Annog ysgolion Cymru i sicrhau tocynnau Llyndain 2012
Wrth i bobl ar hyd a lled y byd yn edrych ymlaen
at Llundain 2012, gall ysgolion yng Nghymru warantu cyfran i'w
disgyblion nhw.
Drwy gofrestru gyda rhwydwaith 'Get Set' ledled y DU, bydd yr
ysgolion yn cael cyfran o docynnau'n awtomatig i ddigwyddiadau yn y
Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.
Bydd cyfanswm o 50,000 o docynnau'n cael eu dosbarthu i ysgolion ar
hyd a lled y DU (yn ogystal â neilltuad i ysgolion yn
Llundain).
Get Set yw rhaglen addysgol swyddogol Llundain 2012 ar gyfer
ysgolion a cholegau ledled y DU.
Gyda'r broses ymgeisio syml ar agor yn awr, gall ysgolion a
cholegau sy'n dangos eu bod yn defnyddio gwerthoedd Olympaidd a
Pharalympaidd i wella eu cwricwlwm wneud cais am ymuno â'r
rhwydwaith.
Unwaith y bydd yr ysgolion wedi cofrestru, byddant yn cael
cyfleoedd unigryw a chyfle i gymryd rhan mewn mentrau yn ystod y
cyfnod yn arwain at y Gemau, a gallai hynny gynnwys ymweliadau gan
athletwyr neu deithiau o amgylch y Parc Olympaidd.
Hefyd, gall athrawon a myfyrwyr wneud defnydd o adnoddau am ddim
fel ffilmiau a lluniau, a gallant gymryd rhan mewn cystadlaethau
hefyd.
"Mae bod yn rhan o Lundain 2012 yn gyfle cwbl unigryw ac yn un
rydym am weld pobl ifanc Cymru'n bod yn rhan ohono," meddai'r Athro
Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru.
"Mae'n gyfrwng arall i Gemau Llundain 2012 adael treftadaeth
addysgol, ddiwylliannol a chymdeithasol barhaus.
"Mae cael gwarant o gyfran o'r tocynnau i'r ysgolion yn gymhelliant
enfawr.
"Yr uchelgais yw cael pob ysgol yng Nghymru i gofrestru - mae'n
broses mor syml.
"Gallwn helpu i greu cymuned chwaraeon arbennig rhwng ysgolion yng
Nghymru a thu hwnt."
Cwblheir y broses mewn dwy ran. Mae'r ysgolion yn cofrestru ar y
rhwydwaith i ddechrau ac yna'n cymryd y cam cofrestru nesaf i
dderbyn eu gwobrau.
I ymuno â'r rhwydwaith, dim ond ateb tri chwestiwn sydd raid i'r
ymgeiswyr:
• Pam mae eisiau ymuno?
• Beth maent wedi'i wneud eisoes i ymrwymo i werthoedd
Olympaidd a Pharalympaidd?
• Beth maent yn fwriadu ei wneud yn y dyfodol?
Meddai'r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis:
"Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio'n galed i sicrhau bod Cymru yn
cael budd o Lundain 2012, cyn, yn ystod ac ar ôl y Gemau. Mae sawl
tîm wedi defnyddio Cymru eisoes fel eu canolfannau cynefino
blwyddyn-i-fynd, gan gynnwys Tîm Nofio Olympaidd De Affrica a Thîm
Codi Pwysau Tsieina.
"Mae gwledydd eraill gan gynnwys Seland Newydd, Awstralia, Trinidad
a Tobago, Triathletwyr Iwerddon a'r Gymdeithas Paffio Amatur
Ryngwladol hefyd wedi dewis Cymru ar gyfer eu gwersylloedd ymarfer
swyddogol yn ystod y cyfnod yn uniongyrchol cyn y Gemau. Mae hyn yn
glod i'r cyfleusterau sydd ymhlith y gorau yn y byd sydd gennym yma
ac i waith caled sefydliadau Cymru i ddenu talent elît i
Gymru.
"Mae'n hollbwysig bod profiad Llundain 2012 yn ymestyn y tu hwnt
i'r athletwyr dawnus sy'n cymryd rhan uniongyrchol yn y Gemau. Mae
rhaglen 'Bydd Barod' yn gyfle gwych i bobl ifanc fod yn rhan o'r
profiad hwnnw ac i ddysgu'r gwerthoedd Olympaidd ehangach fel
penderfyniad, gwaith tîm a cheisio bod y gorau y gallwch chi ei
fod."
Anogir yr ysgolion sydd wedi cofrestru, ond nad ydynt wedi cymryd y
cam nesaf i ymuno, i gwblhau eu ceisiadau cyn dyddiad cau 16
Rhagfyr 2011.
Meddai'r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews:
"Mae menter Bydd Barod yn cynnig cyfle i ysgolion ddefnyddio pŵer
Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 i gynnwys pobl ifanc
ym mhob agwedd ar y cwricwlwm.
"Mae'r cynllun yn ysbrydoli pobl ifanc i roi cynnig ar chwaraeon yn
yr ysgol a'r gymuned ehangach ac i fyw bywydau iach a gweithgar, yn
ogystal â'u hannog i ddatblygu eu sgiliau yn gyffredinol, o
lythrennedd a rhifedd i greadigrwydd ac arloesedd."
Gall athrawon neu Lysgenhadon Aur neilltuedig yr Ymddiriedolaeth
Chwaraeon Ieuenctid gyflwyno'r cais ar ran yr ysgol.
Ymunwch â'r rhwydwaith nawr yn getset.london2012.com/cy/hafan.