CARWCH EICH CALON A HELPWCH I LEIHAU PROBLEMAU CARDIAG CYMRU, MEDD ARBENIGWYR
Ar ddiwrnod arwyddocaol i'r galon yng Nghymru, dywed arbenigwyr
iechyd ei bod yn amser i gyhoedd Cymru ganolbwyntio ar ymarfer a
chwaraeon yn y frwydr yn erbyn afiechyd y galon yn y
wlad.
Anogir cyhoedd Cymru i reoli iechyd eu calon drwy wneud
ymrwymiad i gymryd rhan mewn mwy o chwaraeon ac ymarfer, gan helpu
i leihau'r 11,000 o farwolaethau1 bob
blwyddyn a helpu'r miloedd yn rhagor sy'n dioddef o salwch y
galon.
Mae arbenigwyr y GIG, y byd addysg, Llywodraeth y Cynulliad a
Chwaraeon Cymru wedi dod at ei gilydd er mwyn hybu neges iechyd y
galon ar ddiwrnod Santes Dwynwen (dydd Mawrth 25ain
Ionawr) - Nawddsant y Cariadon yng Nghymru.
Mae'r cydweithredu'n dilyn lansiad Gweledigaeth ar gyfer
Chwaraeon yng Nghymru i'r sector gyfan, a luniwyd gan Chwaraeon
Cymru a'i bartneriaid yn y diwydiant er mwyn tynnu sylw at
effeithiau cadarnhaol niferus chwaraeon.
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABM), mae
arbenigwyr yn uned gardiag Ysbyty Treforys yn gwneud rhyw 1800 o
driniaethau cymhleth bob blwyddyn - yn cynnwys llawdriniaethau
agored ar y galon - ac maent wedi sicrhau cyfraddau goroesi "uwch
na'r disgwyl" mewn adroddiadau ledled y DG.
Ac yn ôl Dr James Barry, cardiolegydd ymgynghorol yng Nghanolfan
Gardiag Ranbarthol Ysbyty Treforys, byddai ffyrdd o fyw iachach, yn
cynnwys ymarfer, yn cael dylanwad cadarnhaol ar nifer yr achosion o
afiechyd rhydwelïol y galon.
Meddai:
"Rydym yn gwybod ers peth amser bod llai o afiechyd y
galon yn bodoli ymhlith grwpiau o bobl sy'n ymarfer.
"Nid yw lefelau'r ymarfer sy'n ofynnol yn anferth ond,
yn anffodus, mae'r gyfradd sy'n eu cyflawni yn y DG cyn lleied ag
un o bob pedwar. Ond dydi hi ddim yn rhy hwyr i ddechrau. Gall
ymarfer, fel rhan o raglen adfer i ddechrau, gael effaith fawr ar
adferiad claf wedi trawiad ar y
galon.
"Mae ymarfer yn cael sawl effaith ar y galon; mae'n ei
hyfforddi i bwmpio'n fwy effeithlon, gan leihau'r angen am ocsigen,
mae'n annog rhydwelïau newydd i gymryd lle rhydwelïau sydd wedi
blocio neu gulhau - gan greu llwybr osgoi eu hunain mewn ffordd - a
gwelwyd ei fod yn arafu'r culhau sy'n digwydd i rydwelïau'r
galon.
"Yn ogystal â newidiadau i'r galon, mae ymarfer hefyd yn
helpu drwy ostwng pwysedd gwaed, newid y proffiliau lipid a
chynyddu sensitifrwydd y corff i inswlin."
Nod Chwaraeon Cymru yw cael pob plentyn wedi gwirioni ar
chwaraeon am oes, fel eu bod yn elwa o'r manteision am byth.
Mae Dr Mark Ridgewell, ffisegydd chwaraeon gyda
Chwaraeon Cymru, yn gofalu am iechyd athletwyr Cymru, yn cynnwys y
rhai a gystadlodd yn y Gemau Cymanwlad diweddar.
Yn feddyg wrth ei waith bob dydd, mae'n bennaeth meddygaeth
chwaraeon gyda Chymdeithas Bêl Droed Cymru ac yn ffisegydd
chwaraeon gyda sgwad rygbi'r Scarlets.
Yn awyddus i gefnogi'r neges ynghylch ymarfer i gael calon iach,
meddai:
"Yn sicr byddwn yn gweld llai o gleifion gydag afiechyd
y galon pe bai ymarfer wedi bod yn rhan reolaidd o'u
bywyd.
"Mae cydbwysedd y gweithgarwch yn bwynt pwysig. Mae
llawer o bwysau ar i bobl leihau'r calorïau maent yn eu bwyta, ond
mae ymarfer yr un mor bwysig. Os bydd unigolyn yn llosgi mwy o
galorïau nag y mae'n eu bwyta, yna bydd yn cadw'n heini ac
iach.
"Gwelwyd llawer o ymdrech i leihau nifer y bobl sy'n
ysmygu a faint o galorïau mae pobl yn eu bwyta a thynnu sylw at
wahanol fathau o ddeiet. Efallai mai nawr yw'r amser i ganolbwyntio
ar weithgarwch corfforol a chwaraeon.
