofrestr chwaraeon ar agor i ysgolion Cymru02 June 2011Wrth i bobl ar hyd a lled y byd aros i glywed a ydynt wedi sicrhau tocynnau ar gyfer Llundain 2012, gall ysgolion yng Nghymru warantu cyfran i’w disgyblion nhw.
Torchwch eich llewys yn eich clwb chwaraeon lleol yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr01 June 2011Beth am dorchi eich llewys yn eich clwb chwaraeon lleol yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr - dyma apêl ddiweddaraf Chwaraeon Cymru.
Pwerdy Ping Pong Pwysig25 May 2011Mae Gogledd Cymru wedi’i sefydlu’i hun fel cadarnle ar gyfer tenis bwrdd, gan feithrin sawl chwaraewr ifanc rhyngwladol addawol.
Clwb athletau newydd i ddreigiau ifanc23 May 2011Mae tua 400 o ddisgyblion cynradd wedi cael eu rhoi ar y trac cywir tuag at athletau yn Llanelli.
Arian cymunedol yn hwb i glwb carate newydd13 May 2011Bydd mwy o arian i garate yn Sir Gaerfyrddin yn gyfle i glwb newydd sbon yn Llandybie ddod yn ganolfan ar gyfer cystadlaethau crefftau ymladd.
Ieuenctid Ynys Môn yn cael cyfle teg21 April 2011Mae pobl ifanc Ynys Môn yn creu chwyldro yn y byd chwaraeon, chwyldro sy’n dod ag ysgolion a chlybiau cymunedol yn nes at ei gilydd.
Clwb pêl droed llwyddiannus yn Wrecsam yn denu merched a chwaraewyr anabl21 April 2011Mae clwb pêl droed hynod lwyddiannus yn Wrecsam yn annog mwy o ferched a chwaraewyr ag anableddau nag erioed o’r blaen i roi cynnig ar y ‘gêm brydferth’.
Dawnswyr ifanc yn paratoi ar gyfer Llundain 201214 April 2011Mae myfyrwyr sy’n hoff o chwaraeon mewn ysgol yng Ngogledd Cymru yn profi bod Gemau Olympaidd Llundain 2012 wir yn achlysur i ddawnsio yn ei gylch.
Ysgolion Cymru’n dathlu llwyddiant mewn AG14 April 2011Mae ysgolion ledled Cymru wedi cael seren aur am eu safonau uchel mewn AG.
Chwaraeon yn enillydd diolch i hwb ariannol gan y Gist Gymunedol13 April 2011Bydd clybiau ar hyd a lled Cymru ar ben eu digon, wedi hwb ariannol i grant chwaraeon poblogaidd.
Dewis merch ifanc o Geredigion am brofiad Olympaidd05 April 2011Mae merch ifanc un ar bymtheg oed o Lanbedr Pont Steffan, sydd wrth ei bodd efo chwaraeon, yn un o blith dim ond chwech o bobl ifanc o bob cwr o’r DG sydd wedi cael eu dewis ar gyfer lleoliad profiad gwaith fel rhan o Gemau Olympaidd Llundain.
Hwb o £5,000 i ganolfan feicio Doc Penfro31 March 2011Bydd olwynion canolfan feicio newydd yn Noc Penfro yn dal i droi – a bydd perfformiad y beicwyr yno’n gwella – waeth beth yw’r tywydd.
Denu ieuenctid at gamp newydd31 March 2011Mae disgyblion ysgol yn Abertawe’n cael cyfle i roi cynnig ar godi pwysau Olympaidd yn awr, o dan arweiniad hyfforddwyr arbenigol, diolch i sesiynau chwaraeon 5x60.
Grym chwaraeon yn arwain at fywyd yn y lôn gyflym 31 March 2011Fe fyddai bywyd yn llawer iawn arafach yn sicr i James Ledger a’i deulu oni bai am chwaraeon.
Paul Thorburn, cyn chwaraewr rygbi cenedlaethol Cymru, ymysg y penodiadau newydd i Chwaraeon Cymru29 March 2011Mae Paul Thorburn, cyn chwaraewr rygbi cenedlaethol Cymru, yn un o'r chwe aelod bwrdd newydd ar gyfer Chwaraeon Cymru, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones heddiw.
Chwaraeon yn cefnogi cryfder ysgerbydol22 March 2011Gall ymarfer yn rheolaidd helpu i gadw eich esgyrn yn iach, yn ôl Chwaraeon Cymru a’r Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Osteoporosis.