"Mae'n golygu cynnwys ymarfer a chwaraeon yn eich trefn
ddyddiol. Mae'n rhaid ymarfer yn rheolaidd - yn ddelfrydol, am 30
munud bum gwaith yr wythnos. Os nad yw hynny'n bosibl, yna ymarfer
yn ddwysach deirgwaith yr wythnos o leiaf.
"Does dim rhaid mynd i gym i ymarfer. Rydym yn gwybod
bod rhai pobl yn ofni'r syniad o fynd i'r gym. Gall loncian a
cherdded fod yn ymarfer cardiofasgiwlar da, neu ddawnsio hyd yn
oed. Y cyfan mae'n ei olygu yw newid eich arferion.
"Gall chwaraeon mewn clwb neu grŵp fod yn dda oherwydd
amrywiaeth y gweithgarwch a'r agwedd gymdeithasol. Ond mae'n rhaid
wrth ddwysedd, a gwneud yn siŵr ei fod yn
rheolaidd.
"Yn fy mhractis i yn y Mwmbwls, mae gennym boblogaeth
eithaf egnïol. Felly er bod gennym gyfran uchel o bobl hŷn yn byw
yn yr ardal, mae cyfradd yr afiechyd ar y galon yn is nag mewn sawl
ardal drefol sydd â phoblogaeth iau."
Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod cyswllt rhwng lefel uwch o
ffitrwydd corfforol pan yn blentyn ac yn yr arddegau â phroffil
cardiofasgiwlar iachach a llai o risg o ddatblygu afiechydon
cardiofasgiwlar pan yn hŷn.2
Mae'r Athro Robert Shave wedi astudio effaith ymarfer a
gweithgarwch corfforol ar y system gardiofasgiwlar yn ystod ei
yrfa'n gweithio ym Mhrifysgol Brunel, Canolfan Feddygol Olympaidd
Prydain ac, erbyn hyn, Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (APCC).
Yn arbenigwr adnabyddus ar ffisioleg chwaraeon ac ymarfer ar
gyfer athletwyr dygnedd, cleifion yn gyffredinol a'r rhai sydd wedi
cael trawiad ar y galon, meddai:
"Mae ymarfer yn faes sy'n cael ei esgeuluso'n aml o ran
ei bwysigrwydd i iechyd. Ceir dadl mai hon yw'r ffactor bwysicaf i
iechyd.
"Cyhyr yw'r galon a gellir ei hyfforddi i weithio'n fwy
effeithlon. Gall hyfforddiant ymarfer ostwng pwysedd gwaed a
chyfradd y galon, gan olygu nad oes raid i'r galon weithio mor
galed a bod llai o straen arni.
"Yn gyffredinol, daw'r gweithgareddau y mae'n rhaid i
chi eu gwneud o ddydd i ddydd yn haws drwy ymarfer.
"Hyd yma, mae llawer o'r gwaith wedi canolbwyntio ar
ddeiet, fodd bynnag, efallai mai 'ffitrwydd' ac nid 'tewdra' yw'r
mater pwysicaf wrth edrych ar iechyd y galon."
Afiechyd Coronaidd ar y Galon (ACG) sy'n gyfrifol am y nifer
uchaf o farwolaethau yn y Deyrnas Gyfunol, ac yn arbennig yng
Nghymru, lle mae'r gyfradd farwolaeth yn uwch nag ym mwyafrif
gwledydd Gorllewin Ewrop.
Ceir tystiolaeth bod perthynas uniongyrchol rhwng gweithgarwch
corfforol a statws iechyd, gyda'r gwelliannau pennaf i'w gweld pan
fydd y bobl leiaf heini'n penderfynu bod yn
egnïol.3
Y llynedd, canmolwyd rhaglen sy'n helpu pobl i leihau'r risg o
ddatblygu cyflyrau iechyd cronig am ei heffaith economaidd, yn
dilyn gwerthusiad allweddol a gynhaliwyd gan brifysgolion Caerdydd
a Bangor.
Mae Cynllun Cyfeirio at Ymarfer Cenedlaethol Cymru'n galluogi i
feddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill gyfeirio
cleifion sydd mewn perygl o ddioddef o afiechyd cronig at raglen
ymarfer strwythuredig a fydd yn eu helpu i wella eu
hiechyd.
Meddai Dr Tony Jewell, Prif Swyddog Meddygol Cymru:
"Mae gweithgarwch corfforol yn rhan allweddol o ffordd
iach o fyw. Rydym yn cydnabod y gost o ran iechyd a'r gost ariannol
i'r unigolyn ac i'r gwasanaeth iechyd o ganlyniad i ddiffyg
gweithgarwch corfforol. Rydym wedi bod yn
gweithio'n galed i roi sylw i hyn ac mae'r cynllun cyfeirio at
ymarfer yn gam pwysig ac adeiladol i annog pobl gyda salwch cronig
i gynnwys ymarfer fel rhan annatod o'u bywyd bob
dydd.
"Mae ein hymgyrch Newid Am Oes yn ceisio annog mwy o
bobl i ddod yn fwy egnïol yn amlach ac mae gwaith ymchwil wedi
dangos bod ymarfer corff a chymryd rhan mewn chwaraeon nid yn unig
yn gwella eich iechyd corfforol ac yn llesol i'ch calon, ond hefyd
mae o fudd i'ch lles meddyliol."
Dylai unrhyw bobl sydd â chyflwr iechyd siarad â'u
meddyg teulu i ddechrau, cyn mynd ati i
ymarfer.
Am ragor o wybodaeth am y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng
Nghymru
cliciwch yma neu ewch i www.chwaraeoncymru.org.uk.
Gary Langdon
Wedi llawdriniaeth ddargyfeiriol pum-llwybr ar y galon a chael
falf calon newydd, mae Gary Langdon yn cadw mewn siâp ar gyfer y
dyfodol gyda sesiynau ymarfer rheolaidd.
Roedd y gŵr 70 oed o Glydach, ger Abertawe, yn dioddef o angina
er 1991 cyn bod angen y llawdriniaeth fawr yn Ysbyty Treforys yn
2005.
Gyda sesiynau ffitrwydd rheolaidd yn ei Ganolfan Adnoddau
Cymunedol leol yn Forge Fach, mae'n elwa o ymarfer yn fwy nag
erioed.
Meddai Gary, a arferai fod yn berchennog ar fusnes
peirianneg:
"Gyda'r angina, doeddwn i ddim yn gallu ymarfer llawer,
ac wedyn fe gefais i'r llawdriniaeth fawr.
"Wedi ychydig fisoedd o adfer, fe roddodd yr ysbyty
raglen ymarfer i mi. Roedd dewis da iawn o beiriannau yno -
beiciau, melinau cerdded a stepwyr. Roeddwn yn nerfus i ddechrau
ond roedd fy mrest yn cael ei monitro ac yn raddol fe wnes i fagu
hyder.
"Pan wnes i adael yr ysbyty, fe wnes i ddal ati mewn
grŵp cymunedol a nawr rwy'n mynychu ambell sesiwn bob wythnos.
Rwy'n gwneud digon o ymarferion cardiofasgiwlar i gryfhau'r
galon.
"Mae fy nghardiolegydd yn dweud wrthyf am ddal ati gan
fy mod yn elwa cymaint. Rwy'n teimlo y gallwn ddal ati fel hyn am
byth.
"Rwy'n mwynhau cerdded a beicio gyda'm gwraig ac rwy'n
gwneud yn siŵr fy mod yn bwyta'n iach."
Phil Jones
Ac yntau'n 69 oed, mae Phil Jones yn un person sydd wedi bod yn
iach iawn gydol ei oes ac sy'n dal i feicio dros Glwb Beicio Bynea
yn Llanelli wedi mwy na hanner canrif ar gefn ei
feic.
Byddai ei dad, Authur, yn mynd ag e ar deithiau hamdden pan oedd
ond yn 12 oed. Mae Phil, sy'n byw ym Mhwll ac sy'n beicio bob dydd
bron, wedi gwirioni ar y gamp byth ers hynny.
Meddai:
"Roeddwn yn arfer mynd i feicio gyda'm tad ar lwybrau
gwledig o amgylch Llanelli ac i lawr i Gydweli. Pan oeddwn yn 16
oed, fe wnes fy nhreial amser cyntaf a dechrau cymryd rhan yn ochr
gystadleuol y gamp.
"Pan oeddwn yn 35 oed, roeddwn ar frig tabl y treialon
amser yng Nghymru am y 50 milltir, y 100 milltir a'r marathonau 12
awr.
"Symudais ymlaen i'r lefel feteran yn 40 oed, gan ddal
ati i ennill teitlau yn fy ngrŵp oedran. Wedi cyrraedd 60 oed, fi
oedd y cyflymaf yn y treialon amser yng Ngorllewin Cymru yn y
categorïau dros 20, 30 a 50
milltir ac mae hynny'n wir o hyd a minnau dros 65 oed.
"Rwyf wrth fy modd yn beicio, dyna fy angerdd. Rwy'n
ceisio mynd ar fy meic bob dydd. Os yw'n llithrig ar y ffyrdd
byddaf yn mynd ar fy mheiriant tyrbo yn y garej.
"Mae'r ymarfer yn gwneud rhywbeth i mi, rwyf bob amser
yn teimlo'n well wedyn. Dydw i erioed wedi cael unrhyw salwch
drwg.
"Fe fues i'n gweithio shifftiau am 44 o flynyddoedd ac
roeddwn yn arfer mynd i feicio rhwng gwaith. Fe ddaeth yn
arferiad.
"Mae ochr gymdeithasol i'r clwb hefyd, yn ogystal â
chadw'n heini. Byddwn yn annog unrhyw un i roi cynnig
arni."